Gweddi Medi
Dydd Mercher 19eg o Hydref am 2.30
Oedfa ddiolch y Grŵp Bugeilio
Croeso i bawb
Sul Hydref 23ain o Hydref
10.30 : Diolch yr aelodau
Arweinydd:Dr Fiona Gannon
Ac yn am 5 o’r gloch : Diolch Hwyl a Joio
Dewch i ddiolch.
Gweddi’r Mis
Mae gweld dy blant yn lladd ei gilydd yn torri dy galon di.
Dduw da, mae dagrau ein chwiorydd a’n brodyr yn Wcráin ar ein gruddiau ninnau.
Dduw heddwch, sefwn wrth dy ochr a dyheu am heddwch.
Amen
Morwres.Ysgolfeistres. Bardd. Darlithydd. Pregethwr.
Mewn oes pan oedd disgwyl i ferched eistedd adref yn gwnio’n dawel fe gymerodd y ferch arbennig hon lwybr gwbl gwahanol i’w chyfoedion. Yn 26 roedd wedi cael ei chadeirio yn fardd er syndod mawr i bob dyn a gystadlodd a hynny am sgrifennu cerdd am briodas er na phriododd hi ei hun. Daeth Sarah Jane Rees yn enwog nid yn unig yng Nghymru ond ym mhrif ddinasoedd Lloegr ac America ond eto ar ôl yr holl deithio dod nôl i’w milttir sgwar fyddai hi bob tro i Langrannog. Pam tybed? Bydd Cwmni Mewn Cymeriad yn cyflwyno CRANOGWEN ar nos Lun Hydref 10 yn Neuadd/Capel y Nant am 7 o’r gloch. Trefnir dan nawdd Cynllun Noson Allan, Cyngor y Celfyddydau. Tocynnau gan Annette (£7.50/£6)
Sioe Ffasiwn O Law i law
Wedi dwy flynedd o orfod cyfyngu ar weithgareddau cymdeithasol oherwydd COVID-19, roedd yn braf iawn gallu mentro cynnal digwyddiad cymdeithasol i godi arian yn ystod wythnos Cymorth Cristnogol eleni. Efallai ein bod ni ’ n fwy ymwybodol nag erioed yn 2022 o ’ r angen mawr sydd am waith Cymorth Cristnogol mewn cynifer o rannau o ’ r byd, ac mae cyfiawnder hinsawdd a gwrthweithio ’ r difrod mae arferion gwastraffus gwledydd cyfoethog fel Prydain yn ei achosi yn elfen allweddol o ’ u gwaith ymgyrchu. Y syniad gafwyd, felly, oedd rhoi cynnig ar rywbeth newydd a chynnal sioe ‘ ffasiwn gwyrdd ’ yn Neuadd y Nant. Mae siop elusen T ŷ Croeso yn y pentref, O Law i Law, yn mynd o nerth i nerth, felly dewiswyd detholiad o ddillad o ’ r fan honno, a bodlonodd rhyw ddwsin o wirfoddolwyr i fodelu. Roedd yr amrywiaeth lliwgar o ddillad yn edrych yn ddeniadol dros ben, a bu Bill yn gweithredu fel ‘ DJ ’ , gan drefnu bod cerddoriaeth hwyliog yn gyfeiliant i bawb gamu i ’ r canol a dangos eu gwisgoedd. Diolch o galon i bawb fu ’ n helpu ar y noson – roedd yn wych cael cyfle i ddod at ein gilydd yn gymdeithasol eto, ac fe godwyd swm teilwng iawn o ryw £500 i Gymorth Cristnogol. Diolch i Fiona am y trefniadau ac, wrth gwrs, i'r modelau gosgeiddig!
Llongyfarchiadau i'r Dr Fiona Gannon ar ddod yn Arweinydd newydd Capel y Nant ar droad y flwyddyn.
Dymunwn yn dda i Fiona - a'r Tim o aelodau fydd yn
cyd-weithio a hi.
Diolchwn yn wresog i'r Prifardd Robat Powell am ei
wasanaeth yn y swydd am yr 8 mlynedd blaenorol. Bydd Robat yn parhau fel Ysgrifennydd yr eglwys.
Fiona yw 3ydd Arweinydd Capel y Nant, gyda'r Parch Dewi M Hughes wedi arwain wrth i'r eglwys gael ei sefydlu yn 2008. LLUNIAU: Fiona a Chapel y Nant.
Dosbarthwyd y Datganiad isod ar ran aelodau Capel y Nant gan ein Pwyllgor Gwaith. Mae'n galw ar wleidyddion i sicrhau llwyddiant Cynhadledd tyngedfennol o bwysig Newid Hinsawdd COP26 sydd i'w chynnal yn fuan yn Glasgow. Danfonwyd at y Prif Weinidog Boris Johnson a Llywydd y Gynhadledd, Alok Sharma AS yn benodol ac at a nifer o aelodau Senedd San Steffan a Senedd Cymru:
'Gan nodi rhybudd gwyddonwyr y Cenhedloedd Unedig (6ed Adroddiad yr IPCC, 9 Awst, 2021) bod Newid Hinsawdd yn peryglu dyfodol dynoliaeth, mae Pwyllgor Gwaith eglwys Capel y Nant, Clydach, Abertawe SA6 5HB yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i geisio ymhob ffordd i sicrhau cytundeb cryf yng Nghynhadledd Hinsawdd COP26 yn Glasgow.
'Gyda’r nôd o ffrwyno Cynhesu Byd-eang trwy dorri allyriadau carbon, credwn ei bod yn hanfodol bod Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol - fel Llywydd y Gynhadledd - yn arwain cyn dechrau’r trafodaethau gan wrthod y ceisiadau cyfredol i agor maes olew newydd ym Môr y Gogledd a phwll glo newydd yng ngogledd Lloegr.'
Gyda ffyrdd newydd o addoli a gweithio yn datblygu wrth i ni ymateb i gyfyngiadau Covid-19, gan gynnwys dysgu sut i ddefnyddio Zoom, rydym wedi creu tudalen newydd ar y Wefan hon i nodi hanes ein hymdrechion, sef 'Ymateb i Covid-19'. Gweler ein rhestr dudalennau.
Cadwn y tudalen blaen hwn i newyddion am ein gweithgarwch cyfredol ynghyd a Datganiadau'r eglwys yn ymateb i broblemau'r byd.
AT: Y Gwir Anrhydeddus Rishi Sunak AS, Canghellor y Trysorlys, Ty'r Cyffredin, San Steffan, Llundain SW1A 0AA Rhagfyr 4, 2020
Annwyl Ganghellor Sunak,
MEDDYLIWCH ETO AM DORIADAU CYMORTH OS GWELWCH YN DDA
Yr ydym ni, aelodau o Bwyllgor Gwaith eglwys Gymraeg Annibynnol Capel y Nant yng Nghlydach, Abertawe SA6 5HB yn dymuno mynegi ein siom ddirfawr gyda’ch cyhoeddiad bod Llywodraeth San Steffan yn bwriadu torri’r ganran o GDP y Deyrnas Gyfunol a roddir at gymorth rhyngwladol o 0.7% i 0.5%.
Pwyswn arnoch i feddwl eto fel Canghellor ynglŷn â’r bwriad hwn.
*** Am y Datganiad llawn, ewch at 'Ffydd ac Ymgyrchu'
Rydyn ni, aelodau eglwys Annibynnol Capel y Nant, Clydach, yn gwaredu at lofruddiaeth George Floyd gan swyddogion heddlu Minneapolis ynyr Unol Daleithiau ar Fai 25, 2020.
Credwn fod y drosedd hon
yn ychwanegiad at y cam y mae pobl dduon y byd wedi’i ddioddef ers canrifoedd,
yn bennaf trwy weithredoedd pobl wynion.
I weld y Datganiad cyfan, ewch at dudalen 'Ffydd ac Ymgyrchu'
*** LLUN UCHOD: Protestiwr ifanc mewn rali Mae Bywydau Pobl Dduon yn Cyfrif yn Columbus, Ohio, ar Fai 28.
Ym mis Medi 2017 , newidiodd Capel y Nant o drydan a nwy gan gwmni llosgi carbon niweidiol at ynni glan ac adnewyddol, trwy gwmni Good Energy.
O hynny ymlaen, mae ein biliau wedi bod yn talu am gynhyrchu trydan 100% di-garbon deuocsid a nwy sy'n hollol garbon niwtral (gyda 6% o bio-methan).
YNNI DI-GARBON:
EGLWYS WERDD: Ym mis Hydref 2018, cawsom ein cofrestru gyda mudiad amgylcheddol Cristnogol A 'Rocha fel 'eglwys werdd'. Yn 2019 cawsom statws Grwp Gweithgarwch Newid Hinsawdd gyda Chyfeillion y Ddaear. Rydym yn gobeithio parhau i ddatblygu fel eglwys sy'n parchu ac nid yn difrodi'r Ddaear.
Cewch fwy o fanylion am hyn ar dudalen Caru'r Daear.
Mae Capel y Nant yn eglwys sy'n ddiwyd wrth gefnogi achosion da, gan ddewis un lleol ac un rhyngwladol bob blwyddyn dan arweiniad ein Grwp Eglwys a Chymdeithas.
Rydym wedi colli llawer o gyfleoedd oherwydd cyfyngiadau Covid-19 i godi arian at ddwy elusen 2020-2021, sef Ambiwlans Awyr Cymru a Chapel y Nant ei hun. Yn wyneb hynny, rydym wedi creu Apel arbennig er mwyn i aelodau gyfrannu arian at yr achosion hyn.
*** Am fwy o wybodaeth am ein cefnogaeth i elusennau rhyngwladol a lleol, ewch at dudalen 'Ffydd ac Ymgyrchu.'
Alistair Davies 28.09.2022 11:17
Hoffem llongyfarch Dr Fiona Gammon ar ei swydd newydd . Pob dyminiadau gorau oddiwrth aelodi Elim CraigCefn Parc.
Dafydd Williams 19.09.2021 09:07
Methu ymuno borema, 19 Medi am 10am. Ydi'r amser neu'r ddolen gyswllt Zoom wedi newid? Gobeithio yr aeth y gwasanaeth yn iawn.
Annette Hughes 03.01.2020 23:14
Diolch i bawb,a ddaeth i ddarllen y Testament Newydd heddiw yg Nghapel y Nant.Dechrau da i 2020.
Latest comments
28.09 | 11:17
Hoffem llongyfarch Dr Fiona Gammon ar ei swydd newydd . Pob d...
19.09 | 09:07
Methu ymuno borema, 19 Medi am 10am. Ydi'r amser neu'r ddolen gy...
13.01 | 16:51
Diolch yn fawr, Melda. Roedd criw Capel y Nant wedi gwerthfaw...
08.01 | 15:43
Braf oedd cael eich cwmni yn Llwynrhydowen. Galwch eto!