ADDASU I GYFYNGIADAU COVID-19

Dyma ymgais at olrhain amrywiol ymdrechion Capel y Nant i ymateb i gyfyngiadau cyfnod Covid-19 ers mis Mawrth 2020.

Ein nod yw i barhau'n eglwys Gristnogol fywiog tra'n gwarchod ein cyd-aelodau trwy ddilyn yr holl gyfyngiadau i ffrwyno lledaeniad Covid.

Dechreuwn isod gyda'r datblygiadau mwya' diweddar - gan arwain yn ol at ddatblygiad syfrdanol Mawrth 2020 .

IONAWR 30, 2022

... OND NOL I GAPEL Y NANT ETO!

Wedi penderfynnu peidio a chwrdd yn y capel dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn newydd, er mwyn osgoi cyfrannu at ehangiad yr amrywiolyn Omicron, aethom yn ol eto i Gapel y Nant i gynnal oedfaon ar ddydd Sul, Ionawr 30, 2022 - gan obeithio na fydd rhaid cilio eto i'n cartrefi. Ond roedd ein hoedfaon yn parhau i gael eu trosglwyddo hefyd ar Zoom yn ogystal.

TACHWEDD 17, 2021

OMICRON YN GOLYGU CRYFHAU CYFYNGIADAU ETO

Yn wyneb ehangiad cyflym yr amrywiolyn Covid newydd, Omicron, cytunodd Cyfarfod Brys o Bwyllgor Gwaith Capel y Nant ar nos Wener, Tachwedd 17, bod rhaid dilyn rheoliadau cyfyngu newydd Llywodraeth Cymru i leihau cymdeithasu. Cytunwy na fyddai'r Plygain yn cael ei gynnal yn y Capel ar fore dydd Nadolig - ond ar Zoom yn unig, am 7.30. Cytunwyd na fyddai Oedfa o gwbl ar fore Dydd Gwyl San Steffan ac y byddai Oedfa Gymun bore Sul, Ionawr 2, ar Zoom yn unig.

MEHEFIN / GORFFENNAF 2021:

LLACIO CYFYNGIADAU COVID-19 YN PARHAU

Wedi i ni ail-ddechrau cynnal oedfaon yn y capel o dan reoliadau Covid Llywodraeth Cymru ar fore Sul, Mai 16, bu'r rheoliadau yn cael ei llacio'n ara' deg - e.e. gan ganiatau canu'r organ bib, ac yna canu fel cynulleidfa ond gan barhau i wisgo mygydau wrth wneud hynny.

Ein gobaith yw y bydd y llacio gofalus yn gallu parhau heb gyfrannu at ymlediad yr amrywiolyn Delta ddechreuodd gyflymu mewn ffordd sy'n achosi pryder ym mis Mehefin.

DAL I ARBROFI: ZOOM AR SGRIN Y CAPEL - A ZOOM YN EIN CARTREFI HEFYD

Diolch i'n Tim Technegol am ein llywio'n hyderus i fyd Zoom - gan ddechrau gydag oedfaon cymharol syml arlein yn unig, ond yna ymlaen i ddarlledu oedfaon Zoom o Gapel y Nant ei hun i'n cartrefi. O'r dde i'r chwyth - Fiona, Dafydd, Annette a Rhodri.

BORE SUL, MAI 30:

Cynhaliwyd ein hail oedfa nol yng Nghapel y Nant ar Ddydd Sul, Mai 23, o dan reoliadau Covid-19 ac yng ngofal Arweinydd Capel y Nant, Robat Powell. Roedd yr oedfa hon yn y capel, fel un Mai 16, hefyd ar gael ar Zoom.

Ar ddydd Sul, Mai 30, y bwriad yw arloesi ymhellach. Bydd y pregethwr, y Parch Dylan Rhys, yn arwain yr oedfa o'i gartref yng ngogledd Cymru - ond bydd yr oedfa ar gael ar Zoom ar sgrin fawr y capel yn ogystal ag ar yr offer sydd gan aelodau / ffrindiau yn eu cartrefi.

Dilynnir oedfaon y capel o dan reoliadau Covid-19 Llywodraeth Cymru, gan gynnwys archebu lle o flaen llaw trwy Robat. Os oes amheuaeth, dylid cysylltu gyda Robat neu gydag un o swyddogion eraill yr eglwys. Rhaid i bawb sy'n mynychu'r oedfa yn y capel wisgo mygydau trwy'r oedfa, rhaid iddynt gael eu tywys gan stiwardiaid i seddau penodol gyda phellter cymdeithasol wedi'i sicrhau, mae hylifau diheintio ar gael yn y cyntedd, a rhaid i bawb rhoi gwybodaeth eu bod yn dymuno bod yn yr oedfa erbyn y dydd Iau cyn Sul yr oedfa. Cedwir ffenestri'r capel ar agor i sicrhau llif awyr, felly byddai'n ddoeth i wisgo'n gynnes!

DYDD SUL, MAI 16, 2021 - O'R DIWEDD, ADRE AM OEDFA YNG NGHAPEL Y NANT!

Do, fe ddigwyddodd o'r diwedd - sef, wedi sawl ymgais, cael cynnal yr oedfa gyntaf nol yng Nghapel y Nant ers ymlediad haint Covid-19 ym mis Mawrth 2020.

Llongyfarchiadau mawr a diolch i'r tim fu'n gyfrifol am groesawu aelodau nol yn ddiogel i'r capel am yr oedfa hanesyddol ar fore Sul, Mai 16, 2021.

Dilynwyd holl rheoliadau Llywodraeth Cymru i geisio ffrwyno Covid, gydag aelodau'n gwisgo mygydau, yn golchi dwylo, yn eistedd ar wahan ac ati.

Golygodd hyn oll lawer iawn o waith, gyda'r paratoadau cyfrifiadurol i sicrhau bod yr oedfa ar gael ar Zoom yn ogystal ag yn y capel yn faich mawr ar ben hynny. Ond llwyddwyd yn dda dros ben.

Ac yn briodol iawn roedd hi'n bleser croesawu Beti Wyn James, Caerfyrddin, nol i'n plith - yn gorfforol ac yn rhithiol - i arwain yr oedfa gofiadwy hon.A'i thad, Walford, yn cael ymuno a ni oedd yn Zwmio!

Ond cofiwn nad yw Covid-19 ar ben. Mae'r marwolaethau pellach yn India yn enbyd o ychwanegiad i'r dioddefaint gafwyd eisoes ledled y byd. Bydd rhaid i ninnau bwyllo yma yng Nghymru er mwyn sicrhau na chaiff amrywiolion o'r haint gyfle i ymledu yma, eto.

EBRILL 19, 2021: PENDERFYNNU AIL-DDECHRAU OEDFAON YN Y CAPEL - GYDA GOFAL

EBRILL 2021

NEGES AT AELODAU YNGLYN AG AIL DDECHRAU CYNNAL GWASANAETHAU YN Y CAPEL AR SULIAU MAI 16 A MAI 23, 2021 (PENDERFYNIAD PWYLLGOR GWAITH CAPEL Y NANT – NOS LUN, EBRILL 19)

 Annwyl Gyd-Aelodau,

Fel cam bach cychwynnol ar gyfer dychwelyd i Gapel y Nant i addoli, bydd oedfa foreol Sul, 16 Mai, yn cael ei chynnal yn y capel am 10.00 o’r gloch ac yn cael ei darlledu ar Zoom yr un pryd. Bydd y gwasanaeth yng ngofal y Parchedig Beti Wyn James.

Mae dewis cwbl agored gennych felly, sef parhau i ddilyn yr oedfa ar Zoom o’ch cartref neu ddod i’r capel. Os mai dilyn ar Zoom yw’ch dewis, byddwch yn derbyn y ddolen arferol oddi wrth Annette.

Os hoffech ddod i’r capel, gofynnwn i chi roi gwybod i Robat erbyn nos Iau 13 Mai faint o’ch aelwyd fydd yn dod er mwyn i seddau priodol gael eu trefnu ar eich cyfer. Os mai Zoom yw’ch dewis, does dim angen rhoi rhybudd i Robat.

Bydd yr un drefn yn bodoli ar gyfer oedfa fore Sul, 23 Mai, a fydd o dan arweiniad Robat, a gofynnir i chi roi gwybod i Robat os ydych yn bwriadu dod i’r capel ar gyfer yr oedfa honno.

Nodwch, os gwelwch yn dda, mai am 10.00 o’r gloch y cynhelir yr oedfaon hyn.

PARHAU I DDILYN RHEOLIADAU CORONAFIRWS

Pwysleisiwn y bydd mesurau diogelu rhag Coronafirws yn cael eu gweithredu ar y boreau Sul hyn, ac os mai’ch dewis yw dod i’r capel, bydd angen i chi …

  • wisgo mwgwd,
  • diheintio’ch dwylo wrth y drws
  • a chadw’r pellter gofynnol oddi wrth addolwyr eraill.
  • Gan fod rheolau coronafirws yn gofyn i’r capel gael ei awyru’n llwyr cyn ac yn ystod y gwasanaeth, gofynnir i chi wisgo’n gynnes gan na fydd y gwres awyr-twym yn cael ei ddefnyddio. 
  • O dan reolau Profi ac Olrhain, byddwn yn cadw cofnod o bawb a fydd yn bresennol yn y capel. 

Sut i gysylltu â Robat:    

ebost:  powell.rg@btinternet.com ffôn: 01792 794665

RHAGFYR 1, 2020: PENDERFYNNU PEIDIO AG AIL-DDECHRAU CWRDD YN Y NEUADD

RHAGFYR 1, 2020

Yn eu cyfarfod ar nos Fawrth, Rhagfyr 1, penderfynnodd aelodau'r Pwyllgor Gwaith na ddylid mynd ati i drefnu cynnal oedfa yn y Neuadd ar ddydd Sul, Rhagfyr 13.

Gwnaed hyn yn wyneb rhybuddion am ymlediad newydd Covid-19 yng Nghymru a'n hardal leol.

Nodwyd ansicrwydd ymhlith aelodau wrth ymateb i holiadur ar y pwnc. Bwriedir ail-asesu'r doethineb o ddechrau ail-gynnal oedfaon yn y Neuadd mewn cyfarfod arbennig o'r Pwyllgor ar Ionawr 12.

Gyda'r capel a'r neuadd yn wag fel rhan o'n hymdrechion i ffwyno Covid-19, mae cryn nifer o aelodau Capel y Nant yn ei chael hi'n fendithiol i gael cwrdd ar eu cyfrifiaduron a'u ffonau trwy Zoom. Dyma sy'n digwydd gydag ambell i oedfa bore Sul, gyda sesiynau myfyrio, darlleniadau, gweddiau 'Cannwyll y Nant' a cherddoriaeth bob nos Fawrth, a chyfarfodydd o'r Pwyllgor Gwaith. Mae'r ebost yn gyswllt chwim, dosbarthu rhai negeseuon ar bapur at y drws, a ffonio aelodau, hefyd.

PENDERFYNNU PEIDIO AG AIL-DDECHRAU CWRDD YN Y CAPEL

RHAGFYR 2020 A IONAWR 2021

Yn dilyn holi barn aelodau'r eglwys, ac ystyried rhybuddion yr arbenigwyr gwyddonol, penderfynnodd Pwyllgor Gwaith Capel y Nant na fyddai'n ddoeth i ddechrau ail-gynnal oedfaon yng Nghapel y Nant.

Penderfynnwyd parhau gyda'n hoedfaon Zoom ar foreau Sul a sesiynau 'Cannwyll y Nant' ar nosweithiau Mawrth nes i ni gael ein sicrhau y byddai'n ddoeth i ni ddechrau cwrdd eto.

TACHWEDD 25, 2020 - NEGES FRYS: YSTYRIED CYNNAL OEDFA YN NEUADD CAPEL Y NANT

TACHWEDD 2020

Gobeithio mynd yn ôl i Gapel y Nant

Hoffai’r Pwyllgor Gwaith holi eich barn unwaith yn rhagor am ddychwelyd i Gapel y Nant.

Rydyn ni'n fodlon cynnal oedfa ar 13 Rhagfyr oherwydd bod nifer o aelodau yn teimlo'n unig a heb gael unrhyw gysylltiad â’r capel ers mis Mawrth, ar wahan i’r oedfaon ar bapur. Gan fod sefyllfa'r Covid yn datblygu’n gyson a phobl yn newid eu barn, dyma nodyn arall.

Os ydych yn bwriadu dod yn ôl ar fore Sul 13 Rhagfyr i addoli yn y Neuadd, rhaid cadw at yr amodau canlynol:

  • diheintio dwylo ar y ffordd i mewn
  • gwisgo mwgwd drwy gydol y gwasanaeth
  • cadw pellter o ddau fetr o leiaf rhyngoch chi ag unrhywun o aelwyd arall
  • dim canu yn ystod y gwasanaeth
  • mynd adre ar ddiwedd y gwasanaeth heb oedi i sgwrsio a chymdeithasu
  • rhoi eich manylion ar gyfer olrhain (track and trace)
  • bydd ffenestri’r Neuadd wedi bod ar agor am awr o leiaf cyn y gwasanaeth ac yn cael eu cadw ar agor drwy’r oedfa er mwyn sicrhau awyru angenrheidiol.

O ran lle yn y Neuadd bydd blaenoriaeth yn cael ei roi i aelodau nad ydynt wedi gallu ymuno â ni mewn oedfaon Zoom hyd yma.

Bydd Robat yn arwain oedfa Zoom hefyd i aelodau ar y Sul hwn, naill ai yn y Neuadd neu o’i gartref.

Gofynnwn yn garedig i chi roi gwybod i Robat erbyn bore Mawrth, 1 Rhagfyr, drwy ebost neu ffôn a fyddwch yn dymuno dod i’r Neuadd ar Sul, 13 Rhagfyr.

IE, 'YN OL EIN HARFER' - ENGHRAIFFT O SUT RYDYM WEDI NEWID Y FORDD RYDYM YN ADDOLI

TACHWEDD 2020: CROESO I OEDFA ZOOM BORE SUL

Yn ô l ein harfer, down ynghyd ar ein cyfrifiaduron, cluniaduron, tabledi a’n ffonau symudol i gynnal Oedfa’r Bore am 10 o’r gloch yfory – sef Dydd Sul, Tachwedd 8. Bydd yr oedfa yng ngofal y Parch Ddr N ö el Davies. Edrychwn at gael ei gwmni a’i arweiniad wrth iddo ymuno â ni am y tro cyntaf yn ein byd newydd, rhithiol. Croeso i bawb, gan gynnwys ffrindiau o’r tu hwnt i ‘aelodaeth’ Capel y Nant. Cysylltwch ag Annette neu Fiona os bydd angen help gyda’r Zoom.

Oedfaon a Sesiynau Zoom a Digidol ac Ebost yn parhau

HYDREF 2020: Ail-gydio gyda'n trefn newydd - gan helpu pawb i ymuno gyda'r technegau newydd ...

Bydd Oedfa Gymundeb Capel y Nant yn cael ei chynnal ar Zoom fore Sul nesaf, Hydref 4, dan ofal y Parch Dewi Myrddin Hughes, am 10 o'r gloch.

Bydd Oedfa Ddigidol Undeb yr Annibynwyr yn dilyn ar y We (Facebook / You Tube) am 10.30, ond gellir gwrando arni eto yn hwyrach yn y dydd os dyna fydd yn haws.

O ran Oedfaon Digidol yr Undeb, bydd un o’n plith, sef Fiona Gannon, yn arwain Oedfa’r Sul nesaf, Hydref 4. A'r Sul canlynol, Hydref 11, Dewi fydd yn arwain. Ffilmiwyd yr oedfaon yng Nghlydach.

Cofiwch, hefyd, bod sesiwn o ‘Cannwyll y Nant’ – sef myfyrdodau, gweddiau a darlleniadau - yn cael ei chynnal ar Zoom bob nos Fawrth am 6.30 o dan arweiniad Fiona ac eraill.

Mae'n dymor Diolchgarwch a pharatoir oedfa i'w danfon at aelodau ar ebost gan aelodau’r Chwaeroliaeth/Grwp Bugeilio

BWRW 'MLAEN WRTH ADDASU I'R SEFYLLFA NEWIDIOL ...

MEDI 2020: NEGES GAN ROBAT POWELL, ARWEINYDD CAPEL Y NANT

Byddwn yn cynnal Oedfa Hanner Awr ar Zoom i aelodau Capel y Nant fore Sul, sef yfory, Medi 27, am 10.00.

Bydd Annette yn anfon gwahoddiadau at aelodau ar ebost er mwyn i chi gael ymuno a'r oedfa.

Y ddau emyn yn yr oedfa fydd rhifau 222 ac 831 yn 'Caneuon Ffydd' os hoffech godi eich llais gyda ni yn eich cartref.

Cofiwch yr amser - 10.00, am fod Oedfa Ddigidol ar wefan yr Annibynwyr am 10.30.

Gobeithio caf eich gweld fore Sul!

Pob bendith,

Robat

SIOM WRTH I COVID-19 AIL GYDIO - ATAL CWRDD NOL YN Y CAPEL

MEDI 2020: Gyda siom, cyhoeddwn na fyddwn yn cynnal Oedfa Ail-agor Capel y Nant wedi'r cyfan fore Sul yma, Medi 13.

Mewn Pwyllgor Gwaith brys ar Zoom, penderfynwyd na fyddai'n ddoeth i'r eglwys ddod a chymaint o'n haelodau ynghyd i'r Neuadd yn wyneb rhybuddion Prif Weinidog Mark Drakeford am fygythiad cynyddol haint Covid-19.

Ein teimlad yw y dylai Capel y Nant ddilyn y gwaharddiadau newydd fydd yn effeithio ar ein cymunedau fel rhan o ymdrech Llywodraeth Cymru i ffrwyno Covid.

PARATOI'N FANWL GAN OBEITHIO AIL DDECHRAU CWRDD I ADDOLI

MEDI 2020: Dyma fwy o fanylion wrth i ni yng Nghapel y Nant baratoi i gynnal ein gwasanaeth cyntaf ers mis Mawrth - hyn yn y Neuadd (am resymau eglurwyd eisoes yn ein post diwethaf) ar fore Sul, Medi 13, am 10.30, a phob bore Sul ar ôl hynny. Sylwer ...

Bydd yr oedfa rywfaint yn wahanol. Fydd dim hawl i ni ganu na chydadrodd gweddi.

Bydd yn rhaid cadw pellter o ddau fetr rhwng pobol, heblaw aelodau o’r un teulu.

Bydd yn rhaid i bawb ddod i mewn i’r Neuadd ac ymadael un ar y tro. Yn anffodus, fydd hi ddim yn bosib aros o gwmpas i gael sgwrs fel arfer wedyn!

Bydd y gwasanaeth yn fyrrach nag arfer, ond fe fydd cerddoriaeth, darllen, gweddi a phregeth, ac rydym yn

siŵr o brofi bendith trwy addoli fel cynulleidfa eto.

Mae’n bwysig i ni gael gwybod faint ohonoch chi sy’n

awyddus i ddod nôl i addoli rywbryd yn ystod y misoedd

nesaf. Bydd hyn yn help i ni baratoi’r Neuadd.

Gan hynny, os ydych yn gobeithio dod nôl i’r oedfaon, a

wnewch chi roi gwybod trwy gysylltu â Gareth Rees (ar

ebost garhuwrees@gmail.com neu wrth ffonio 844929)

neu Annette Hughes (ar ebost dewiannette@gmail.com

neu ar ffon rhif 843440).

Dywedwch faint o’ch teulu sy’n debyg o ddod rywbryd

hefyd. Ond cofiwch nad oes dim hawl rhannu car gyda

neb tu allan i’ch teulu ar hyn o bryd!

Diolch yn fawr i chi am eich cydweithrediad.

CEISIO AIL DDECHRAU ADDOLI GYDA'N GILYDD

MEDI 2020: DOWN YNGHYD ETO I ADDOLI - GYDA GOFAL!

Rhowch y gair ar led - Bydd Capel y Nant yn cynnal ein hoedfa gyntaf ers dechrau cyfyngiadau haint Covid-19 am 10.30 ar fore Sul, Medi 13. Cynhelir yr oedfa yn ein Neuadd fodern a chlyd ac nid yn y capel, gan na fyddai caniatad i ni ddefnyddio’r system chwythu-awyr-cynnes sydd yn y capel. Bydd swyddogion yr eglwys yn cysylltu’n fuan gydag aelodau i esbonio’r holl baratoadau gofalus a wneir gan ein Pwyllgor Gwaith i gydymffurfio’n drylwyr â rheoliadau Llywodraeth Cymru er ffrwyno Covid-19.  Felly – bore Sul, Medi 13 amdani!

MENTRAU NEWYDD YN YSTOD CYFNOD COVID-19

MAI 2020

Bob wythnos ers dechrau Cyfyngiad Covid-19, rydym wedi bod yn danfon ysgrif Oedfa Sul Bum-munud at yr aelodau sydd ag e-bost. 

Rydyn wedi gallu cysylltu gyda llawer mwy o aelodau yn ddiweddar dros y we - ond diolch i nifer o wirfoddolwyr brwd am ddosbarthu’r Oedfa Bum-munud ar bapur i bobl sydd heb e-bost, ac wythnosolyn Y Tyst yn ogystal.

Rydym, hefyd, yn wedi bod yn cynnal nifer o weithgareddau ar Zoom - gan gynnwys Oedfaon Cymun byr ar y Sul (cyn Oedfa Ddigidol Undeb yr Annibynwyr sydd ar You Tube a Facebook), cyrddau bach Gweddi a Darlleniadau yn ystod yr wythnos, dan y teitl 'Cannwyll y Nant', sesiynau Hwyl a Joio i'r plant, cyfarfod o'n Pwyllgor Gwaith a nifer o Gwisiau.


COFIWCH: Os am ymuno ar Zoom, rhaid i chi lawrlwytho Zoom i'ch dyfais - iPad / cyfrifiadur. Rydych yn aros am e-bost gan drefnydd y digwyddiad ac yna'n cysylltu trwy'r ddolen / linc briodol fydd gyda'r neges.

DOSBARTHU OEDFAON BUM-MUNUD

EBRILL 2020: Dechrau dosbarthu Oedfa Bum-Munud bob Sul gan Arweinydd yr Eglwys, Robat Powell - ar Ebost a thrwy dosbarthu i gartrefi aelodau  (gweler rhai oedfaon eraill trwy fynd at 'Blog Robat Powell')

Rydyn ni i gyd yn wynebu talcen caled ar hyd o bryd. Mae’r coronafirws yn rhemp yn Ewrop, yn lladd cannoedd bob dydd. Rhaid i bawb aros gartre. Mae busnesau o bob math yn mynd i’r wal. Rydyn ni’n methu ymweld â ’n teuluoedd a’n ffrindiau. Gall hyn bara am amser maith.

Mae stori Nehemeia yn yr Hen Destament hefyd yn hanes am ddyn yn wynebu talcen caled iawn. Iddew oedd yn gweini ar Artaxerxes, brenin Persia, oedd Nehemeia. Tua’r flwyddyn 445 CC cafodd e ganiat â d gan Artaxerxes i fynd i Jerwsalem i wireddu ei freuddwyd – ailgodi muriau Jerwsalem a’r Deml. Cafodd y rhain eu dinistrio gan fyddin Babilon pan aethon nhw â ’r Iddewon i ffwrdd i’r alltudiaeth ym Mabilon rhwng 587-580 CC.

Nehemeia ei hun sy’n adrodd yr hanes. Dyma fe’n annerch yr Iddewon oedd wedi dychwelyd i ardal Jwdea o Fabilon o’i flaen:

Nehemeia 2:17-18 - Yna dwedais wrthyn nhw, “Dych chi'n gwybod mor anodd yw pethau yma: mae Jerwsalem yn adfeilion a'i gatiau wedi'u llosgi. Dewch! Gadewch i ni ailadeiladu wal Jerwsalem, a dod â'r sefyllfa warthus yma i ben.” Dwedais yr hanes wrthyn nhw, fel roedd Duw wedi bod gyda mi, a beth roedd y brenin wedi'i ddweud wrtho i. A dyma nhw'n ymateb, “Gadewch i ni ddechrau adeiladu ar unwaith!” A dyma nhw'n annog ei gilydd i fynd ati i wneud y gwaith pwysig yma ...

Ond mae problem gan Nehemeia. Sut mae cael yr Iddewon hyn i weithio a helpu ei gilydd? Codi waliau mawr y ddinas? Mae’r dasg i’w gweld yn amhosib.

Serch hynny, mae e’n taro ar chwip o syniad. Mae e’n gofyn i bob teulu godi’r rhan o’r mur sydd ar bwys eu t ŷ nhw. Wedyn bydd pob un yn gwneud gwaith da. Fydd neb am fethu o flaen ei gymdogion. Ac o fewn 52 diwrnod, trwy rannu’r gwaith, maen nhw’n gorffen codi waliau Jerwsalem eto.

A dyna’r dasg i ni. Mae muriau Capel y Nant ar lawr, fel petai. Rydyn ni’n methu cyfarfod. Fydd neb yn addoli yno am wythnosau lawer.

Ond gallwn ailgodi’r waliau a’u cynnal yn eu lle. Trwy addoli gyda’n gilydd gartre, trwy ebost, ar y we. Gallwn ffonio ein gilydd, cwrdd â ’n gilydd trwy fideo ar Skype neu Zoom. Gall pob un a phob teulu wneud eu rhan, fel pobol Nehemeia. A bydd Capel y Nant a chymdeithas y capel yn byw trwy’r hunllef yma i gyd.

Gwedd ï wn 

Arglwydd ein Duw, helpa ni i aros gyda’n gilydd trwy’r cyfnod anodd hwn. Helpa ni i ganfod ein gilydd yn y tywyllwch, i weld ein gilydd yn y dieithrwch a chadw ein gilydd yn ddiogel. Helpa ni i gyfarfod â ’n gilydd trwyddot ti, ac ynot ti. A gyda’n gilydd gallwn dorri’r talcen caled i lawr.

Er mwyn iesu, Amen.  

PENDERFYNNU ATAL OEDFAON

MAWRTH 14, 2020

CANSLO POB OEDFA YN Y CAPEL:

NEGES GAN ARWEINYDD YR EGLWYS, ROBAT POWELL

Gyfeillion,

Yn wyneb perygl y coronafirws sydd yn lledaenu mor gyflym trwy Gymru a'r byd bellach, mae Pwyllgor Capel y Nant wedi cytuno i ganslo pob oedfa yn y capel nes i'r sefyllfa newid.

Mae'n flin calon gennyn ni orfod canslo, ond rhaid i ni ystyried diogelwch yr aelodau, a llawer ohonon ni'n bur oedrannus.  

Byddaf yn cysylltu â chi eto pan fyddwn yn ailystyried ein penderfyniad. Yn y cyfamser, rwy'n siwr y byddwch chi'n cadw golwg dros eich cymdogion a'ch cyd-aelodau.

Diolch yn fawr,

Robat

Latest comments

28.09 | 11:17

Hoffem llongyfarch Dr Fiona Gammon ar ei swydd newydd . Pob d...

19.09 | 09:07

Methu ymuno borema, 19 Medi am 10am. Ydi'r amser neu'r ddolen gy...

13.01 | 16:51

Diolch yn fawr, Melda. Roedd criw Capel y Nant wedi gwerthfaw...

08.01 | 15:43

Braf oedd cael eich cwmni yn Llwynrhydowen. Galwch eto!