YMUNWCH A'N TAITH FFYDD

TRAFOD EIN FYDD A HERIO ANGHYFIAWNDER

SYLWER: NODIADAU O'R CYFNOD CYN CYFYNGIADAU COVID-19

Mae ein Cyrddau Cyfoes ymhlith nifer o arbrofion llwyddiannus yng Nghapel y Nant. Fe'u cynhelir am 9.30 y bore ar 2ail a 4ydd Suliau'r mis - sef cyn oedfaon y bore.

Mae dishgledi o de neu goffi cychwynnol yn creu naws ymlaciol ar ddechrau'r sesiynol anffurfiol ac amrywiol hyn.

Mae'r sesiynnau, hefyd, wedi bod yn gyfle i asio'n Ffydd gydag Ymgyrchoedd. Ers 2008, mae ein criw Amnest Rhyngwladol, er enghraifft, wedi defnyddio'r Cwrdd Cynnar ryw 4 gwaith y flwyddyn i gynnal ein sesiynau ymarferol. Mae hyn yn gyfle i glywed am achosion o greulondeb ac anghyfiawnder ledled y byd. Yn ystod y sesiynau rydym yn paratoi llythyrau i'w postio i gefnogi carcharorion cydwybod a nodir gan Amnest .

awsom fendith wrth drafod nofel ddadleuol 'The Shack' gan William P. Young yn ystod ein Cwrdd Cyfoes, ar fore Sul, Gorffennaf 14, 2013. Roeddem yn falch iawn bod Dr John a Nora Morgans yn bresennol gyda ni yn y sesiwn i fod yn rhan o'r drafodaeth.

Ers hynny, rydym wedi gwerthfawrogi darllen a thrafod y llyfryn 'Byw'r Cwestiynau' a gyhoeddwyd gan fudiad Cristnogaeth 21. Cyfieithiad ac addasiad yw 'Byw'r Cwestiynau' o gyfrol gan ddau weinidog yn yr Unol Daleithiau.


Wrth i ni drafod amrywiaeth o bynciau, gan addoli'n anffurfiol trwy nifer o dduliau, mae'r cyrddau wedi cyfrannu at ddyfnhau ac ehangu ein ffydd fel Cristnogion. Mae croeso i bawb - heb roi pwysau ar neb i aros ar gyfer yr oedfaon mwy ffurfiol a thraddodiadol yn y capel.

Er enghraifft, c

DATGANIAD YN CONDEMNIO LLOFRUDDIO GEORGE FLOYD

Rydyn ni, aelodau eglwys Annibynnol Capel y Nant, Clydach, yn gwaredu at lofruddiaeth George Floyd gan swyddogion heddlu Minneapolis ynyr Unol Daleithiau ar Fai 25, 2020.

Credwn fod y drosedd hon yn ychwanegiad at y cam y mae pobl dduon y byd wedi’i ddioddef ers canrifoedd, yn bennaf trwy weithredoedd pobl wynion.

Mae arnom gywilydd o gyfraniad pobl Cymru a’r Deyrnas Gyfunol i’r anghyfiawnder hwn, yn enwedig trwy ein rhan yn y fasnach gaethweision a pholisïau trefedigaethol yr Yerodraeth Brydeinig.

Credwn fod gwahaniaethu yn erbyn pobl neu eu camdrin ar sail eu hil, eu ffydd grefyddol neu eu hiaith yn drosedd. Fel Cristnogion, ystyriwn fod holl aelodau’r ddynolryw yn gyfwerth â’i gilydd a bod ganddynt hawl i gael eu trin yn gyfartal gerbron cyfraith gwlad neu’r gyfraith ryngwladol.

Fel eglwys, rydym wedi ymrwymo i arfer a lledaenu cariad Duw yng Nghymru ac ar draws y byd. Mae hyn yn cynnwys ymdrechion i sicrhau trugaredd a chyfiawnder cymdeithasol i’r rhai anghenus ym mhob gwlad, heb ystyriaeth o’u hil na’u cefndir cymdeithasol. Gwnawn hyn yn ôl dysgeidiaeth ac yn enw Iesu o Nasareth.

*** Danfonwyd copiau o'r Datganiad hwn at ASau San Steffan, ASau Cymru, Mudiadau perthnasol, a'r Cyfryngau

DATGANIAD YN GALW AM ADFER CYMORTH RHYNGWLADOL

Neges gan Bwyllgor Gwaith Capel y Nant at Ganghellor y Trysorlys, Rishi Sunak AS - 4 Rhagfyr 2020:

Y Gwir Anrhydeddus Rishi Sunak AS, Canghellor y Trysorlys Ty'r Cyffredin, San Steffan, Llundain SW1A 0AA            

Annwyl Ganghellor Sunak,

MEDDYLIWCH ETO AM DORIADAU CYMORTH OS GWELWCH YN DDA

Yr ydym ni, aelodau o Bwyllgor Gwaith eglwys Gymraeg Annibynnol Capel y Nant  yng Nghlydach, Abertawe SA6 5HB yn dymuno mynegi ein siom ddirfawr gyda’ch cyhoeddiad bod Llywodraeth San Steffan yn bwriadu torri’r ganran o GDP y Deyrnas Gyfunol a roddir at gymorth rhyngwladol o 0.7% i 0.5%.

Pwyswn arnoch i feddwl eto fel Canghellor ynglŷn â’r bwriad hwn.

Deallwn fod gostyngiad fel hyn yn golygu y bydd tua miliwn o ferched yn colli eu haddysg, pedair miliwn o bobl yn colli dŵr glân, ac y bydd chwistrelliadau ar gyfer 5.6 miliwn yn llai o blant. Credwn na ddylem ni ddim troi cefn ar rai o bobl dlotaf, fwyaf anghenus byd yn y modd hwn. 

Os gwelwch yn dda, a wnewch chi gadw’r gwariant ar gymorth rhyngwladol ar yr un raddfa â’r bresennol gan barchu addewid maniffesto'r Blaid Geidwadol.

Yn ddiffuant,

Eurig Davies (Cadeirydd) , Robat Powell (Ysgrifennydd) , Y Parch Dewi Myrddin Hughes (Arweinydd Emeritws)

Pwyllgor Gwaith, Capel y Nant, Heol y Nant, Clydach, Abertawe SA6 5HB

CEFNOGI ELUSENNAU RHYNGWLADOL A LLEOL

Mae Capel y Nant yn eglwys sy'n ddiwyd wrth godi arian i hybu elusennau.

Rydym yn cyfrannu bob blwyddyn at Gymorth Cristnogol. Ar ben hynny, yn flynyddol, hefyd, rydym yn dewis un achos lleol ac un achos rhyngwladol gyda'n Grwp Eglwys a Chymdeithas yn trefnu nifer o ddigwyddiadau cymdeithasol er mwyn eu helpu.

Er cyfyngiadau Covid-19 ers yn gynnar yn 2020, roeddem yn falch iawn i allu cyfrannu £784.15 at Gymorth Cristnogol ar ddiwedd y flwyddyn. Daeth y swm hael hwn o ganlyniad i roddion aelodau at Apel y Nadolig yn dilyn oedfaon Zoom Adfent yn seiliedig ar waith y mudiad.

Dwy elusen 2020-2021 yw Ambiwlans Awyr Cymru a Chapel y Nant ei hun. Yn wyneb cyfyngiadau Covid-19 ar ein gweithgarwch, rydym wedi creu Apel Arbennig er mwyn i aelodau gyfrannu arian at yr achosion hyn.

Ein helusennau yn ystod  2019-20 oedd Tŷ Olwen a Phrosiect Tanzania.

Yn 2018 - 2019, gan nodi 200 mlwyddiant perthynas Cristnogion Cymru gyda phobl Madagascar, roeddem wedi uno'n hymdrechion i hybu'r wlad honno'n arbennig. Codwyd £4,800 gennym trwy amrywiaeth o weithgareddau, a chyflwynwyd y cyfan o'r swm hwnnw i Apel Arbennig Undeb yr Annibynwyr tuag at Madagascar.

Yn ystod 2017 / 2018, buom yn codi arian i hybu mudiadau Dinas Noddfa a Standing Voice. Mae Dinas Noddfa yn cynorthwyo ceiswyr lloches yn Abertawe, a Standing Voice yn cynnig cymorth i bobl sydd a chy flwr Albino yn nwyrain Affrica. Cyflwynwyd £1,800 yr un i'r ddwy elusen.

Yn dilyn gweithgarwch 2016 / 2017, cyflwynwyd £1,500 yr un i elusennau Ymchwil Alzheimer’s a Chronfa Feddygol Bhopal.

Mae ein Chwaeroliaeth, hefyd, yn ddiwyd wrth godi arian i achosion da. Yn ystod 2018, codwyd £700 i gefnogi gwaith Nyrsus Marie Curie. Yn 2017, cyflwynwyd £500 i hybu gwaith Shelter Cymru.  

Rydym fel eglwys o hyd yn brysur iawn, yn ogystal, yn ystod Wythnos Cymorth Cristnogol. Yn 2019 casglwyd cyfanswm o £1,630 at waith y mudiad, a £690 yn 2018.

ELWA WRTH BROFIADAU YSBRYDOL ERAILL

Mae Datganiad Cenhadol Capel y Nant yn adlewyrchu cred ein haelodau ein bod ar daith ffydd, neu daith ysbrydol.

Rydym yn derbyn yn gariadus ein bod wedi cyrraedd i lefydd amrywiol yn ein perthynas personol a Duw, Iesu a'r Ysbryd Glan, ac yn ein dealltwriaeth o beth yw gwaith y Cristion yn ein hoes ni wrth ymateb i'r arweiniad dwyfol.

Ar y tudalen hwn, gwahoddwn aelodau ac ymwelwyr i ymweld a gwefannau eraill sy'n cyflwyno atebion i rai o'n cwestiynau trwy weithgarwch a phrofiadau cyrff enwadol, eglwysi, mudiadau cymdeithasol ac elusennau.

Byddwn yn siwr o ychwanegu at y rhestr isod - gan groesawu awgrymiadau am wefannau cynorthwyol eraill.

Croesawn y cyfle i elwa'n ysbrydol trwy deithio y tu hwnt i waliau ein capel ni - er enghraifft, ar ein Pererindodau Haf blynyddol.

Undeb yr Annibynwyr Cymraeg

CYSYLLTIADAU ALLANOL

Peace Direct
http://www.peacedirect.org/uk/

Golau
http://www.golaucancerfoundation.wales.nhs.uk/golau-difference

Undeb yr Annibynwyr Cymraeg

Teledu Annibynwyr Cymru


Adnoddau Ysgolion Sul

Beibl.net

Cristnogaeth 21

Cyngor y Genhadaeth Fyd-eang CWM

Cymdeithas y Cymod yng Nghymru

Cymorth Cristnogol

Masnach Deg Cymru

Amnest Rhyngwladol Cymru

Cristnogion a'r Ddaear 

http://www.greenchristian.org.uk/

Methodistiaid lleol
www.clydachmethodists.co.uk
www.swanseamethodists.org.uk

SHARE Tawe - Abertawe Dinas Noddfa
Cymdeithas sy'n ceisio helpu pobl ddigartref yn Abertawe
https://www.facebook.com/sharetawe 
http://www.cityofsanctuary.org/swansea

Latest comments

28.09 | 11:17

Hoffem llongyfarch Dr Fiona Gammon ar ei swydd newydd . Pob d...

19.09 | 09:07

Methu ymuno borema, 19 Medi am 10am. Ydi'r amser neu'r ddolen gy...

13.01 | 16:51

Diolch yn fawr, Melda. Roedd criw Capel y Nant wedi gwerthfaw...

08.01 | 15:43

Braf oedd cael eich cwmni yn Llwynrhydowen. Galwch eto!