BLE'R Y'N NI - A PHWY YW PWY

BLE MAE CAPEL Y NANT?

SUT I GYRRAEDD CAPEL Y NANT, CLYDACH, ABERTAWE SA6 5HB

Mae Capel y Nant ynghanol Clydach, hen bentref pyllau glof a gweithfeydd metal i'r gogledd o Abertawe ar heol y B4603. Mae'r capel wedi'i leoli ar Heol y Nant sy'n cysylltu รข phrif stryd siopa'r pentref, sef High Street.

Ein cyfeiriad yw: Capel y Nant, Heol y Nant, Clydach, Abertawe SA6 5HB.

*** Mae lleoliad Capel y Nant i'w gael o chwilio ar y we. Rhowch '- Capel y Nant Clydach' i mewn i'ch chwiliwr ac fe ddaw Google Maps i ddangos safle'r capel yn Heol y Nant.

Wrth deithio o gyfeiriad dinas Abertawe a'r M4, ymunwch a'r B4603 ar gylch traffig Ynysforgan (Cyffordd 45), sef hen brif ffordd Cwm Tawe. Ewch drwy Ynystawe ac ymlaen heibio i'r hen Hebron ar y chwith i gyrraedd canol Clydach. Trowch i'r chwith, i Heol y Nant, wrth Siop Spar. Ewch ymlaen gan fynd heibio i Sybil Street a Down Street sy'n torri ar draws ac fe welwch Capel y Nant a Neuadd y Nant ar y dde.

Wrth ddod o gyfeiriad Pontardawe, ewch i ganol Clydach gan basio'r troad i Archfarchnad y Co-op ar y chwith a throwch i'r dde i Heol y Nant wedi i chi fynd heibio i'r llyfrgell, ar y dde, a chyrraedd cornel Siop Spar.

Mae gwasanaethau bysiau yn cysylltu Clydach ag Abertawe a phentrefi gogledd Cwm Tawe .

CAPEL Y NANT - YN HEOL Y NANT, CLYDACH, ABERTAWE SA6 5HB

PWY YDY PWY? EIN SWYDDOGION ...

ARWEINYDD AC YSGRIFENNYDD

Robat Powell, 01792 794665

           Ebost: powell.rg@btinternet.com   

CYN-ARWEINYDD : 

Y Parch Dewi Myrddin Hughes, 01792 843440

            Ebost: dewiannette@gmail.com 


CADEIRYDD

Eurig Davies

Cyn-Gadeirydd: 

Y Barnwr Geraint Walters

Ysgrifennydd : 

Robat Powell , 01792 794665

160 Vicarage Road , Treforys, Abertawe SA6 6DT

 Trysorydd: 

Ann Williams, 01792 896071

CROESO I BAWB I'N PLITH

Eglwys sy'n falch i groesawu ymwelwyr

Rydym yn eglwys groesawgar iawn sy'n falch o weld ymwelwyr yn taro mewn i weld shwd bobl ydyn ni a shwd eglwys sydd ar waith yma.

Byddwch wedi nodi rhestr o'n prif swyddogion uchod, gan gynnwys eu manylion cysylltu.

Rydym yn annog cymaint a phosib o'n haelodau i fod yn weithgar wrth wasanaethu Duw yn ol eu doniau yn yr eglwys.

Rydym yn falch arbennig y cawsom y Parch Dewi Myrddin Hughes, cyn-Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, yn gyd-aelod ers i ni ymffurfio yn 2008 - yn arbennig gan iddo gytuno bod yn 'Arweinydd' arloesol arnom.


Ym mis Ionawr, 2013, yn dilyn 'ymddeoliad' Dewi, roeddem yn falch iawn bod ein cyd-aelod, y Prifardd Robat Powell, wedi cymryd at swydd Arweinydd Capel y Nant. Mae Robat hefyd yn Ysgrifennydd yr eglwys.


BWRLWM MISOL , GWEFAN A FACEBOOK

O'r cychwyn cyntaf ers i ni gael ein lansio fel eglwys unedig yn 2008, bu gennym gylchgrawn misol o'r enw Bwrlwm yn cael ei olygu a'i ddylunio gan un o'n haelodau, Hywel Davies.

Mae Bwrlwm yn llawn newyddion am weithgarwch yr eglwys - am ein hoedfaon, am hynt a helynt aelodau, am weithgareddau Cristnogol yn y fro a'r byd - gyda lle penodol i'n Harweinydd, y Prifardd Robat Powell, gyfrannu myfyrdodau misol ar ein Ffydd yn ein bywydau (a'r Parch Dewi Myrddin Hughes o'i flaen ef).


Danfonir Bwrlwm allan gyda'r post at bob un o gyfeiriadau aelodau'r eglwys. Caiff pawb, felly, wybod beth sy'n digwydd yn yr eglwys fel eu bod yn gallu cyfrannu i'n datblygiad. Mae hefyd yn ddolen gyswllt o bwys i aelodau nad sydd bellach yn gallu mynychu oedfaon oherwydd henaint neu salwch. Rydym yn cofio amdanyn nhw hefyd.

Trwy Bwrlwm, fe geir syniad go dda o natur fywiog ein heglwys a'n hymrwymiad fel aelodau i ddatblygu ar ein taith ysbrydol o ran ein Ffydd Gristnogol a'n Gwasanaeth i gymuned a byd.

Bwrlwm a Gwefan 

O dan drefn newydd a ddechreuwyd yn 2015, mae cynnwys Bwrlwm bellach yn cael ei gasglu gan dim o wirfoddolwyr sef Sali Wyn Islwyn, Annette a Dewi Hughes, ac Eurig Davies. Maent yn casglu ac yn golygu 3 rhifyn yn eu tro gyda Gwasg Morgannwg, Castell-nedd, yn dylunio ac yn argraffu.

Mae Hywel Davies, a fu'n gyfrifol am Bwrlwm ers 2008, wedi troi at y dechnoleg newydd fel golygydd a lluniwr Gwefan yr Eglwys. *** Gweler:  http://www.capelynant.org/

Tudalen ar Facebook

Yn ystod 2018 mae gyda'r eglwys tudalen ar Facebook hefyd - tudalen sy'n golygu bod ein gweithgareddau amrywiol yn cael sylw ehangach. Hywel, hefyd, sy'n gyfrifol am y tudalen hwn. Os ydych ar Facebook, chwiliwch am 'Capel y Nant Clydach'. 

CLAWR BWRLWM, RHIF 125, Mai 2020

Viv 10.09.2011 18:16

Llongyfarchion!! Gwefan diddorol a chyfoes.

Latest comments

28.09 | 11:17

Hoffem llongyfarch Dr Fiona Gammon ar ei swydd newydd . Pob d...

19.09 | 09:07

Methu ymuno borema, 19 Medi am 10am. Ydi'r amser neu'r ddolen gy...

13.01 | 16:51

Diolch yn fawr, Melda. Roedd criw Capel y Nant wedi gwerthfaw...

08.01 | 15:43

Braf oedd cael eich cwmni yn Llwynrhydowen. Galwch eto!