Dyma lun o Oedfa Nadolig Ieuenctid Capel y Nant yn Rhagfyr 2018 - gyda'r capel ar ei newydd wedd wedi'r prosiect i symud yr hen 'pews' a'r Set Fawr o ganol y capel.
Gweddnewid Capel y Nant gyda seddau unigol - 2018
Wrth fynd ati i foderneiddio Capel y Nant, symudwyd yr hen 'pews' ynghyd a'r Set Fawr o ganol y capel mewn prosiect cyffrous yn Nhachwedd / Rhagfyr 2018.
Crewyd llwyfan isel, agored yn lle'r Set Fawr, a gosodwyd seddau unigol, cyfforddus yn lle'r 'pews', rhai gyda breichiau i hwyluso pethau i'r rhai hynaf yn ein plith.
Gwnaed y cyfan mewn pryd i gynnal oedfaon Nadolig 2018 nol yn y capel. Cafodd y gweddnewidiad groeso twymgalon.
Prosiect symud seddau i helpu'r anabl - 2012 / 2013
CY TUNODD Cwrdd Eglwys Sul, Tachwedd 4, 2012, y dylid gweithredu'r cyfan o gynllun ein Pwyllgor Gwaith yn dilyn Adroddiad Anabledd a gawsom gan arbenigwr ar y capel - a gorffennwyd y gwaith erbyn mis Mawrth 2013.
Dyma amlinelliad o'r Cynllun a luniwyd er mwyn gwneud y capel a'r safle'n fwy diogel ac yn fwy cyfforddus i bobl anabl - a’r gweddill ohonom:
Yn y capel: Er mwyn gallu symud cadair olwyn yn rhwydd o amgylch y capel a chreu lle i gadeiriau olwyn a gofalwyr sy’n eu gwthio – a’i gwneud yn haws dod ag arch i mewn ac allan pan fydd angladd:
►Tynnu allan ddwy sedd hir yng nghanol cefn y capel – bydd hyn yn ei gwneud yn haws i bawb symud o un ochr y capel i’r llall hefyd.
►Tynnu allan y ddwy sedd gefn ar y ddwy ochr fel bod modd troi cadair olwyn yn rhwydd i lawr yr eil – a rhoi rhai cadeiriau esmwyth yn y corneli os bydd pobl yn awyddus i eistedd yno o hyd.
►Tynnu allan y seddau ochr (wrth y piano) ym mlaen y capel, fel bod lle i barcio cadeiriau olwyn a chreu lle i’r gofalwyr eistedd gyda nhw. Byddwn yn rhoi rhai cadeiriau esmwyth yma.
►Tynnu allan y pared pren o flaen y sedd ganol ym mlaen y capel – er mwyn ei gwneud yn haws symud o un ochr y capel i’r llall.
Yn ogystal, glanhawyd y lloriau pren a gosodwyd carpedi newydd i lawr. Roedd y capel ar ei newydd wedd erbyn Mawrth 2013, a chyrhaeddodd nifer o gadeiriau unigol newydd cyn diwedd mis Ebrill.
Pwrpas hyn oll yw cadw cymeriad ac urddas Capel y Nant ond ei wneud yn lle mwy hwylus, diogel a chyfforddus i bawb.
HEFYD —
Tu allan: Peintio ymylon y cerb a’r grisiau tu allan i’r capel a’r dreif yn wyn, fel y bydd yn haws eu gweld.
Tŷ bach yr anabl: Rhoi’r cordyn argyfwng o gwmpas
gwaelod y walydd; gosod y drych o’r llawr i fyny’r wal;
newid dolen y drws fel nad oes dim angen gafael ynddi
a’i throi.
ROBAT POWELL
Ysgrifennydd yr Eglwys
Codi arian at Apel Haiti: 2013 - 2014
Bu'r Grwp Eglwys a Chymdeithas yn hynod brysur yn codi arian at ein helusen ddewisiedig am 2013 / 2014, sef Apel Haiti Cymorth Cristnogol.
Yn ein Noson Jazz arloesol, gyda Daniel Williams a Dave Jones o grwp jazz Cymreig 'Burlum' ym mis Tachwedd, codwyd £350 at yr Apel. Diolchwyd yn fawr i Daniel a Dave am helpu ein hymdrechion.
Yna, ar nos Wener, Chwefror 28, 2014, cafwyd noson lwyddiannus iawn arall gerddorol, y tro hwn gan offerynwyr gwerin Y Bardd Bach sy'n cwrdd ar ail nos Wener bob mis yn Nhy Tawe. Roedd pawb wrth eu bodd gyda'r alawon gwerin fel gyda'r noson jazz. Diolchwyd yn fawr i griw'r Bardd Bach. Codwyd tua £170 i gyflwyno ein coffrau ar gyfer Apel Haiti.
Codwyd cyfanswm o dros £3,000 at Apel Haiti.
Yn ystod 2012 / 2013, codwyd tua £2,400 gan y Grwp yn cael ei rannu rhwng elusen leol Share Tawe a rhyngwladol y Groes Goch.
Y flwyddyn gynt, roeddynt wedi c yflwyno £1,500 i D ŷ Olwen a £1,500 i Arian i Madagascar ar ran yr eglwys. (Mwy o fanylion dan Grwp Eglwys a Chymdeithas ar dudalen ein grwpiau gwaith.)
YMGYRCHOEDD
--- Cafodd tua 4,000 o daflenni cenhadol eu dosbarthu yng Nghlydach a rhan o Ynystawe yn gwahodd pobl i ymuno a’n haddoliad ar Sul Y Croeso Mawr (Hydref 7, 2012) – a phob Sul arall. Lluniwyd y daflen gan ein Grwp Cyhoeddusrwydd. Bu tua 30 o aelodau brwd Capel y Nant yn dosbarthu.
--- 20 o aelodau’r eglwys wedi arwyddo a danfon Deiseb at S4C a chwmni Clearcast yn galw arnynt i ganiatau darlledu Hysbyseb Heddwch Cymdeithas y Cymod Cymru. Mae’r corff llywodraethol sy’n asesu hysbysebion eisoes yn caniatau annog ein bechgyn a’n merched ifainc i ymuno a’r Lluoedd Arfog. Mynnwn i Heddwch gael sylw hefyd!
--- Grwp Amnest Capel y Nant wedi danfon llythyrau at awdurdodau Tsieina yn galw am gyfiawnder i Chen Zhenping, gwraig a garcharwyd heb amddiffyniad cyfreithiol. Mae Amnest yn ei chydnabod fel carcharor cydwybod. Nifer o sesiynau Amnest yn cael eu cynnal yn 2013.
--- Ym Medi, 2012, roedd un o’n haelodau, Eurig Davies, wedi bod yn rhan o’r grwp gerddodd ar hyd Clawdd Offa i godi arian at Apel Cymorth Cristnogol. Eurig yn dal i groesawu cyfraniadau at yr Apel.
CAFODD tua 35 ohonom amser diddorol a bendithiol ar Sul, Awst 19, 2012, wrth deithio ar ein Pererindod Flynyddol i orllewin Cymru. Y nod oedd ymweld a mannau cysylltgiedig a hanes y Diwygiwr Daniel Rowland.
Dechreuodd y dydd yn gofiadwy iawn wrth i ni gael ein croesawu i oedfa gymun yn Eglwys Dewi Sant, Llanddewi Brefi, gan y Ficer, Dafydd Jones. Yn yr eglwys honno, dan ddylanwad pregeth a gweddi gan Griffith Jones, Llanddowror, y trowyd Daniel Rowland o fod yn Gurad digon dinod yn yr eglwys i fod yn un o bregethwyr mwyaf grymus y genedl.
Oddiyno, cawsom egwyl i fwynhau 'picnic' tipyn bach yn wlyb ym maes parcio Cors Caron cyn symud ymlaen i fwynhau ymweliad yn yr heulwen hyfryd ag Abaty Ystrad Fflur. Yna, nol a ni ar drywydd y Dywigiwr.
I fro ei febyd aethom, gan gael ei groesawu gan y Parch Dafydd Jones i Eglwys Ceitho ym mhentref Llangeitho lle rhoddodd sgwrs ddifyr i ni ar hanes Daniel Rowland. Wedi dod yn Griston mor angerddol, a phregethu mor rymus, trowyd Daniel Rowland o'i swydd fel Curad yn yr eglwys honno. Daeth yn arweinydd ar fudiad a arweiniodd at sefydlu enwad y Methodistiaid Calfinaidd. Ond ni adawodd Eglwys Loegr, a gwelsom ei fedd o flaen yr allor.
Wedi'n hymweliad ag Eglwys Ceitho, a chael lluniaeth hyfryd yn neuadd yr eglwys, cawsom groeso i Gapel Gwynfil, y capel Presbyteraidd ar safle'r capel gwreddiol a godwyd ar gyfer Daniel Rowland wedi iddo gael ei droi allan gan yr Esgob o Eglwys Ceitho. Ar ddiwedd dydd cofiadwy iawn, troesom am adref gan alw am bryd hyfryd o fwyd a chymdeithasu yng Ngwesty'r Grannell yn Llanwnnen.
Diolch yn fawr iawn i Robat a Sheila Powell am eu gwaith wrth drefnu'r Bererindod arbennig hon, ac i Ficer y fro, y Parch Dafydd Jones, am ei groeso gwresog i'r eglwysi a'i barodrwydd i egluro hanes yr ymrafael a fu.
CHWILIWCH AM Y FIDEO O'R PERERINDOD - AC EWCH AT YR ORIEL I WELD LLUNIAU O'R PERERINDOD HWN A PHERERINDODAU MWY DIWEDDAR ...
Hwyl a sbri wrth i Gwmni Drama Y Gwter Fawr berfformio'r comedi 'Dau Dad' ar lwyfan hen neuadd Capel y Nant
.
YMWELIAD CWMNI'R GWTER FAWR
CAWSOM noson hwyliog dros ben wrth i actorion enwog Cwmni'r Gwter Fawr, Brynaman berfformio'r comedi Dau Dad yma yn Neuadd Capel y Nant ar nos Fercher, Hydref 5.
Roedd y Neuadd dan ei sang gan adsain a chwerthin braf wrth i'r sbri gael ei gyflwyno mor gelfydd ar ein llwyfan. Dyma oedd y ddrama gyntaf i ymweld a ni ers tro byd. Roedd hi'n werth aros amdani gan i actorion y Gwter Fawr ennill yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Fel gyda'r beirniaid yn Wrecsam, cafwyd llawer o ganmoliaeth yng Nghlydach, hefyd. Llongyfarchiadau iddynt.
Gwnaeth y noson elw sylweddol at elusennau’r Grwp Eglwys a Chymdeithas – sef Arian i Madagascar a Thy Olwen.
Latest comments
28.09 | 11:17
Hoffem llongyfarch Dr Fiona Gammon ar ei swydd newydd . Pob d...
19.09 | 09:07
Methu ymuno borema, 19 Medi am 10am. Ydi'r amser neu'r ddolen gy...
13.01 | 16:51
Diolch yn fawr, Melda. Roedd criw Capel y Nant wedi gwerthfaw...
08.01 | 15:43
Braf oedd cael eich cwmni yn Llwynrhydowen. Galwch eto!