Rhaid ffrwyno Poethi Byd-eang - cefnogwn COP26

Dr Fiona Gannon - Darpar Arweinydd Capel y Nant - yn annerch Rali Newid Hinsawdd COP26 yn Sgwar y Castell, Abertawe, ar ddydd Sadwrn, Tachwedd 6ed, 2021. Esboniwyd, wrth gyflwyno Fiona i'r dorf, bod Capel y Nant yn 'Eglwys Werdd' sydd wedi gwneud llawer ym maes gwarchod y Ddaear.

Gosodwyd nifer o bosteri y tu allan i ac yng Nghapel y Nant i nodi dechrau Cynhadledd Newid Hinsawdd COP26 yn Glasgow ar ddydd Sul, Hydref 31.

NEL I GYFLWYNO STRAEON I'R BBC O GYNHADLEDD COP26

Nel Richards - un o'r 22 gohebydd ifanc fydd yn cyflwyno straeon o Gynhadledd COP26 i'r BBC

NEL CAPEL Y NANT YN CAEL EU DEWIS FEL UN O 22 GOHEBYDD IFANC Y BBC YNG NGHYNHADLEDD COP26

Mae un o aelodau ifanc Capel y Nant, Nel Richards, wedi’i dewis gan y BBC fel un o’r 22 o bobl ifanc fydd yn cyflwyno straeon i’r BBC o Gynhadledd Newid Hinsawdd COP26 yn Glasgow (Hydref 31 – Tachwedd 12). Cynigiodd dros 500 o bobl ifanc o bob rhan o’r Deyrnas Gyfunol am y swyddi.

Mae Nel – sy’n ferch i Gareth a Sian Richards - yn 20 oed ac yn astudio Newyddiaduraeth a Chymraeg yn Mhrifysgol Caerdydd.

Medde Nel wrthym:

‘Dwi wedi bod yn falch iawn o allu cynrychioli Cymru fel gohebydd ifanc yr hinsawdd gyda’r BBC yn y misoedd sy’n arwain i fyny at COP26 yng Nglasgow.

‘O ran beth hoffwn weld yn cael eu trafod - hoffwn i weld cwestiynnau yn cael eu HATEB ac yna’n cael eu GWEITHREDU.

‘Mae gen i ddiddordeb mewn popeth sy’n amgylchynnu newid hinsawdd - ond yn benodol: fast fashion, egni adnewyddadwy mewn ardaloedd gwledig, a gwneud cynaliadwyedd yn fwy hygyrch i bawb, nid yn unig i bobl dosbarth canol - mae’n ddrud i fyw fel hyn!

‘Ry’ ni’n gwybod fod llawer o arweinwyr gwlad yn dweud yn fwy na’ beth maen nhw'n gwneud - felly fe fydd yn ddiddorol i weld beth sydd wir yn dod o’r gynhadledd.

‘Mae’r digwyddiad wedi dod a llawer o sylw i newid hinsawdd - sydd yn beth da fod mwy o ymwybyddiaeth yn dod ohoni. Mae COP26 yn rhywbeth arwyddocaol gan ei fod yn rhoi amser i bobl drafod - ond yn bwysicach oll dwi’n gobeithio bydd rhywbeth yn dod o’r gynhadledd: mesuriadau, cyfreithiau, a phendantrwydd.

‘Mae pob llais yn bwysig - nid llais yr ifanc yn unig. Ond, fel mae pawb yn gwybod, ni yw’r dyfodol, ni a’n plant ni sydd yn mynd i orfod byw mewn byd ble mae’r hinsawdd yn datblygu’n gyflym (mae’r datblygiad yma wedi dechrau yn barod!).

Mae angen gwneud yn siwr bod lleisiau’r di-lais yn cael eu clywed ac hefyd y bobl sy’n cael ei heffeithio’n uniongyrchol.

‘Fel gohebydd ifanc, gobeithiaf allu wireddu hyn.’

... Diolch yn fawr iawn i Nel am yr adroddiad arbennig hwn i Wefan Capel y Nant.

Mae eisiau angerdd yn ein calon ac yn ein llais - i amddiffyn y Ddaear

Yn ystod ein Sul Hinsawdd ar 29 Awst, clywodd aelodau Capel y Nant apel daer gan y Parch Dewi Myrddin Hughes i'r eglwys fynegi ei barn yn gryf o blaid cael cytundeb i ffrwyno Poethi Byd-eang yng Nghynhadledd COP26 yn Glasgow. Diolch i Dewi am gael defnyddio nodiadau o'i fyfyrdod ...

EPHPHATHA

Marc 7 adnod 35: Agorwyd ei glustiau ar unwaith, a datodwyd rhwym ei dafod, a dechreuodd lefaru’n eglur.

Gwyrth. Mae’r digwyddiad yn newid bywyd y dyn yn llwyr.  Pe na bai Iesu wedi dod heibio, neu heb fedru helpu’r dyn, neu ddim yn fodlon, fyddai dim wedi newid, byddai wedi para yn fud a byddar.

"Ephphatha” oedd yr union air a ddefnyddiodd Iesu, gair Aramaeg, yn golygu “agorer di”. Digwyddodd hyn. Iachawyd dyn.  Fydd ei fywyd byth yr un fath.  Mae byd arall yn agor o’i flaen, un llawn posibiliadau, lle gall glywed a siarad.

Mae hynny i gyd yn wir. Ond, fel yn aml yn yr ysgrythur, mae ystyr arall dan yr wyneb. ‘Dyn NI ddim yn clywed yn iawn, ac yn methu dweud yn iawn.

Dyma drosglwyddo’r stori i’n sefyllfa ni. 

Mae’r byd yn llawn helbulon enbyd: Afganistan, Haiti, Syria, Belarws ... Er mor erchyll yw y rheini, mae un argyfwng  uwchlaw’r cwbl. 

Argyfwng pennaf ein cyfnod yw “cynhesu,” nage, “poethi” byd-eang.  Mae cynhesu yn air rhy dyner fan hyn.  Gyda chynhadledd fawr Glasgow, COP26,  ar y  gorwel mae’r pwnc yn hawlio sylw.  Ydyn ni yn methu clywed? Mae gwyddonwyr yn rhybuddio ers blynyddoedd bod rhaid i ni weithredu, gwneud newidadau sylfaenol yn ein ffordd o fyw.  Ydyn ni, hyd yn oed nawr, yn sylweddoli mor ddifrifol yw’r sefyllfa?

Mae rhan i bobl eraill yn y stori hon.  Pobl eraill sy’n dod â’r dyn at Iesu.  Bu pobl eraill yn tynnu’n sylw ninnau at yr argyfwng: David Attenborough, Greta Thunberg a llu o rai eraill.

Glywch chi Iesu yn dweud wrthym ni heddiw, “Rwy am i’ch clustiau chi fod ar agor! Rwy’n moyn i chi glywed”? Mae pethe nad ydyn ni ddim yn eu clywed, er bod gwir angen i ni glywed. Mae gennym ddawn i roi ein pennau yn y tywod. “Does neb mor ddall â’r rheini sy’n mynnu peidio gweld!”

Mae angen i ni glywed yn glir, ac wedyn dweud.  Buom yn fud, yn dawel.  Mae angen i ni godi’n llais.  Mae angen i ni waeddi.

Y gair Groeg am wirionedd yw aletheia.  Ystyr letheia ydy cuddiedig, o’r golwg.  Mae’r ‘a’ yn troi’r ystyr ar ei phen.  Aletheia yw yn y golwg, yn eglur.  Yn ddigon tebyg i’r Gymraeg: cuddio + dat= datguddio.  Gwirionedd yr efengyl yw’r peth y mae’r efengyl yn ei ddatguddio, yn ei ddwyn i’r golwg.  Pan welwn y gwirionedd, rhaid ei rannu.  Pan glywn y gwirionedd rhaid ei waeddi.

Mae tim o arbenigwyr ar ran holl wledydd y byd wedi dwyn adroddiad ar boethi byd-eang – adroddiad yr IPCC.  Mae’r rhybudd yn glir. Mae angen lleihau nwyon gwenwynig ar frys gwyllt.  Does dim amser i oedi.  Yn gynnar yn yr Adroddiad mae’r tri gair i’n sobri:

Inevitable, anochel. Nid falle, nid o bosib,  Heb weithredu yn llym ac yn gyflym, fel hyn y bydd hi.

Unprecedented, fu dim fel hyn o’r blaen. Bu argyfyngau mawr o’r blaen, ond mae hyn yn bygwth bywyd ar y ddaear.

Irreversible, di-droi-nôl. Er enghraifft, unwaith y bydd clogwyn mawr o iâ yn disgyn i’r môr, miliynau o dunelli, allwch chi ddim ei roi nôl.

Mae’r ddynoliaeth, rhan gyfoethog o ddynoliaeth yn hytrach, sy’n ein cynnwys ni, wedi ein dwyn at y dibyn. Rydym y gyd wedi ein dychryn gan luniau brawychus, tanau, llifogydd, corwyntoedd, ar hyd a lled y byd. 

Heb i ni weithredu ar frys byddent yn amlach ac yn ffyrnicach.  Bydd pawb yn dioddef, ond y bobl dlotaf yn fwy na neb.  A’r cenedlaethau sydd i ddod gaiff eu heffeithio fwyaf, ein plant, a’u plant, a’u plant hwythau.  Mae angen i NI wneud rhywbeth ar frys.

            1. Rhaid i ni fod yn fwy cyfrifol ein hunain, bod yn ofalus iawn yn ein dewisiadau, o ran bwyd, ynni yn y cartre, teithio.

            2. Galw ar bobl sydd mewn awdurdod, cwmnïau mawr a gwleidyddion, i weithredu ar frys.

Mae Cynhadledd Glasgow fis Tachwedd yn gyfle euraidd.

Er mwyn amddiffyn y ddaear, rhaid gweithredu.  Mae’n hwyr. OND DDIM YN RHY HWYR!

Mae eisiau angerdd yn ein calon ac yn ein llais. Ephphatha! Gwranda! Llefara!

D.M.H.

COP26 yn gyfle holl bwysig i ffryno Newid Hinsawdd

Cynhelir Cynhadledd Hinsawdd COP26 yn ninas Glasgow, rhwng 31 Hydref a 12 Tachwedd.

Dyma un o'r cyfleon olaf i achub ein Daear rhag Poethi Byd-eang a Newid Hinsawdd o ganlyniadau i allyriadau nwyon fel CO2.

Fel Eglwys Werdd, mae Capel y Nant yn cefnogi galwadau ar Lywodraeth y DG i wrthod ceisiadau i agor Maes Olew a Nwy newydd ger Ynysoedd y Shetland a phwll glo newydd yng Ngogledd Lloegr.

Byddai caniatau y prosiectau hyn yn gwbl groes i farn gwyddonwyr pwyllgor IPCC y Cenhedloedd Unedig yn eu 6ed Adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Ofn y gwyddonwyr yw mai dim ond rhyw 10 mlynedd sydd gennym i achub y sefyllfa hynod beryglus sy'n wynebu'r Ddaer oherwydd Poethi Byd-eang.

Mynnwn Gytundeb cryf gan wledydd y byd yng Nghynhadledd COP26 yn Glasgow i dorri lawr ar allyriadau o nwyon fel CO2.

 

Er diffyg y gofal trwy gyfnodau Cyfyngiadau Covid-19 i'r bylbiau/blodau blannwyd fis Hydref diwethaf - a phlanhigion cynhegid wal ein lawnt - braf gweld bod y cyfan wedi blodeuon'n hapus. Mewn pryd i groesawu'r addolwyr cyntaf ers mis Mawrth, 2020, ddaw yma am wasanaeth ar fore Sul, Mai 16, am 10.30 o'r gloch. Ac yn faeth pwysig i wenyn a gloynod byw fel sy'n addas i Eglwys Werdd Capel y Nant.

Plannu blodau i gynnal ein gwenyn

Ers sawl blwyddyn bellach mae aelodau Capel y Nant wedi bod yn plannu hadau blodau gwyllt, a blodau eraill, sy'n cynnig cynhaliaeth i wenyn amrywiol a gloynod byw.

Mae gennym ardaloedd o flaen ac wrth ochr y capel gyda'r arwyddion bychain Croeso, Cariad, Cymod. Gwnawn hyn fel rhan o'r ymgyrch byd-eang i warchod y creaduriaid bach ond holl-bwysig hyn sydd mewn perygl o ddifodiant oherwydd gweithgarwch dynol.

Rydym hefyd wedi dangos ffilm, More Than Honey, i'r gymuned leol sy'n esbonio'r bygythiad i'r gwenyn. Gwnaethom hyn mewn cydweithrediad a changen Abertawe o Gyfeillion y Ddaear.

Cofrestru gydag A'Rocha fel 'Eglwys Werdd'

Ym mis Hydref, 2018, cafodd Capel y Nant ei chofrestru fel 'Eglwys Werdd' gyda mudiad A'Rocha.

Mudiad Cristnogol / Amgylcheddol yw A'Rocha sydd wedi bod yn gweithio ers rhai blynyddoedd gyda phrosiectau adferiad amgylcheddol mewn sawl rhan o'r byd.

Mae cael ein cydnabod fel 'Eglwys Werdd' yn golygu y bydd Capel y Nant - pan teimlwn ein bod yn gymwys - yn gallu ymgeisio i ennill statws Efydd, Arian neu Aur yn yr her sydd hefyd gan A'Rocha i eglwysi ymhell ac agos leihau ar eu hol-troed niweidiol ar y blaned Ddaear.

Edrychwn ymlaen fel eglwys at allu symud ymlaen i ymgeisio am gydnabyddiaeth statws Efydd. Byddai hyn yn barhad gwerthfawr ar ein cyfraniad at yr ymgyrch i leihau'r allyriadau carbon sy'n achosi Cynhesu Byd-eang peryglus.

Troi cefn ar drydan a nwy niweidiol

Ym mis Medi 2017, cwblhaodd Capel y Nant y broses o newid eu trydan a nwy at Good Energy, sef cwmni sydd wedi arwain gyda datblygu ynni glan ac adnewyddol ers y 1990au - sef trydan o'r haul a'r gwynt a dwr.

Golyga hyn ein bod yn talu nawr am drydan sy'n 100% yn ddi-garbon. Bydd carbon niweidiol ein nwy yn cael ei ateb o hyn ymlaen gan gefnogaeth Good Energy i ddatblygiadau di-garbon mewn rhannau eraill o'r byd. Dim ond 6% o'u nwy sy'n dod o bio-methan ar hyn o bryd, ond mae'r ffigwr yn cynyddu.

Hyd at Fedi 2017, roeddem yn delio a chwmniau mawr sy'n cynhyrchu trydan a nwy gan losgi carbon niweidiol.

Mae Good Energy yn darparu'r ynni 'gwyrdd' i'r Grid Cenedlaethol  ac wrth i ni eu cefnogi yn hynny o beth, mae sector ynni glan ac adnewyddol y Deyrnas Gyfunol yn cynyddu. Ildio mae glo ac olew, er gwrthwynebiad grymus yr hen gorfforaethau llosgi carbon wrth geisio gwarchod eu helw. Y Grid Cenedlaethol sy'n dosbarthu'r trydan a'r nwy.

Roedden ni wedi newid wrth ymateb i ymgyrch Cymorth Cristnogol a Tear Fund yn galw am y 'Big Switch' - sef yn annog eglwysi i droi cefn ar losgi carbon er mwyn torri ar allyriadau carbon deuocsid. Mae CO2 yn un o brif achosion cynhesu byd-eang a'r newid hinsawdd a'r canlyniadau eraill sy'n dilyn o hynny.

Gwnaed y newid yn unol a phenderfyniad unfrydol gan Gwrdd Eglwys o aelodau Capel y Nant.

Ymuno a'r ymgyrch i reoli newid hinsawdd

Ar drothwy Cynhadledd Newid Hinsawdd hynod bwysig y Cenhedloedd Unedig ym Mharis rhwng Tachwedd 30 a Rhagfyr 11, 2015, roedd Capel y Nant wedi cytuno i 'ymgysylltu' gyda'r mudiad amgylcheddol Cyfeillion y Ddaear.

Gwnaed y penderfyniad yn unfrydol gan Gwrdd Eglwys ar fore Sul, Hydref 18, fel symbol o bryder aelodau'r eglwys ynghylch bygythiad Newid Hinsawdd. Cytunodd y cyfarfod fod angen i arweinwyr y byd ymrwymo i doriad sylweddol mewn allyriadau Carbon Deuocsid os oes gobaith i fod o ffrwyno Cynhesu Byd-eang.   

Penderfynodd Capel y Nant uniaethu ag ymgyrchoedd Cyfeillion y Ddaear wedi i'r mudiad wahodd sefydliadau amrywiol i ddangos eu hochor ar adeg mor dyngedfennol.

Ein cred fel eglwys oedd, ac yw, iddi fynd yn unfed awr ar ddeg arnom yn wyneb bygythiadau difrifol Newid Hinsawdd. Roeddem yn gweddïo ar y pryd am gytundeb effeithiol rhwng y gwledydd ym Mharis, gan apelio ar eglwysi eraill i ymuno â ni yn ein gweddïau.

*** Danfonwyd Deiseb wedi'i harwyddo gan 18 o aelodau Capel y Nant at Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, Byron Davies, AS Etholaeth Gwyr, a Jill Evans ASE yn datgan:

'Rydyn ni'n galw ar gynrychiolwyr llywodraethau gwledydd y byd sy'n cwrdd yng Nghynhadledd Newid Hinsawdd Paris, Tachwedd 30 - Rhagfyr 11, 2015, i gytuno ar doriadau llym yn allyriadau CO2 a nwyon ty gwydr eraill er mwyn ceisio cyfyngu Cynhesu Byd-eang i lai na dwy radd centigradd ers y Chwyldro Diwydiannol.'

*** Teithiodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, a Jill Evans ASE, i Paris ar gyfer y Gynhadledd - ac fe brofodd y trafodaethau yn hanesyddol. Ar Ragfyr 11, 2015, cytunodd 195 gwlad bod rhaid ymdrechu ar frys i geisio rheoli cynhesu byd-eang sy'n achosi newid hinsawdd peryglus.

*** Felly - ymlaen a'r gwaith i warchod y Ddaear, ein rhodd gan Dduw.

Latest comments

28.09 | 11:17

Hoffem llongyfarch Dr Fiona Gammon ar ei swydd newydd . Pob d...

19.09 | 09:07

Methu ymuno borema, 19 Medi am 10am. Ydi'r amser neu'r ddolen gy...

13.01 | 16:51

Diolch yn fawr, Melda. Roedd criw Capel y Nant wedi gwerthfaw...

08.01 | 15:43

Braf oedd cael eich cwmni yn Llwynrhydowen. Galwch eto!