Y WYNEBAU A'R GWEITHGAREDDAU ...

Wrthi'n dysgu gan fwynhau - Ysgol Sul Capel y Nant gydag Annette Hughes yn llywio. Croeso i blant bychain! Chwefror 2017.

Profodd ein dathliad o Ddydd Gwyl Dewi yn llwyddiannus dros ben eto yn 2017. Cawsom ginio penigamp yn y New Inn, Clydach. Dyma John a Brenda Evans a John a Ray Rees ymysg llond ystafell o westeion hapus.

... A dyma Ann a Goronwy Williams.
... A dyma Ann a Goronwy Williams.
... A theulu lluosog Doreen Hopkins.
... A theulu lluosog Doreen Hopkins.
Rhai o'r addolwyr oedd yn bresennol yng Nghapel y Nant ar gyfer oedfa ddwy-ieithog eglwysi Clydach i ddathlu Cwrdd Dydd-Gweddi Gwragedd y Byd - Mawrth 2017.

Ar y dde, Brenda Evans, Arweinydd Cwrdd Dydd-Gweddi Gwragedd y byd, Clydach, gyda Maureen Evans, trysorydd, wedi oedfa ddwy-ieithog ein heglwysi lleol yng Nghapel y Nant.

Cyflwynwyd oedfa afaelgar, fyrlymus a lliwgar gan aelodau Chwaeroliaeth Capel y Nant ar fore Sul, Mehefin 25, 2017. Roedd y gwasanaeth wedi cael ei baratoi gan wragedd Cristnogol eciwmenaidd yn Ynysoedd y Ffilipina. Eu thema oedd, 'Ydw i'n bod yn anheg a chi?" Arweiniwyd y Chwaeroliaeth gan Brenda Evans ac Annette Hughes. Bu'r gynulleidfa'n dal dwylo wrth ganu a gweddio i ddod a'r oedfa i ben.

Llongyfarchiadau i Llinos ac Alun Owen a ddathlodd eu Priodas Aur yn ystod Haf 2017. Pob dymuniad da i'r ddau!

Eglwys Llanfair ar y Bryn, Llanymddyfri, lle cawsom groeso twymgalon i gyd-addoli gyda phlwyfolion wrth ddechrau ar ein Pererindod Haf ar Orffennaf 16. Thema'r dydd hynod o ddiddorol hwn oedd dathlu 300 mlwyddiant geni'r emynydd William Williams Pantycelyn.

Llun hyfryd gan yr artist enwog John Petts yn Eglwys Llanfair ar y Bryn.

Llun arall a grewyd yn yr eglwys gan John Petts ond a ddyluniwyd gan wraig leol er cof am ei brawd a fu farw ar draeth Dunkirk yn yr 2ail Ryfel Byd.

Codwyd William Williams yn Eglwys Llanfair ar y Bryn, ac yno y cafodd ei gladdu hefyd. Dyma'n pererinion ar lan ei fedd.

Cawsom gyfle i ganu un o emynau Pantycelyn ar lan ei fedd.

A dyma ffermdy hynafol Pantycelyn ger pentref Pentre Ty Gwyn lle bu Williams yn ffarmio, yn llunio cannoedd o emynau, ac yn teithio i bregethu ledled Cymru.

Dyma ni wedi cyrraedd a Robat ein Harweinydd yn ein cyflwyno i Cyril Williams, disgynnydd i William Williams, a'i wraig Cynthia, sy'n byw ym Mhantycelyn.

Dyma Dewi Myrddin yn cael sgwrs fach gyda Cyril.

Cawsom groeso cynnes gan Cyril a Cynthia i ymweld a'r ffermdy.

Fel ugeiniau o filoedd eraill o bererinion dros y blynyddoedd, pererinion Capel y Nant yn ymgasglu o flaen Pantycelyn wedi ymweliad gwir gofiadwy.

Cyn gadael, golwg olaf o ffermdy Pentycelyn, cartref William Williams a'i deulu. Mae'r ty hyfryd yn parhau'n gartref i'r 6ed cenhedlaeth o'r teulu.

Eurig ac Eleri Davies yn amlwg yn joio'r cymdeithasu a'r danteithion yn ystod Te Mefus Capel y Nant 2017 ym mis Gorffennaf. Eurig yw Cadeirydd newydd Pwyllgor Gwaith yr eglwys.

Arweinydd Capel y Nant, Robat Powell, gyda'r bobl ifanc gyfrannodd at ein hoedfa Ddiolchgarwch. Hydref 2017.

Dr Fiona Gannon a Brenda Evans, Chwaeroliaeth CyN, gyda llun o Constance Coltman, un o'r gwragedd cyntaf i gael ei hordeinio'n weinidog yn y Deyrnas Gyfunol.

Gwenllian Llyr wedi'i ei pherfformiad ardderchog ar y delyn wrth lansio'i CD newydd, 'O Wyll i Wawr' (Sain) yn Neuadd y Nant . Fe'i diolchwyd gan Robat, Arweinydd yr eglwys. Gwefan Gwenllian yw: www.GwenllianLlyr.com ac mae hi ar Facebook yn ogystal.

Neuadd y Nant dan ei sang ar nos Fawrth, Hydref 3, ar gyfer datganiad Gwenllian Llyr ar y Delyn.

Cor Eglwysi Cytun yn canu Carolau tu allan i Co-op Clydach i godi arian at Shelter Cymru.

Cwmni llon Chwaeroliaeth Capel y Nant yn dathlu Nadolig 2017 gyda phryd hyfryd.

Cafwyd llawer o hwyl a sbri eto ar noson Carolau, Mins Peis a Cwis (a Gluhwein!) Capel y Nant 2017. Dyma'r Cwis Feistr - ein Harweinydd eglwysig Robat Powell - yn arwain y defodau.

... A dyma Dim Buddugol Cwis Nadolig CyN 2017, sef Nel, Sion ac Osian. Llongyfarchiadau iddyn nhw ar drechu'r oedolion (wel, gydag ychydig o help gan Gareth!).

Cast brwdfrydig Drama Nadolig Ieuenctid Capel y Nant 2017 - wedi perfformio stori wefreiddiol geni Iesu gyda slant annisgwyl o gyfoes gan yr awdur, Arweinydd yr Eglwys, Robat Powell.

Y cast bron i gyd yn ein Set Fawr yn tynnu tua therfyn y stori, gyda Mair ynghudd yn gofalu am y Baban tu ol i'r grwp. Mwynhawyd y perfformiad yn fawr gan bawb.

Cafwyd cynulleidfa luosog ar gyfer Oedfa Nadolig yr Ifanc ar fore Sul, Noswyl Nadolig, ac i Oedfa Garolau'r Oedolion y Sul blaenorol.

Cor Nadolig 2017 Capel y Nant yn paratoi ar gyfer Oedfa'r Aelodau.

Offerynwyr Oedfa Nadolig 2017 - o'r chwith i'r dde, Pamela, Les a Janice.

Cyflwynwyd cloc hardd i'n cyfaill Gareth Richards i nodi ei ymddeoliad fel pennaeth Gwasg Morgannwg. Lluniwyd y cloc gan un o'n haelodau, sef y crefftwr talentog Goronwy Williams. Cafodd ei gyflwyno i Gareth ar ran Capel y Nant gan ein Harweinydd, Robat Powell.

Croesawyd Heather Gregory (2ail o'r chwith, rhes flaen) o elusen Shelter Cymru i un o gyfarfodydd ein Chwaeroliaeth er mwyn i Brenda Evans gyflwyno siec iddi am £500. Codwyd y swm i hybu gwaith Shetler o ganlyniad i brysurdeb amrywiol aelodau'r Chwaeroliaeth yn ystod 2017.

Roedd aelodau'r Chwaeroliaeth wedi mwynhau ymweliad gan Mr Lyn Evans pan esboniodd y sgiliau sydd eu hangen er mwyn gwneud ffyn. Daeth Lyn a sawl enghraifft gywrain o'i waith i ddangos i'r aelodau.

Dyma dim y 'Bobl Bach' enillodd Cwis Blynyddol Cymorth Cristnogol Clydach a gynhaliwyd yn Neuadd y Nant. Codwyd £505 tuag at waith Cymorth Cristnogol o ganlyniad i'r noson. Diolch i Alan Cram am drefnu a Robat Powell am ei waith fel cwisfeistr.

Boreau Coffi Capel y Nant bob tro yn llawer o hwyl. Dyma ni'n joio yng nghartref Dewi ac Annette Hughes, gyda David Waghorn yn tynnu'r Raffl ...

... a dyma enillydd y Raffl, artist ein heglwys, Walford Davies, yn frwd i gael ei anrheg!

Ond, wrth gwrs, mae'r achlysuron yn golygu prysurdeb i'r cynorthwywyr. Dyma Brenda ar hast i ymateb i gais arall am fwy o'r teisennau blasus a choffi! Lot o hwyl a sgwrsio diddan.

Cor Capel y Nant yn canu yn ystod oedfa Sul y Pasg, Ebrill 1, 2018. Arweiniwyd yr oedfa gan y Parch Dewi Myrddin Hughes ac roeddem yn falch i groesawu cynulleidfa gref i'r addoliad.

Rhan o'n cynulleidfa niferus ar gyfer Sul y Pasg, Ebrill 1, 2018

Sul y Pasg, 2018.
Sul y Pasg, 2018.
Sul y Pasg, 2018
Sul y Pasg, 2018
Roeddem yn falch iawn i groesawu pump o aelodau newydd i rengoedd Capel y Nant ar fore Sul, Ebrill 8, 2018. 
Dyma'r pump yn yr 
oedfa groeso, o'r chwith i'r dde: Dr Fiona Gannon a Bill ei gwr, Nell Richards, Betsan James a Iestyn Llyr. Mae Nel, Betsan a Iestyn yn gynnyrch adran ieuenctid yr eglwys. Daw Fiona a Bill atom yn dilyn cau trist Capel Pant-teg, Ystalyfera, oherwydd bygythiad tir-lithriad. Pob dymuniad i'n haelodau newydd.
Roeddem yn falch iawn i groesawu pump o aelodau newydd i rengoedd Capel y Nant ar fore Sul, Ebrill 8, 2018. Dyma'r pump yn yr oedfa groeso, o'r chwith i'r dde: Dr Fiona Gannon a Bill ei gwr, Nell Richards, Betsan James a Iestyn Llyr. Mae Nel, Betsan a Iestyn yn gynnyrch adran ieuenctid yr eglwys. Daw Fiona a Bill atom yn dilyn cau trist Capel Pant-teg, Ystalyfera, oherwydd bygythiad tir-lithriad. Pob dymuniad i'n haelodau newydd.
Cynhaliwyd yr ail yn ein cyfres o foreau coffi i godi arian at elusennau Capel y Nant ar Ebrill 6 yng nghartref Josie Jones, yn Kingrosia, Clydach. Diolch i Josie a holl staff y gegin!

Pedair o'r gwesteion llon ym More Coffi Josie.

Codwyd £195 i hybu elusennau'r capel trwy'r Arwerthiant Dilliad Bron yn Newydd a gynhaliwyd yn Neuadd y Nant ar ddydd Gwener, Ebrill 27, 2018. Dyma rai o'r criw fu'n trefnu ac yn helpu yn ystod y dydd.

Roedd Neuadd y Nant dan ei sang ar gyfer achlysur cyntaf dathliad Capel y Nant yn 10 Mlwydd oed. Dyma luniau o'rTe Parti hapus a blasus gynhaliwyd ar bnawn Sul, Ebrill 15, 2018.

Ac yn ddigon naturiol gyda chriw Capel y Nant, roedd llawer o hwyl ar bob llaw!

Diolch i bawb drefnodd ac a helpodd yn y gegin. Dyma rai o'r criw. Llongyfarchiadau iddyn nhw gan bawb o'r gwesteion.

Ie, wir, dechrau da ar ein dathlu wrth gyrraedd y 10. Ac ymlaen a ni gyda sawl digwyddiad arall!

Cafwyd ymateb brwd i oedfa heriol a chyfoes a gyflwynwyd gan aelodau o Chwaeroliaeth Capel y Nant ar fore Sul, 16 Mehefin. Yn eu gwisgoedd lliwgar, roedd ein chwiorydd yn cyflwyno oedfa a luniwyd gan wragedd Cristnogol yn Swrinam, De America. Y thema oedd yr angen i ni warchod ein planed rhag distryw gan ddynoliaeth. Taflwyd sbwriel wrth y Set Fawr i wneud y pwynt yn drawiadaol. Diolch i'n Chwaeroliaeth a'n chwiorydd yn Swrinam am eu neges. Roedd yr oedfa wedi'i llunio fel rhan o Ddydd Gweddi'r Gwragedd Byd-eang.

Cawsom hwyl a sbri yn ystod Noson Gomedi Lawen yn Neuadd y Nant orlawn ar nos Wener 22 Mehefin. Dyma'r ser cerddorol Geraint Lovgreen a'r Enw Da yn diddanu'r dyrfa a'u caneuon cyfoes. Arweinydd y noson oedd y comediwr enwog, lleol, Noel James, gyda Eleri Morgan ac Esyllt Sears. Roedd y noson yn hwb i'r elusennau rydym yn eu cefnodi eleni.

... A dyma fe, seren Britain's Got Talent, y comediwr lleol Noel James. Hen ffefryn, bellach, gyda phobl Capel y Nant a'r gymuned ehangach. Trefnwyd y noson fel rhan o weithgarwch Cronfa Gari Williams.

Dyma Eleri Morgan, comediwraig newydd sbon, yn ymarfer eu doniau doniol o flaen y dorf luosog a gwerthfawrogol. Noson hwylus dros ben welodd gryn nifer o gyfeillion o'r gymuned ehangach yn ymuno a phobl Capel y Nant i gael joio.

Ar un o ddyddiau godidog ein Haf heulog a phoeth, teithiodd bws hapus ohonom o Glydach ar ein Pererindod Blynyddol - y tro hwn i Geredigion (Sul, Gorffennaf 2018). Hen Gapel yr Undodwyr yn Llwyrhydyowen - uchod - oedd y man hanesyddol cyntaf i ni ymweld ag e. A chawsom groeso cynnes yno.

Dyma Arweinydd Capel y Nant, Robat Powell, yn cyflwyno Mrs Melda Grantham, o eglwys Undodwyr Llwynrhydowen. Rhoddodd Mrs Grantham hanes Yr Hen Gapel i ni. Yn arbennig, clywsom am y gormes ddioddefodd Undodwyr yr ardal gan dirfeddianwr o Dori lleol yn y 19fed Ganrif wedi iddynt feiddio'i wrthwynebu mewn etholiadau. Arweiniodd ei ymddygiad creulon at fabwysiadu pleidleisio yn y ddirgel. Diolchwyd i Mrs Grantham am ei sgwrs hynod ddiddorol.

Roedden ni'n ddiolchgar iawn i weinidog eglwys Undodwyr Llwynrhydowen, y Parch Wyn Thomas (uchod), am y croeso roddodd i ni i ymweld a'r Hen Gapel i ddysgu am ei hanes pwysig.

Wedi ymweliad tra diddorol, dyma ni'n gadael yr Hen Gapel, Llwynrhodyn, ar ein ffordd nol at ein bws i barhau ar ein Pererindod i'r ail leoliad yng Ngheredigion.

O Hen Gapel yr Undodwyr yn Llwynrhydowen aethom ymlaen i gael ein croesawu i oedfa'r pnawn yng nghapel Annibynwyr Neuadd-lwyd ger Aberaeron. Dyma gapel hanesyddol iawn arall. O Neuadd-lwyd yr aeth dau lanc ifanc, David Jones a Thomas Bevan, a'u teuluoedd, fel cenhadon i gyflwyno Cristnogaeth i Madagascar ym 1818. Yn addas iawn, roedd 6 o bobl o Madagasgar yn rhannu'r oedfa gyda ni. Diolch i aelodau Capel Neuadd-lwyd am eu croeso.

Yn wahanol iawn i gapeli'r werin bobl, daethom a'n teithio i ben wrth ymweld a Phlas Llanerchaeron, cartref hyfryd i genedlaethau o fyddigions Dyffryn Aeron. Ar ddydd mor braf, pleser mawr oedd crwydro'r gerddi ffrwythlon, ymweld a'r ty crand ei hun, ac ymlacio yn y gwres dros goffi a theisen yng nghysgod y coed. Pererindod cofiadwy arall. Diolch i Robat am y trefnu.

Cafodd yr eglwys noson i'w chofio wrth gyflwyno 'Cerrig Milltir', sef portread trwy actio, offerynnau a chanu o hanes twf Crisnogaeth yng Nghymru (nos Iau, Medi 20, 2018). Roedd y capel dan ei sang a phawb yn canmol. Diolch i Dewi ac Annette am y creu a'r trefnu ac i'r 50 o aelodau gymerodd ran mewn amrywiol ffyrdd. Dyma luniau o rai o'r cymeriadau ...

 ... a mwy eto o gymeriadau 'Cerrig Milltir'. Oedd, roedd hi'n noson fywiog a lliwgar, gyda neges gref am hanes ein Ffydd yng Nghymru.

Bu'r New Inn, Clydach, dan ei sang eto gydag aelodau Capel y Nant. Y tro hwn, ar ddydd Sul, Hydref 14, yr achlysur oedd dod a dathliadau llwyddiannus 10 mlwyddiant yr eglwys i ben. Dyma 6 o luniau yn dangos gwesteion hapus Capel y Nant ...

... gan ddiweddu gyda Sion ac Osian ar fin dechrau joio bwyd blasus y New Inn. Dyna ddathliad hapus arall i bobl Capel y Nant ynghanol ein cymuned.

Tri o ieuenctid Capel y Nant yn falch iawn i groesawu'r Parch Ronald Williams, Caernarfon, i arwain oedfa gyda ni ar fore Sul, Tachwedd 25. Mae Ronald, wrth gwrs, yn frawd i Annette.

Cawsom wledd o berfformiadau gan dalentau amrywiol yn ystod noson lawen 'Brethyn Cartref' yr eglwys yn Neuadd y Nant ar nos Wener, Tachwedd 30. Dyma'r criw roddodd gymaint o hwyl a diddanwch i Neuadd oedd yn orlawn o ffans ar gyfer digwyddiad olaf ein dathliad o 10 mlynedd cyntaf Capel y Nant.

Rhai o aelodau Chwaeroliaeth Capel y Nant yn mwynhau eu Cinio Nadolig

Cor Capel y Nant yn arwain dathliadau Nadolig aelodau'r eglwys yn ein hoedfa ar nos Sul, Rhagfyr 16.

Actorion ifanc a dawnus Capel y Nant ar ol perfformio dehongliad unigryw ac ergydiol (a doniol iawn) arall o ddrama'r Geni gan Arweinydd yr Eglwys, Robat Powell, ar fore Sul, Rhagfyr 23. Cofiadwy iawn!

Roedd cynulleidfa luosog iawn yn bresennol am Oedfa Nadolig Ifanc, phawb yn llawn canmoliaeth. Dyma oedd y tro cyntaf i ni gynnal oedfa yng Nghapel y Nant ers i seddau cyfforddus, unigol, ddisodli'r hen 'pews' yng nghorff y capel. Diolch yn fawr i David Waghorn am arwain y prosiect sydd wedi gweddnewid y capel ar gyfer oedfaon y dyfodol.

Gyda ffurfioldeb yr hen 'pews, a'r Set Fawr, bellach yn rhan o'r gorffennol, mae gennym gyfle i droi at amrywiaeth eangach o ffurfiau addoli a gweithredu yng Nghapel y Nant.

Bu nifer o gyfarfodydd yng Nghlydach i ddathl'r Wythnos Weddi dros Undeb Cristnogol, Ionawr 18 - 25, 2019. Cynhaliwyd yr oedfaon mewn sawl eglwys, gan gynnwys yng Nghapel  y Nant. Dyma rai o'r addolwyr yn y Neuadd gydag Arweinydd Capel y Nant, Robat Powell, a gyflwynodd yr oedfa.

Grwp Bugeilio Capel y Nant yn brysur wrth eu gwaith o ofalu am aelodau'r eglwys

Robat Powell, Arweinydd Capel y Nant, yn derbyn Medal Aur (siocled!) am waith yr eglwys dros Fasnach Deg - yng nghwmni, o'r chwith, Rosa Phillips, Catrin Evans a Ray Rees fu'n helpu yn oedfa Masnach Deg 2019.

Aelodau balch Tim 'Gweilch Cefn Llechart' a enillodd tlws Cwis Cymorth Cristnogol Clydach 2019 wedi ymryson agos iawn gyda Thim 'I Ba Gwm.'

... A dyma aelodau Tim 'I Ba Gwm' ddaeth mor agos at fod yn fuddugol yng Nghwis Cymorth Cristnogol Clydach 2019. Codwyd £453 er budd Cymorth Cristnogol. Llongyfarchiadau i'r timau gwybodus ac i'r Dr Alan Cram a Robat Powell am drefnu'r noson.

Blodau ffres mis Mai yn dod a lliw i flaen Capel y Nant - ond, yn bwysicach, yn dod a chynhaliaeth i'r gwenyn, y gloynod a mathau eraill o bryfetach sydd dan gyfythiad oherwydd pwysau dynoliaeth arynt. Croeso, blodau!

... Ond, beth sy'n tyfu yma, wrth ddrws Neuadd y Nant? Cliw - fel hadau, roedden nhw'n rhan o wasanaeth arbennig am Madagascar yma gyda ni yng Nghapel y Nant. Gwybod? Wel, Blodau'r Haul ac Allium ydyn nhw, felly bydd tyfiant dramatig iawn yn siwr o ddigwydd yn fuan.

Ac wele - blodau haf cyntaf Capel y Nant yn falch i groesawu pawb sy'n ymweld a Neuadd y Nant.

Arweinydd Capel y Nant, Robat Powell - yn arwain un o gyfarfodydd Grwp Astudiaeth Feiblaidd yr eglwys. O'r chwith i'r dde - Gareth Rees, John Evans, David Waghorn, Robat, Sheila Powell, Elaine Waghorn a'r Parch Dewi Hughes. Mehefin 2019.

Arweinydd yr eglwys, Robat Powell, a Tomos Lewis yn goruchwylio'r gweithgarwch wrth i rai o blant yr eglwys dderbyn Cwpannau Apel Madagascar. Gorffennaf 2019.

Rhai o aelodau Chwaeroliaeth Capel y Nant yn joio ma's draw yn ystod Trip Haf 2019.

Cafodd dwy aelod 'newydd' eu croesawu gan Robat Powell i Gapel y Nant yn Haf 2019. Cyn-aelodau hen eglwys Salem Fardre yw Anne Jones (ar y chwith) a Mair Evans. Ond buont yn addoli yng Nghapel y Nant, ac yng nghanol ein holl weithgareddau, ers i ni gael ein ffurfio fel eglwys yn 2008. Croeso mawr iddynt!

Ar ddiwrnod hynod braf o fis Gorffennaf, aeth bws o aelodau Capel y Nant ar ein Pererindod Blynyddol i Sir Benfro (Sul, Gorffennaf 14). Pwnc y Pererindod eleni oedd hanes y bardd Waldo Williams. Dyma'r criw yn sefyll i fyfyrio ynghanol Parc y Blawd - cae a fu'n ysbrydoliaeth i Waldo gan arwain at ei gerdd 'Mewn Dau Gae' sy'n dechrau gyda'r geiriau:
 'O ba le'r ymroliai'r mor goleuni
Oedd a'i waelod ar Weun Parc y Blawd a Parc y Blaw.
Ar ol imi holi'n hir yn y tir tywyll,
O b'le deuai, yr un a fu erioed?'
Ar ddiwrnod hynod braf o fis Gorffennaf, aeth bws o aelodau Capel y Nant ar ein Pererindod Blynyddol i Sir Benfro (Sul, Gorffennaf 14). Pwnc y Pererindod eleni oedd hanes y bardd Waldo Williams. Dyma'r criw yn sefyll i fyfyrio ynghanol Parc y Blawd - cae a fu'n ysbrydoliaeth i Waldo gan arwain at ei gerdd 'Mewn Dau Gae' sy'n dechrau gyda'r geiriau: 'O ba le'r ymroliai'r mor goleuni Oedd a'i waelod ar Weun Parc y Blawd a Parc y Blaw. Ar ol imi holi'n hir yn y tir tywyll, O b'le deuai, yr un a fu erioed?'
Diolch i arweinydd Capel y Nant, Robat Powell, am drefnu'r daith hyfryd hon. Roedd wedi sicrhau y byddai'r pererinion yn cael clywed atgofion personol am Waldo gan Vernon Beynon, ffarmwr oedd yn gymydog i'r bardd. Dyma Brenda a John, Goronwy ac Alun yn sgwrsio wrth gerdded yng nghwmni Vernon at Parc y Blawd.

Yn ystod eu dydd braf ym Mro'r Preselau, cafodd ein pererinion eu croesawu'n garedig iawn i fwynhau lluniaeth blasus gan aelodau eglwys Blaenconin. Dyma rai o'r pererinion yn cael gorffwys wedi'r pryd. Cawsant gyfle i ymweld a bedd Waldo ym mynwent y capel.

Dyma weinidog Capel Blaenconin, y Parch Huw George, yn sefyll ar lan bedd Waldo ac aelodau eraill o'i deulu. Diolch i Mr George am esbonio tipyn o hanes Waldo a'i gysylltiad gydag eglwys ac ardal Blaenconin. Oedd, roedd Pererindod 2019 yn Bererindod cofiadwy arall i aelodau Capel y Nant. Diolch i Robat am ei baratoadau.

Dyma (chwith i dde) Josi, Sheila, David, Elaine a Llinos ymysg y gwesteion hapus fu'n joio'r Bore Coffi gynhaliwyd yng nghartref Annette a'r Parch Dewi Hughes ym mis Hydref. Diolch i Annette a Dewi am y croeso. Codwyd £201 at elusennau Ty Olwen a Tansania.

... Ond, wrth gwrs, mae trafodaethau sylweddol i'w cael mewn Boreau Coffi yn ogystal a'r hwyl. Er enghraifft gyda'r Tri Gwr Doeth hyn wrth i'r ffotograffydd sleifio heibio yn ystod Bore Coffi Annette a Dewi. Dyma, yn dwys ystyried, o'r chwith i'r dde, Alun Owen, Goronwy Williams ac Arweinydd Capel y Nant, Robat Powell. Neu'r eiliad cyn y 'punch line', o bosib!

Gyda 2019 yn dechrau tynnu i ben, bu sawl oedfa ac achlysur cymdeithasol i ddathlu Gwyl Geni Iesu Grist. Dyma aelodau Cor Nadolig Capel y Nant wrthi'n canu'n swynol yn ystod Oedfa Nadolig yr Aelodau ar nos Sul, Rhagfyr 22. Diolch yn fawr i'r Arweinyddes Janice Walters a'i chyd-drefnyddion.

Cast Drama Nadolig 2019 Ieuenctid Capel y Nant wedi'u cyflwyniad gogleisiol ar fore Dydd Sul, Rhagfyr 22. Llongyfarchiadau i bob un ohonynt, gan gynnwys y camel. Diolch i Arweinydd yr Eglwys, Robat Powell, am ei greadigaeth campus, hwyliog arferol ar thema'r Geni. Roedd ein cynulleidfa niferus wedi mwynhau'n fawr.

Rhai o blant Capel y Nant yn rhoi croeso llawen i Sion Corn ar ei ymweliad a Chlydach!

Roedd rhai o aelodau soniarus Capel y Nant ymhlith Grwp Carolau Cytun Clydach fu'n canu y tu fa's i'r gangen leol o Siop y Co-op. Diolch i haelioni siopwyr y pentre, codwyd £100 i gyflwyno i elusen Shelter Cymru.

Yn briodol iawn yng nghanol Gwyl mor lawen, gwnaed Rhodd gan Arweinydd Capel y Nant Robat Powell i David Waghorn i ddiolch yn fawr iddo am ei holl waith yn edrych ar ol y capel a'r neuadd.

Aelodau Chwaeroliaeth Capel y Nant ar ol iddynt fwynhau eu Cinio Nadolig yn un o westai'r ardal - un o achlysuron mwya poblogaidd eu blwyddyn!

Ar ddydd Sul, Mawrth 1, 2020, aethom yn griw llon o'n hoedfa i ddathlu Gwyl Ddewi yng Nghapel y Nant i'r New Inn i barhau a'r dathliadau gyda phryd blasus a chwmniaeth dda.

Buddug, Sali-Wyn, Eleri a Catherine yn joio ymysg y gwesteion.

Cyfle da i rannu newyddion ac atgofion wrth gofio am ein nawddsant Dewi.

Difyr iawn oedd y cyfarfod Traid Craft gawsom yn Neuadd y Nant ym mis Mawrth. Y siaradwr oedd Jenipher, ffarmwr coffi o Uganda. Roedd y cyfarfod yn rhan o ymdrech Clydach yn ddod yn bentref Traid Craft.

Cadeiriwyd prynhawn Traid Craft gan Robat, Arweinydd Capel y Nant. Fel y gwelwch, cafwyd cynulleidfa luosog sy'n arwyddo'n dda am lwyddiant y nod o ddod yn bentref Traid Craft.

Criw'r gegin yn gofalu am y croeso
Criw'r gegin yn gofalu am y croeso
Dewi ac Annette wrthi'n dosbarthu gwybodaeth am Fasnach Deg yn Co-op Clydach.

Ac yna ... y sioc i bawb ohonom - haint yn lledu trwy'r byd i gyd ...

HAINT COVID-19:
Gyda dyfodiad haint Covid-19 yn atal ein cyfarfodydd yn y capel a'r neuadd o Fawrth 14, 2020, daeth defnyddio system Zoom ar ein cyfrifiaduron yn ffordd newydd o gynnal ein gweithgareddau fel eglwys. Dechreusom gynnal oedfaon, addoliad nos Fawrth 'Cannwyll y Nant', a chyfarfodydd o'n Pwyllgor Gwaith gyda chymorth Zoom.
HAINT COVID-19: Gyda dyfodiad haint Covid-19 yn atal ein cyfarfodydd yn y capel a'r neuadd o Fawrth 14, 2020, daeth defnyddio system Zoom ar ein cyfrifiaduron yn ffordd newydd o gynnal ein gweithgareddau fel eglwys. Dechreusom gynnal oedfaon, addoliad nos Fawrth 'Cannwyll y Nant', a chyfarfodydd o'n Pwyllgor Gwaith gyda chymorth Zoom.
Er absenoldeb ein 'garddwyr', a phawb arall, o'r capel oherydd y cyfyngiadau wrth geisio ffrwyno Covid-19, roedd blodau'r capel wedi blodeuo'n ddigon hapus pan ddaeth Gwanwyn a Haf.

Diolch bod ein cyd-aelod Viv John yn byw gyferbyn a'r capel. Fe dynnodd hi luniau o'n blodau wrth iddyn nhw fynd ati'n hollol naturiol i gynnal y gwenyn a'r gloynod byw - yn unol a pholisiau 'gwyrdd' Capel y Nant.

Gyda Blwyddyn Newydd 2021 - Capel y Nant yn yr eira. Dyna reswm arall, llai bygythiol a thrist na Covid-19, nad oedd oedfaon yn bosibl yn ein capel.

Capel y Nant wrth i ni ail-ddechrau cynnal oedfaon yn capel - gan barhau ar Zoom hefyd - ar fore Sul, Mai 16.

Y gynulleidfa Zoom yn dal i gael croeso ...

 Y mygedig Barch Dewi Myrddin Hughes yn arwain oedfa yng Nghapel y Nant oedd hefyd yn cael ei darlledu ar Zoom - gyda Sgrin Fawr y capel yn dangos y gynulleidfa Zoom.

Rhai o'r addolwyr yn gwisgo'u mygydau yn ol rheolau Covid-19 Llywodraeth Cymru yn y capel - gyda'n Tim Zoom ar y chwith, sef Annette Hughes a Rhodri Rees. Diolch amdanynt.

Nodwyd dydd agoriadol Cynhadledd Newid Hinsawdd COP26 yn Glasgow, ar ddydd Sul, Hydref 31, 2021, trwy roi nifer o bosteri perthnasol ar ein hysbysfwrdd allanol ac yn y capel a'r neuadd. Roedd ein Pwyllgor Gwaith wedi danfon Datganiadau at Lywodraeth San Steffan a Llywodraeth Cymru'n galw am Gytundeb Cryf yn y Gynhadledd i dorri allyriadau carbon fel mater o frys mawr.

Bu'r Dr Fiona Gannon - Darpar Arweinydd Capel y Nant - ymhlith y siaradwyr yn Rali Hinsawdd COP26 a gynhaliwyd yn Abertawe ar Sadwrn, 6 Tachwedd. Esboniwyd i'r dorf ei bod yn cynrychioli Eglwys 'Werdd' Capel y Nant. Bu Fiona'n annerch yn Gymraeg yn ogystal a Saesneg. Cynhaliwyd Raliau tebyg ledled y byd mewn ymgais i sicrhau bod Cynhadledd COP26 yn Glasgow yn mabwysiadu Cytundeb grymus i ffrwyno peryglon Cynhesu Byd-eang.

Dau aelod arall o Gapel y Nant - Hywel a'r Dr Charlotte Davies - yn yr Orymdaith trwy ganol Abertawe ddilynodd areithiau'r Rali.

Llywelyn Gannon a'i fam Fiona hefyd ynghanol yr Orymdaith. Bu raid i 4 aelod arall o Gapel y Nant golli'r Rali gan ei bod yn gorfod ynysu dan reoliadau Covid19.

Yn ara' deg, a gyda gofal, roedd bywyd yn dechrau dod nol i normal wrth i Covid leihau yn Rhagfyr 2021 (er i amrywiolyn Omicron ymosod hefyd). Roedd yn bosib i ni gael noson Carol a Cwis fel rhan o'n dathliadau Nadolig. Dyma Llywelyn Gannon yn derbyn Cwpan fel Capten tim buddugol y Cwis. Llongyfarchiadau Llywelyn! medd Arweinydd yr Eglwys, Robat Powell, fel un o'i weithgareddau olaf wrth iddo baratoi i ymddeol o swydd yr Arweinydd.

Aelodau buddugoliaethus y Cwis - yn ddwys-ystyried yn eu mygydau Covid.

Doreen Hopkins yn cuddio'n swil y tu ol i'r gampwaith o gwilt a grewyd ganddi am y Preseb yn hanes y Geni ar gyfer Nadolig Capel y Nant 2021. Diolch yn fawr, Doreen!

Ym mis Ionawr 2022, Arweinydd newydd Capel y Nant, y Dr Fiona Gannon, gyda chriw teledu Heno yn siop newydd 'O Law i Law', Clydach. Fiona yw rheolwraig y siop - sy'n gwerthu eitemau a ddefnyddiwyd eisoes -  yn ogystal a bod yn gyfieithydd proffesiynol.

Dyma 2ail dudalen o luniau ar gyfer Lluniau Capel y Nant i roi cipolwg ar yr amrywiaethau o weithgareddau sydd gennym fel eglwys - y tro hwn gan ddechrau gyda 2017. Mae'r lluniau blaenorol yn aros ar y tudalen 1af dan y teitl Lluniau 2008-2016.

Latest comments

28.09 | 11:17

Hoffem llongyfarch Dr Fiona Gammon ar ei swydd newydd . Pob d...

19.09 | 09:07

Methu ymuno borema, 19 Medi am 10am. Ydi'r amser neu'r ddolen gy...

13.01 | 16:51

Diolch yn fawr, Melda. Roedd criw Capel y Nant wedi gwerthfaw...

08.01 | 15:43

Braf oedd cael eich cwmni yn Llwynrhydowen. Galwch eto!