Colofn Fiona Gannon

Beth oedd eich teimladau chi wrth wylio Cwpan y Byd yn
ddiweddar? Yn ddiamau, roedd yn dipyn o gamp bod Cymru
wedi llwyddo i gyrraedd y gystadleuaeth, a hynny am y tro
cyntaf ers blynyddoedd lawer, ac roedd yn wych bod hynny
wedi cynyddu ymwybyddiaeth pobl ar draws y byd o fodolaeth Cymru, ond wrth gwrs, roedd y ffaith bod y gystadleuaeth wedi’i lleoli yn Qatar, lle nad oes parch i hawliau dynol, yn destun pryder sylweddol, gyda llawer yn mynd mor bell â honni na ddylsai’r gystadleuaeth fynd yno o gwbl.

Gan fod bywydau pobl LHDTC+ mewn perygl yn Qatar, roedd sôn wedi bod y byddai pêl- droedwyr Cymru a Lloegr yn gwisgo band enfys ar eu breichiau wrth chwarae, yn arwydd o brotest, ond yn y diwedd, ni ddigwyddodd hynny, oherwydd bod FIFA wedi bygwth cosbau llym. Wrth gwrs, fel rydyn ni’n gwybod, mae arian yn rym pwerus iawn yn myd pêl-droed, a gall fod yn eithriadol o anodd i unrhyw dîm, heb sôn am unigolyn, sefyll yn gadarn yn erbyn y per hwnnw. Ond fe wyddom hefyd am berygl y sefyllfa honno, oherwydd fel y dywedodd Iesu:

Allwch chi ddim bod yn was i Dduw ac i arian ar yr un pryd.

Er gwaethaf bygythiadau yn eu herbyn, gwelsom rai yn mentro protestio, – gwrthododd holl aelodau tîm Iran, er enghraifft, ganu eu hanthem genedlaethol ar ddechrau eu gêm yn erbyn Lloegr, yn arwydd o’u gwrthwynebiad i sut mae cyfundrefn eu gwlad yn trin pobl, yn arbennig benywod. Er eu bod wedi gwneud eu protest yn llai amlwg cyn y gêm yn erbyn Cymru, mae perygl y gallen nhw wynebu cosb ddifrifol ar ôl mynd adref, gan fod eu safiad wedi codi gwrychyn y rhai sy’n llywodraethu drostynt.

Beth yw neges hyn i ni, felly? P’un a oedd gennym deimladau cryf ynghylch y pêl-droed yn Qatar neu beidio, ar ryw adeg byddwn ninnau’n cael ein herio i wneud safiad yn erbyn anghyfiawnder – fyddwn ni’n barod i wneud hynny – a thalu’r pris? Os byddwn ni’n petruso, ac yn ofni y cawn ein gadael yn sefyll yn ynysig, cofiwn am eiriau Duw i Elias, pan oedd yntau’n ofni ei fod heb gefnogaeth:

Gyda llaw, mae gen i saith mil o bobl yn Israel sydd heb fynd i lawr ar eu gliniau i addoli Baal

Yn wir, os safwn ni’n gadarn, efallai bydd hynny’n rhoi hyder i eraill sydd heb wneud safiad amlwg hyd yma godi eu lleisiau hwythau yn erbyn anghyfiawnder. Byddai hynny’n sicr yn gydnaws ag ysbryd chwyldroadol y Nadolig, fel y’i mynegir yn y Magnificat:

Mae Duw, yr Un Cryf, ... wedi defnyddio’i rym i wneud pethau rhyfeddol! – Mae wedi gyrru y rhai balch ar chwâl. Mae wedi cymryd eu hawdurdod oddi ar lywodraethwyr, ac anrhydeddu’r bobl hynny sy’n neb. Mae wedi rhoi digonedd o fwyd da i’r newynog, ac anfon y bobl gyfoethog i ffwrdd heb ddim!

Yn yr ysbryd hwnnw, felly, Nadolig Llawen i bawb ohonoch, a boed 2023 yn Flwyddyn Newydd Dda – a chwyldroadol – i bawb ohonom!

2. Dec, 2022

0

Latest comments

28.09 | 11:17

Hoffem llongyfarch Dr Fiona Gammon ar ei swydd newydd . Pob d...

19.09 | 09:07

Methu ymuno borema, 19 Medi am 10am. Ydi'r amser neu'r ddolen gy...

13.01 | 16:51

Diolch yn fawr, Melda. Roedd criw Capel y Nant wedi gwerthfaw...

08.01 | 15:43

Braf oedd cael eich cwmni yn Llwynrhydowen. Galwch eto!