BORE SUL BYRLYMUS GRWP 'NY AKO' O FADAGASCAR

Pan glywsom fod grwp Cristnogol ‘Ny Ako’ o ynys Madascar yn dod atom i arwain oedfa yng Nghapel y Nant, doedd dim amdani ond penderfynnu taw yn ein neuadd y dylai’r oedfa fod ac nid yn y capel.

Chi’n gweld, nid ‘Brechdan Emyn’ ffurfiol fyddai steil y cyfeillion hyn ond cyflwyniad o ganeuon traddodiadol a dawnsfeydd bywiog a lliwgar i sain cynhyrfus accordion, saxophone, pibau, gitar, drymiau a mwy! Y neuadd amdani, felly!

Ac, yn wir, fe amser cyffrous a chofiadwy yn eu cwmni. Mwynhawyd a gwerthfawrogwyd yn fawr gan neuadd lawn dop oedd yn cynnwys nifer o welwyr.

Ond yn ogystal â’r canu a’r dawnsio oedd yn denu curo dwylo brwdfrydig, cawsom hefyd neges ddwys ond llawen gan eu harweinydd am ein perthynas clos fel Cristnogion er y miloedd o filltiroedd sydd rhyngom.

Cyfeiriodd, hefyd, at y perthynas arbennig sydd rhwng Madagascar a Chymru gan taw cenhadon oddiyma aeth allan i’r ynys bell honno gyda’r newyddion da am Iesu Grist bron i 200 mlynedd yn öl.

Diolch i’r criw hyfryd hyn am arwain oedfa fydd yn aros yn hir yn y cöf. A diolch i’r trefnwyr am ddod â nhw atom yng Nghlydach. Bydd pawb yn cytuno bod y bore Sul hwn, ar Fehefin 12, yn haeddu tudalen arbennig o luniau fel cofnod o’r ysbrydoliaeth a gawsom.

Latest comments

28.09 | 11:17

Hoffem llongyfarch Dr Fiona Gammon ar ei swydd newydd . Pob d...

19.09 | 09:07

Methu ymuno borema, 19 Medi am 10am. Ydi'r amser neu'r ddolen gy...

13.01 | 16:51

Diolch yn fawr, Melda. Roedd criw Capel y Nant wedi gwerthfaw...

08.01 | 15:43

Braf oedd cael eich cwmni yn Llwynrhydowen. Galwch eto!