PERYGLON Y CORONAFIRWS YN ATAL CWRDD ERS MAWRTH 11

Croesawi Aelodau newydd - Ebrill 2022

Pythefnos Prysur yn y Capel

Diolch i Dewi Lewis a ymunodd a griw y Charoliaeth yn ddiweddar yn Neuadd y Nant. Cyfarfod difyr a buddiol iawn - DIolch Dewi. 

Hyfryd oedd croesawi aelodau newydd i'r Capel dros gyfnod y Pasg. Pob pendith iddynt. 

BU RAID CANSLO OEDFA AIL-AGOR CAPEL Y NANT

SYLWER: 

NI FYDDWN WEDI'R CYFAN YN CYNNAL OEDFA AIL-AGOR CAPEL Y NANT AR DDYDD SUL, MEDI 13.

TEIMLAD Y PWYLLGOR GWAITH OEDD BOD Y RHYBUDDION DIFRIFOL YNGLYN A LLEDAENIAD COVID-19 YN GOLYGU Y BYDDAI'N ANNOETH IAWN I DDOD A CHYMAINT O AELODAU YNGHYD I'R NEUADD AM YR OEDFA.

MAE HYN, WRTH GWRS, WEDI ACHOSI CRYN SIOM. OND RYDYM YN SIWR MAI DYMA'R PETH CYWIR I'R EGLWYS EI WNEUD ER MWYN CYNORTHWYO YMDRECHION LLYWODRAETH CYMRU I FFRWYNO COVID-19.

PASIWCH Y NEGES YMLAEN, OS GWELWCH YN DDA.

CANNWYLL Y NANT AR ZOOM

Croeso i bawb ymuno a myfyrdod wythnosol Cannwyll y Nant. Bydd yr un nesaf ar nos Fawrth, Medi 1, am 6.30. Gadewch i'r trefnyddion - Fiona, Robat, Dewi ac Annette - wybod a byddan nhw'n egluro sut i gysylltu ar Zoom. Ffordd hyfryd o addoli ac o weld ein gilydd.

HWYL A JOIO AR ZOOM

Cynhelir sesiwn Hwyl a Joi i'n plant ac ieuenctid ar Zoom ar nos Fawrth, Medi 3.

OEDFAON MEDI - AR ZOOM AC YN Y CNAWD!

NEWID HWYR *** Dydd Sul, 6 Medi, am 10.30yb: Bydd Robat yn gweinyddu’r Cymun drwy gyfrwng Zoom.


Dydd Sul, 13 Medi, am 10.30yb: Down ynghyd i addoli - gan gwrdd am y tro cyntaf ers mis Mawrth. Byddwn yn cynnal yr oedfa yn Neuadd y Nant gan ail-gydio yn ein trefniadau Sul 'arferol' a baratowyd cyn Cyfyngiad Covid-19. Croesawn y Parchedig Ken Williams i'n harwain.


Dydd Sul, 20 Medi, am 10.30yb: Bydd yr oedfa, yn y Neuadd, yng ngofal y Parchedig Gareth Morgan Jones.


Dydd Sul, 27 Medi, am 10.30yb: Robat, ein Harweinydd, fydd yn gofalu am yr oedfa hon, eto yn y Neuadd yn ol ein trefniadau newydd.

DIGWYDDIADAU MIS MAWRTH 2020

 MAWRTH 1: DYDD GWYL DEWI

Cinio Gŵyl Ddewi yn y New Inn yn dilyn yr oedfa fore

MAWRTH 3:

Cwrdd a Jennipher, ffermwr coffi o Uganda, yn Neuadd y Nant, am 2 o’r gloch

MAWRTH 3:

Astudiaethau’r Grawys yn dechrau yn Eglwys Santes Fair, am 7 o’r gloch

MAWRTH 5:

Cwrdd Gweddi’r Byd yn cael ei gynnal yn Eglwys Sant Benedicts, am 10.30 y bore

CANSLWYD POB CYFARFOD WEDI MAWRTH 11 FEL RHAN O'R YMDRECHION I ATAL LLEDAENIAD YR HAINT COVID-19.

PIGION O'R GORFFENNOL ...

CENHADON CYMRU A BRYNIAU CASIA - CHWEFROR 25:

'Perfformio'r Daith' - cynhyrchiad theatrig a cherddorol rhyngwladol arbennig iawn gan artistiaid o Gymru ac India, yn Neuadd y Nant. Plethiad o straeon gwerin pobl y Casi yng ngogledd India a llythyron cenhadon Cymreig fu'n gwasanaethu yn eu plith ym Mryniau Casia-Jaintia. Cafwyd canmoliaeth uchel i'r cyflwyniad ers y perfformiad cyntaf yn Amgueddfa Werin Cymru ac wedi hynny yn India - a bellach yng Nghapel y Nant  wrth i'r actorion / cerddorion deithio i berfformio mewn pump o gapeli yng Nghymru.

CYNGERDD CORAWL

Cawsom noson gerddorol i'w chofio wrth i Cor Ty Tawe a Chor Seingar ymweld a Chapel y Nant i ganu'r 'Croeshoeliad' gan y cyfansoddwr John Steiner ar nos Sul, Ebrill 7, 2019. Yr artistiaid oedd Efan Williams, tenor, Gwyn Morris, bariton gyda Fiona Gannon, yn organyddes. Aeth yr elw at Apel Madagascar.

DATHLU 10 MLYNEDD CAPEL Y NANT

Buom yn dathlu 'r Degawd mewn steil ... 2008 - 2018

Dydd Sul, Ebrill15: Te Parti yn y pnawn i aelodau a chyfeillion yr eglwys yn Neuadd y Nant. Dim oedfa hwyr y Sul hwn.

Dydd Sul, Mai 6 Oedfa'r Dathlu yn y bore, dan arweiniad Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb, y Parch Ddr Geraint Tudur gydag aelodau yn cymryd rhan.

Nos Iau, Medi 20, am 7 o'r gloch yng Nghapel y Nant - 'Cerrig Milltir': Pasiant o hanes y Ffydd Gristnogol yng Nghymru o oes y Saint hyd heddiw. Dyma uchafbwynt ein dathliadau i nodi'r 10 mlynedd ers sefydlu Capel y Nant. Noson fywiog, drwy ddrama, offeryn a chân gan 50 o aelodau hen ac ifanc. Ein cyn-Arweinydd, y Parch Dewi Myrddin Hughes, yw awdur y cyflwyniad gyda'n Arweinydd presennol, Robat Powell, yn gyfrifol am y rhan gyfoes.

Dydd Sul, Hydref 14: Cinio'r Dathlu, lleoliad i'w drefnu. Bydd y cinio'n dilyn yr Oedfa Ddiolchgarwch.

Nos Wener, Tachwedd 30: Cyngerdd Brethyn Cartref - yn Neuadd y Nant, gan dynnu ar ddoniau aelodau'r eglwys ac eraill.

 

ATGOFION ERAILL O'R GORFFENNOL ...

Dathlu hwyliog Gwyl Ddewi Capel y Nant 2017

Oedfa Blygain 2016

30. Jun, 2015

2015: DANGOS 'MORE THAN HONEY'

Am y tro cyntaf, trefnodd Grwp Eglwys a Chymdeithas Capel y Nant noson ar y cyd gyda Chyfeillion y Ddaear, Abertawe, er mwyn dangos ffilm 'More than Honey.'
Mae'r ffilm - sydd wedi'i chanmol fel un 'ysgytwol o brydferth' - yn esbonio'r cefndir i'r argyfwng sy'n effeithio ar wenyn ledled y byd, ac yn effeithio, felly, ar bob un ohonom.
Cynhaliwyd y cyfarfod arloesol hon yn Neuadd y Nant ar nos Fawrth, Mehefin 30, 2015. Roedd y noson am ddim, gyda chroeso i bawb, ac roedd stondin yn y neuadd gan Gyfeillion y Ddaear.

Daeth tyraf dda o aelodau'r eglwys a phobl y gymuned i weld y dangosiad ffilm gyntaf yn Neuadd y Nant ar Fehefin 30, 2015 - sef ffilm More Than Honesy am yr argyfwng sy'n wynebu gwenyn a gloynod byw.

Rhai o gefnogwyr Grwp Amnest Rhyngwladol Capel y Nant wrthi'n llunio llythyrau yn ein sesiwn yn y Cwrdd Cyfoes cyn oedfa'r bore ar ddydd Sul, Mai 17, 2015. Llythyru wnaethon ni dros y llenor a'r blogiwr Druklo yn Nhibet sydd wedi ei garcharu heb gyhuddiad yn ei erbyn gan awdurdodau diogelwch Llywodraeth Tsieina. Un dewr yw Druklo sy'n disgrifio gormes Tsieina yn Nhibet. Danfonon ni ein 15 llythyr at Lysgennad Tsieina yn Llundain gan ofyn am ryddid Druklo. ISOD: LLUNIAU AC ADRODDIAD AM AGORIAD SWYDDOGOL NEUADD Y NANT AR EI NEWYDD WEDD ...

Mawrth 9, 2015

AGORIAD SWYDDOGOL NEUADD CAPEL Y NANT

Cafwyd cyfarfod llwyddiannus a hapus iawn i agor ein Neuadd ar ei newydd wedd ar bnawn Iau, Mawrth 5. Agorwyd y Neuadd yn swyddogol gan Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, y Parch Ddr Geraint Tudur. Diolchwyd i gynrychiolwyr yr adeiladwyr a'r prif noddwr, WREN, oedd hefyd yn bresennol i fwynhau achlysur ynghyd a chriw da o aelodau Capel y Nant. Llywyddwyd y cyfarfod gan Robat Powell, Arweinydd Capel y Nant. Roedd Robat a'r Parch Pam Cram - gweinidog Eglwys Fethodistaidd Clydach sy'n wedi'i phartneru a Chapel y Nant - yn falch i ddiolch Geraint am arwain seremoni'r agoriad. Cafwyd lluniaeth blasus a chyflwyniad o luniau a ffilmiau fideo o weithgareddau'r eglwys ar y sgrin fawr.

Latest comments

28.09 | 11:17

Hoffem llongyfarch Dr Fiona Gammon ar ei swydd newydd . Pob d...

19.09 | 09:07

Methu ymuno borema, 19 Medi am 10am. Ydi'r amser neu'r ddolen gy...

13.01 | 16:51

Diolch yn fawr, Melda. Roedd criw Capel y Nant wedi gwerthfaw...

08.01 | 15:43

Braf oedd cael eich cwmni yn Llwynrhydowen. Galwch eto!