DYMA ychydig o flas o'r amrywiaeth o weithgareddau a gafwyd gennym yng Nghapel y Nant ers ein sefydlu fel eglwys yn 2008, e.e., hwyl BBQ Haf cyntaf yr eglwys, aelodau a ffrindiau'n mwynhau Te Mefus blynyddol ein Chwaeroliaeth, dadorchuddio baner newydd yr eglwys a ddyluniwyd gan un o'n hieuenctid, yr artist ifanc, Rhodri Nicholls, ac a luniwyd gan rai o aelodau o'r Chwaeroliaeth. Mae yma hefyd adlewyrchiad o'r gwasanaethau bywiog ac amrywiol sydd wedi nodweddu ein haddoli dros y blynyddoedd. Gwelir, hefyd, rhai ohonom ar ein Pererindod Haf - ym mis Awst, 2011 i'r Gangell, lle magwyd yr emynydd Elfed, ac yng Nghanolfan Hywel Dda yn Hendy-Gwyn ar Daf; yn Awst 2012 i fro Daniel Rowland yn Llanddewi Brefi a Llangeithio; yn Awst 2013 i ddilyn hanes Carnhuanawc yng Nghwm Du a'r Fenni; yn Awst 2014 i fro Howell Harris i Aberhonddu, Talgareth a Thref="javascript:void(0)"eca; ac i Gapel Croes y Parc, Llanbedr y Fro, a Bethesda'r Fro, Sain Tathan, yn Awst 2016. Roedd ein Pererindod Haf mwyaf diweddar ar Orffennaf 16, 2017, i fro William Williams, Pantycelyn, gan ddathlu ei 300 mlwyddiant. Ceir cipolwg, hefyd, o'r cymdeithasu brwd, amrywiol sydd ar gael yn ein Neuadd a drowyd yn Neudd y Nant
newydd
, fodern, yn
2015. Bwrlwm o weithgarwch yn wir.
GWASGWCH Y SAETH YN Y LLUN UCHOD AC MAE'R CYFAN YN SYMUD AR EI LIWT EI HUN!
Geraint Tudur 07.12.2019 13:28
Wedi mwynhau y wefan newydd yn fawr. Atgofion . . ., a diolch amdanynt! Pob dymuniad da i bawb yng Nghapel y Nant. Bendith arnoch!
Hywel Davies 07.12.2019 16:56
Diolch yn fawr am eich ymateb, Geraint. Rydym yn sicrhau presenoldeb i'r eglwys ar Facebook hefyd, erbyn hyn. Pob dymuniad da, Hywel D ar ran cyfeillion CyN.
Latest comments
28.09 | 11:17
Hoffem llongyfarch Dr Fiona Gammon ar ei swydd newydd . Pob d...
19.09 | 09:07
Methu ymuno borema, 19 Medi am 10am. Ydi'r amser neu'r ddolen gy...
13.01 | 16:51
Diolch yn fawr, Melda. Roedd criw Capel y Nant wedi gwerthfaw...
08.01 | 15:43
Braf oedd cael eich cwmni yn Llwynrhydowen. Galwch eto!