AELODAU GWEITHGAR CAPEL Y NANT

GRWPIAU SY'N GANOLOG I'R EGLWYS

BU aelodau Capel y Nant yn brysur yn datblygu amrywiaeth o weithgareddau sy'n adlewyrchu'n ffydd Gristnogol ers i'r eglwys gael ei sefydlu yn 2008. Mae croeso iddynt ymuno ag un neu fwy o'r 8 o Grwpiau Gwaith sydd gennym gan ddefnyddio'u talentau gwahanol at waith y Deyrnas. Dewisir cynrychiolwyr o’r Grwpiau fel aelodau o Bwyllgor Gwaith yr eglwys.

BUGEILIO
CYNULLYDD: ANNETTE HUGHES

CYNRYCHIOLYDD AR Y PWYLLGOR GWAITH

Prif dasg y Grwp Bugeilio yw sicrhau bod aelodau sydd mewn angen yn cael gwybod bod yr Eglwys yn cofio amdanynt ac yn eu cynorthwyo. Ymweliadau, cardiau cyfarch, rhannu newyddion: mae'r cyfan yn ganolog o bwysig i gymuned gariadlon. Ers 2012, buwyd yn trefnu ymweliadau rheolaidd a chleifion yn ysbytai'r ardal a hefyd yn eu cartrefi.

YN YSTOD 2013, TREFNWYD SESIYNAU HYFFORDDIANT AR SGILIAU BUGEILIO GAN Y PARCH DEWI MYRDDIN HUGHES, CYN-ARWEINYDD CAPEL Y NANT AC AWDUR LLYFRYN 'GOFALA DI' (CYHOEDDIADAU'R GAIR).

EGLWYS A CHYMDEITHAS
CYNULLYDD  A CHYNRYCHIOLYDD AR Y PWYLLGOR GWAITH: 

Dyma'r Grwp sy'n gyfrifol am bontio rhwng yr eglwys a'r gymuned leol a byd eang. Trefnir amrywiaeth o weithgareddau i godi arian at elusennau.

Mae Capel y Nant yn eglwys Fasnach Deg gan gynnal stondin fisol i werthu nwyddau ar Sul cynta'r mis.

Rydym yn cefnogi prosiectau rhyngwladol Cymorth Cristnogol, e.e., gan godi swm sylweddol yn ystod yr Wythnos blynyddol o weithgarwch arbennig.

Ers 2015 rydym yn cydweithio'n agos gyda mudiad amgylcheddol Cyfeillion y Ddaear.

Rydym, hefyd, yn rhan o Abertawe Dinas Noddfa sy’n ceisio helpu ceiswyr lloches.

Yn ystod 2011-2012, casglwyd £3,000 trwy achlysuron cymdeithasol a rhoddion Sul at Dy Olwen ac Arian i Madagascar. Rhannwyd £2,400 rhwng ShareTawe a'r Groes Goch wedi ymdrechion 2012 - 2013. Codwyd £4,000 at Apel Arbennig Daeargryn Haiti yn 2013 - 2014, a £1400 at Ganolfan Gancr Maggie's yn 2014 - 2015. Rhoddwyd £1,500 i ganolfan Ty Croeso ac i fudiad Peace Direct yn dilyn gweithgarwch 2015 - 2016. Rhoddwyd £1,500 i Apel Feddygol Bhopal a £1,500 i elusen ymchwil Alzheimer's yn dilyn gweithgarwch. 2016 - 2017. Dinas Noddfa (ar ran ceisiwyr lloches yn Abertawe)a Standing Voice (ar ran dioddefwyr cyflwr Albino yn yr Affrig)oedd yr elusennau gefnogwyd yn 2017 - 2018.Cronfa Madagascar yw'r Apel ar gyfer 2018-2019.

Mae Capel y Nant yn cyfrannu'n rheolaidd at Anrhegion Nadolig 'Mr X', Banc Bwyd Ty Croeso, Clydach, ac at Gymorth Cristnogol.

ADDYSG
CYNULLYDD: 

Dyma'r Grwp sydd â'r dasg o geisio datblygu'r Ysgol Sul a gweithgareddau ar gyfer ein pobl ifainc. Croesawn blant newydd i dderbyn o sgiliau a phrofiad ein rota o athrawesau ac athrawon. Yn 2012, cynhaliwyd sesiwn llwyddiannus o ‘Neidio – a Moli Duw’ ar lawnt hyfryd y capel. Cafwyd BBQ Haf arloesol gwych hefyd. Cynhelir Grwp Ti a Fi llwyddiannus yn neuadd y capel ar fore Mawrth rhwng 9 - 11 o'r gloch yn ystod tymor ysgol. Rhan bwysig arall o waith y Grwp yw trefnu astudiaethau / dosbarthiadau achlysurol ar gyfer oedolion.

ADDOLI A CHERDD
CYNULLYDD: ROBAT POWELL

Cynrychiolydd ar y Pwyllgor Gwaith: Janice Walters

Dyma'r Grwp sy'n gyfrifol am drefnu ein hoedfaon a hybu datblygiad ein Ffydd fel aelodau.

Mae'r Tîm Addoli yn ceisio datblygu dulliau newydd a bywiog o addoli'n Creawdwr. Rydym wedi ceisio creu amrywiaeth o oedfaon gan elwa o gyflwyniadau arbrofol yn ein Cyrddau Cyfoes (2ail a 4ydd Sul yn y mis, yn y Neuadd). Cynhelir sesiynau Amnest Rhyngwladol o dro i dro fel rhan o'r Cyrddau Cyfoes gan ysgrifennu llythyrau i gefnogi pobl sy'n dioddef anghyfiawnder a chreulondeb ledled y byd.

Trwy ein Grwp Adeiladu, rydym wedi gosod offer llun a sain effeithiol yn y capel i gynorthwyo’n haddoliad – ac mae sawl un o’n plith wedi cymryd at y sgiliau cyfrifiadurol angenrheidiol. Ym mis Mehefin, 2013, dechreusom ar drefn newydd o gael Llywyddion gwahanol bob mis o blith ein haelodau i gyflwyno'n haddoliad boreol.

Mae Capel y Nant yn falch i fod yn rhan o Gytun Clydach gydag eglwysi eraill y fro.

CHWAEROLIAETH
CYNULLYDD A CHYNRYCHIOLYDD AR Y PWYLLGOR GWAITH: BRENDA EVANS

Mae aelodau'r Chwaeroliaeth yn cwrdd bob pythefnos ar bnawn dydd Mawrth gan fwynhau amrywiaeth o gyflwyniadau diddorol gan siaradwyr gwadd. Buont fel grwp yn ganolog i'r broses o greu baner newydd i'r eglwys (llun ar dudalen Hafan).

Mae'r Chwaeroliaeth yn cyflawni gwaith mawr wrth godi arian at elusennau. Casglwyd £500 at fudiad Y Deillion yn 2011-2012; £500 at Lyfrau Llafar Caerfyrddin a £600 at Uned Arennau Ysbyty Treforys yn 2012-2013; £600 at Uned y Galon, Ysbyty Treforys, yn 2013 - 2014; £500 at Ambiwlans Awyr Cymru yn 2014 - 2015; £700 at ganolfan gancr Golau yn 2015 - 2016; a £650 at Mind Abertawe o ganlyniad i weithgarwch 2016-2017. Shelter Cymru yw'r elusen am 2017 - 2018.

ADEILADAU
CYNULLYDD  A CHYNRYCHIOLYDD AR Y PWYLLGOR GWAITH: DAVID WAGHORN

Mae'r Grwp hwn a'r dasg o edrych ar ôl yr adeiladau a'r tir o gwmpas gan sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn bwrpasol, a’u bod mewn cyflwr da.

Eisoes gosodwyd ffenestri newydd sbon yn y capel er mwyn cadw aelodau’n fwy clyd mewn tywydd oer, arbed costau tanwydd, a lleihau ar allyriadau carbon deuocsid. Bu'r grwp yn ganolog i'r broses o osod offer llun a sain yn y capel. Ym Mehefin 2012 aethpwyd ati i wella'r llwybrau o gwmpas y capel a chreu nifer o lefydd parcio ceir.

Erbyn mis Mawrth, 2013, cwblhawyd prosiect y Capel, sef i dynnu nifer o resi o seddau allan, glanhau y gwaith pren, gosod carpedi, a chael nifer o gadeiriau unigol gyda breichiau. Nod y prosiect oedd hwyluso bywyd i bobl anabl a'r henoed - ond mae wedi creu mwy o le i bawb yn ogystal.

Bu cyffro mawr wrth i adeiladwyr weithio ar ein prosiect i adnewyddu Neuadd y Nant rhwng Medi 2014 a Ionawr 2015. O'r hen adeilad, crewyd neuadd fodern sy'n denu edmygedd ar bob llaw fel canolfan hardd ar gyfer achlysuron y capel ac at ddefnydd y gymuned.

Roeddem yn ffodus iawn bod y cynlluniau wedi cael eu paratoi gan un o'n haelodau, David Waghorn.Cawsom gymorth ariannol gwerthfawr gan nifer o gyrff i gynorthwyo gyda chost y prosiect hynod lwyddiannus hwn.

Bu mwy o fentro eto ym mis Tachwedd 2018. Y tro hwn, aethpwyd ati i symud yr hen 'pews' canolog ynghyd a'r Set Fawr o'r capel. Gosodwyd seddau unigol newydd yn lle'r 'pews'. Crewyd llwyfan isel yn lle'r Set Fawr. A chafwyd carped newydd ar gyfer y llawr a'r llwyfan newydd. David Waghorn, eto, dderbyniodd y cyfrifoldeb o reoli'r prosiect mawr hwn ar ran yr eglwys.

CYLLID
CYNULLYDD A CHYNRYCHIOLYDD AR Y PWYLLGOR GWAITH:ANN WILLIAMS (TRYSORYDD)

Dyma'r Grwp sy'n gyfrifol am seiliau ariannol yr Eglwys. Bach yw’r disgrifiad, ond mawr yw’r cyfrifoldeb!

CYFATHREBU A CHYHOEDDUSRWYDD
CYNULLYDD A CHYNRYCHIOLYDD AR Y PWYLLGOR GWAITH: HYWEL DAVIES

Mae'r Grwp yn cynhyrchu Bwrlwm - cylchgrawn misol 8-tudalen yr eglwys - yn cynnal Gwefan yr eglwys (sef, www.capelynant.org) gan ei diweddaru'n rheolaidd, yn cynnal tudalen Facebook Capel y Nant, yn gosod hysbysebion yn yr Evening Post, yn trefnu cyhoeddusrwydd trwy systemau Mentrau Iaith Abertawe a Chastell-nedd a Port Talbot,  ac yn creu posteri a baneri amrywiol yn ol y gofyn. Nol ym mis Mehefin 2012, dyluniwyd gennym Daflen Genhadol. Cafodd y daflen hon ei dosbarthu i dros 3,000 o gartrefi'r ardal gan wahodd trigolion i ymuno a ni yn ein haddoliad a'n gweithgarwch. Yr ydym yn trafod cynhyrchu taflen newydd.

Latest comments

28.09 | 11:17

Hoffem llongyfarch Dr Fiona Gammon ar ei swydd newydd . Pob d...

19.09 | 09:07

Methu ymuno borema, 19 Medi am 10am. Ydi'r amser neu'r ddolen gy...

13.01 | 16:51

Diolch yn fawr, Melda. Roedd criw Capel y Nant wedi gwerthfaw...

08.01 | 15:43

Braf oedd cael eich cwmni yn Llwynrhydowen. Galwch eto!