OEDFAON BWRLWM YR EGLWYS Y FFRWD FACH MYFYRDODAU 2019 MAI '18 ... MAW '19 MYF '16 - '18 Fideo 'Ny Ako' Fideo Pererindod FIDEO PLYGAIN LLUNIAU 2008 - 2016 YMWELWYR CYSYLLTU Colofn Fiona Gannon Argyfwng Hinsawdd Mae’n briodol iawn ein bod ni’n cynnal Sul yr Hinsawdd yn ystod tymor yr hydref, pan fydd y coed yn newid lliw ac yn colli eu dail, a harddwch y cread mor amlwg i bawb ohonom. Ond mae hefyd yn ein hatgoffa o ansefydlogrwydd byd natur ar hyn o bryd, a’r difrod a achosir gan arferion niweidiol y ddynoliaeth. Mae’r lluniau a welsom o’r llifogydd yn Pacistan, lle lladdwyd yn agos at ddwy fil o bobl, yn codi arswyd arnon ni, ac er nad yw ein bywydau ninnau yn wynebu’r un math o berygl yma yng Nghymru, faint o deuluoedd, tybed, sydd ar bigau’r drain ar ôl diwrnod neu ddau o law, rhag i lifogydd droi eu bywydau wyneb i waered? Yn Genesis, cawn sôn am addewid Duw a’r enfys yn arwydd o obaith: Pan fydd cymylau yn yr awyr, ac enfys i’w gweld yn y cymylau, bydda i’n cofio’r ymrwymiad dw i wedi’i wneud i chi a phob creadur byw. Fydd llifogydd ddim yn dod i ddinistrio popeth byw byth eto. Mae’n boenus o eironig, felly, mai ein camddefnydd ninnau o’r blaned sy’n gyfrifol am y ffaith bod lefel y môr yn codi, ac na fydd modd byw mewn rhai rhannau o’n byd yn y dyfodol. Ar un ystyr, yn wyneb hyn, dylai pob Sul fod yn Sul yr Hinsawdd, gan fod gofal am y cread yn rhan mor hanfodol bwysig o’n cenhadaeth. Mae maint y dasg sydd o’n blaenau i atal rhagor o ddifrod yn arswydus, a bydd angen parhau i roi pwysau ar arweinwyr a llywodraethau i weithredu, ond gall pawb ohonon ni wneud rhywbeth ar lefel bersonol yn ogystal, a chyfrannu at newid meddylfryd. Wrth i ni nesáu at gyfnod yr adfent, beth am addunedu i wneud dewisiadau mor wyrdd â phosib y Nadolig yma, fel bod tymor sy’n gallu bod yn drawiadol o wastraffus yn adlewyrchu’n hawydd i fod yn stiwardiaid gwell ar fyd Duw? 0 Write a comment 12. Nov, 2022 Overview Share this page on Facebook

Latest comments 28.09 | 11:17 Hoffem llongyfarch Dr Fiona Gammon ar ei swydd newydd . Pob d... 19.09 | 09:07 Methu ymuno borema, 19 Medi am 10am. Ydi'r amser neu'r ddolen gy... 13.01 | 16:51 Diolch yn fawr, Melda. Roedd criw Capel y Nant wedi gwerthfaw... 08.01 | 15:43 Braf oedd cael eich cwmni yn Llwynrhydowen. Galwch eto!











Colofn Fiona Gannon Argyfwng Hinsawdd Mae’n briodol iawn ein bod ni’n cynnal Sul yr Hinsawdd yn ystod tymor yr hydref, pan fydd y coed yn newid lliw ac yn colli eu dail, a harddwch y cread mor amlwg i bawb ohonom. Ond mae hefyd yn ein hatgoffa o ansefydlogrwydd byd natur ar hyn o bryd, a’r difrod a achosir gan arferion niweidiol y ddynoliaeth. Mae’r lluniau a welsom o’r llifogydd yn Pacistan, lle lladdwyd yn agos at ddwy fil o bobl, yn codi arswyd arnon ni, ac er nad yw ein bywydau ninnau yn wynebu’r un math o berygl yma yng Nghymru, faint o deuluoedd, tybed, sydd ar bigau’r drain ar ôl diwrnod neu ddau o law, rhag i lifogydd droi eu bywydau wyneb i waered? Yn Genesis, cawn sôn am addewid Duw a’r enfys yn arwydd o obaith: Pan fydd cymylau yn yr awyr, ac enfys i’w gweld yn y cymylau, bydda i’n cofio’r ymrwymiad dw i wedi’i wneud i chi a phob creadur byw. Fydd llifogydd ddim yn dod i ddinistrio popeth byw byth eto. Mae’n boenus o eironig, felly, mai ein camddefnydd ninnau o’r blaned sy’n gyfrifol am y ffaith bod lefel y môr yn codi, ac na fydd modd byw mewn rhai rhannau o’n byd yn y dyfodol. Ar un ystyr, yn wyneb hyn, dylai pob Sul fod yn Sul yr Hinsawdd, gan fod gofal am y cread yn rhan mor hanfodol bwysig o’n cenhadaeth. Mae maint y dasg sydd o’n blaenau i atal rhagor o ddifrod yn arswydus, a bydd angen parhau i roi pwysau ar arweinwyr a llywodraethau i weithredu, ond gall pawb ohonon ni wneud rhywbeth ar lefel bersonol yn ogystal, a chyfrannu at newid meddylfryd. Wrth i ni nesáu at gyfnod yr adfent, beth am addunedu i wneud dewisiadau mor wyrdd â phosib y Nadolig yma, fel bod tymor sy’n gallu bod yn drawiadol o wastraffus yn adlewyrchu’n hawydd i fod yn stiwardiaid gwell ar fyd Duw? 0 Write a comment 12. Nov, 2022 Overview Share this page on Facebook