SYLWER: NODIADAU O'R CYFNOD CYN-COVID

DYDD SUL, 20 HYDREF, 2019: LANSIO TREFN NEWYDD I'R IFANC

YSGOL SUL

Bwriadwn gynnal Ysgol Sul i’r plant ar drydydd Sul pob mis gan ddechrau ar fore Sul, 20 Hydref.

Dwedwch wrth eich ffrindiau, ac os gallwch helpu, cysylltwch ag
Annette.


HWYL A JOIO

Bydd sesiwn Hwyl a Joio ar nos Iau gyntaf pob mis ar gyfer plant oed cynradd rhwng 5.00 a 6.00 o’r gloch.

Mae nifer calonogol iawn o blant yn dod i'r nosweithiau a gynhelir yn Neuadd y Nant.

Mae nhw'n joio chwarae gemau a bwyta pizza - a chlywed stori Feiblaidd. Ac mae'r sesiynau yng ngofal athrawon profiadol.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag Annette Hughes - ffon 01792 843440, ebost dewiannette@gmail.com

REIDIO BEICIAU I GODI ARIAN I HELPU NEPAL. Wedi clywed am Apel Daeargrynfeydd Nepal, aeth Ieuenctid Capel y Nant ati ar unwaith i drefnu amrywiaeth o weithgareddau i godi arian i helpu'r anffodusion. Un o'r ffyrdd o godi arian oedd trwy drefnu Taith Feiciau Noddedig ar bnawn Sul, Mehefin 7, o Gapel y Nant, Clydach, i Barc Singleton, Abertawe, ac yn ol - cyfanswm o ryw 21 milltir. Dyma nhw, gyda rhieni a chefnogwyr eraill, wedi mwynhau picnic yn y parc ar bnawn hyfryd, heulog, yn paratoi i deithio nol i Glydach - gan alw am hufen ia yn Joe's, Llansamlet! Diolch i'r ieuenctid am drefnu'r digwyddiad ardderchog hwn dan gyfarwyddyd Helen.

POBI TEISIENNAU I HEB APEL Digwyddiad arall a drefnwyd gan Ieuenctid Capel y Nant i godi arian at Apel Daeargryn Nepal oedd Cystadleuaeth Pobi. A dyma'r ddau ddaeth i'r brig - yn 1af ac yn 3ydd, Gwion Lewis, ac yn 2ail Nel Richards. Llongyfarchiadau mawr iddyn nhw ac i bawb oedd wedi cystadlu. Beirniaid craff y gystadleuaeth oedd Ray Rees a Brenda Evans.

... A dyma'r teisiennau a grewyd gan Gwion a Nell. A diolch yn fawr iawn, yn ogystal, i'r aelodau o Gapel y Nant a aeth ati i bopi amrywiaeth o deisiennau eraill a werthwyd gan yr Ifainc wedi oedfa bore Sul, Mai 31, i godi arian at Apel Nepal.

Latest comments

28.09 | 11:17

Hoffem llongyfarch Dr Fiona Gammon ar ei swydd newydd . Pob d...

19.09 | 09:07

Methu ymuno borema, 19 Medi am 10am. Ydi'r amser neu'r ddolen gy...

13.01 | 16:51

Diolch yn fawr, Melda. Roedd criw Capel y Nant wedi gwerthfaw...

08.01 | 15:43

Braf oedd cael eich cwmni yn Llwynrhydowen. Galwch eto!