OEDFAON BWRLWM YR EGLWYS Y FFRWD FACH MYFYRDODAU 2019 MAI '18 ... MAW '19 MYF '16 - '18 Fideo 'Ny Ako' Fideo Pererindod FIDEO PLYGAIN LLUNIAU 2008 - 2016 YMWELWYR CYSYLLTU Colofn Fiona Gannon Mis Medi Duw sy’n ein hadnabod a’n cynnal I lawer ohonom, mae’r haf yn gyfnod o newid yn ein patrymau gwaith a gorffwys arferol. Ond sut byddwch chi’n teimlo pan ddaw mis Medi? Ydych chi’n edrych ymlaen at fynd nôl i ryw fath o drefn, neu’n hiraethu am gael mwy o ryddid yn eich bywyd? Mae mis Medi yn ddechrau cyfnod newydd i lawer, ac eto, yn gallu achosi teimladau cymysg. Falle bod cyffro wrth fentro ymlaen i astudiaethau pellach, swydd newydd, neu lwybr gwahanol sy’n edrych yn ddeniadol, ond mae’n bosib iawn bod rhywfaint o nerfusrwydd hefyd, wrth wynebu’r anghyfarwydd. Neu efallai nad yw’r sefyllfa sy’n ein hwynebu ym mis Medi eleni yn cyfateb o gwbl i’r hyn roedden ni wedi’i ddisgwyl na’i obeithio. Ar adegau o’r fath, mae geiriau Salm 139 yn gallu bod yn gysur mawr: O ARGLWYDD, rwyt ti’n fy archwilio i, ac yn gwybod popeth amdana i... ti’n gwybod beth sydd ar fy meddwl i o bell.Ti’n cadw golwg arna i’n teithio ac yn gorffwys; yn wir, ti’n gwybod am bopeth dw i’n wneud. Faint ohonon ni sydd efallai yn troedio llwybr dydyn ni ddim wedi’i ddewis – llwybr rydyn ni’n gorfod ei ddilyn oherwydd gwahanol gyfrifoldebau, anawsterau, neu ffactorau fel salwch, sy’n gallu troi ein bywyd wyneb i waered yn gyfangwbl. Mae’n siŵr bod pawb ohonom ni’n gyfarwydd â’r gerdd Saesneg enwog sy’n sôn am ôl traed yn y tywod, a gall fod yn werthfawr cofio, ble bynnag bydd y cyfnod nesaf yma yn mynd â ni, a pha newidiadau bynnag ddaw i’n rhan, y gallwn ni ddibynnu’n llwyr ar Dduw i’n cynnal a’n nerthu yn ei gariad. Fel mae’r gerdd yn ein hatgoffa, mae Duw yn cerdded yn ein hymyl bob amser, ond pan fyddwn yn wynebu cyfnodau anoddaf bywyd, a threialon sy’n ein sigo, bydd yn ein cario yn ei freichiau tragwyddol. I ddychwelyd at neges Salm 139, does unman y tu hwnt i gyrraedd Duw, ac mae’n ein hadnabod yn llwyr, yn well na ni’n hunain, hyd yn oed, felly beth bynnag sydd o’n blaenau yn y cyfnod nesaf hwn, rhown ein hunain o’r newydd yn ei law, ac ymddiried yn llwyr ynddo. Fel mae Paul yn dweud yn y llythyr at y Rhufeiniaid: Does dim yn y bydysawd yma greodd Duw yn gallu’n gwahanu ni oddi wrth gariad Duw yn ein Harglwydd ni, y Meseia Iesu!   0 Write a comment 6. Sep, 2022 Overview Share this page on Facebook

Latest comments 28.09 | 11:17 Hoffem llongyfarch Dr Fiona Gammon ar ei swydd newydd . Pob d... 19.09 | 09:07 Methu ymuno borema, 19 Medi am 10am. Ydi'r amser neu'r ddolen gy... 13.01 | 16:51 Diolch yn fawr, Melda. Roedd criw Capel y Nant wedi gwerthfaw... 08.01 | 15:43 Braf oedd cael eich cwmni yn Llwynrhydowen. Galwch eto!











Colofn Fiona Gannon Mis Medi Duw sy’n ein hadnabod a’n cynnal I lawer ohonom, mae’r haf yn gyfnod o newid yn ein patrymau gwaith a gorffwys arferol. Ond sut byddwch chi’n teimlo pan ddaw mis Medi? Ydych chi’n edrych ymlaen at fynd nôl i ryw fath o drefn, neu’n hiraethu am gael mwy o ryddid yn eich bywyd? Mae mis Medi yn ddechrau cyfnod newydd i lawer, ac eto, yn gallu achosi teimladau cymysg. Falle bod cyffro wrth fentro ymlaen i astudiaethau pellach, swydd newydd, neu lwybr gwahanol sy’n edrych yn ddeniadol, ond mae’n bosib iawn bod rhywfaint o nerfusrwydd hefyd, wrth wynebu’r anghyfarwydd. Neu efallai nad yw’r sefyllfa sy’n ein hwynebu ym mis Medi eleni yn cyfateb o gwbl i’r hyn roedden ni wedi’i ddisgwyl na’i obeithio. Ar adegau o’r fath, mae geiriau Salm 139 yn gallu bod yn gysur mawr: O ARGLWYDD, rwyt ti’n fy archwilio i, ac yn gwybod popeth amdana i... ti’n gwybod beth sydd ar fy meddwl i o bell.Ti’n cadw golwg arna i’n teithio ac yn gorffwys; yn wir, ti’n gwybod am bopeth dw i’n wneud. Faint ohonon ni sydd efallai yn troedio llwybr dydyn ni ddim wedi’i ddewis – llwybr rydyn ni’n gorfod ei ddilyn oherwydd gwahanol gyfrifoldebau, anawsterau, neu ffactorau fel salwch, sy’n gallu troi ein bywyd wyneb i waered yn gyfangwbl. Mae’n siŵr bod pawb ohonom ni’n gyfarwydd â’r gerdd Saesneg enwog sy’n sôn am ôl traed yn y tywod, a gall fod yn werthfawr cofio, ble bynnag bydd y cyfnod nesaf yma yn mynd â ni, a pha newidiadau bynnag ddaw i’n rhan, y gallwn ni ddibynnu’n llwyr ar Dduw i’n cynnal a’n nerthu yn ei gariad. Fel mae’r gerdd yn ein hatgoffa, mae Duw yn cerdded yn ein hymyl bob amser, ond pan fyddwn yn wynebu cyfnodau anoddaf bywyd, a threialon sy’n ein sigo, bydd yn ein cario yn ei freichiau tragwyddol. I ddychwelyd at neges Salm 139, does unman y tu hwnt i gyrraedd Duw, ac mae’n ein hadnabod yn llwyr, yn well na ni’n hunain, hyd yn oed, felly beth bynnag sydd o’n blaenau yn y cyfnod nesaf hwn, rhown ein hunain o’r newydd yn ei law, ac ymddiried yn llwyr ynddo. Fel mae Paul yn dweud yn y llythyr at y Rhufeiniaid: Does dim yn y bydysawd yma greodd Duw yn gallu’n gwahanu ni oddi wrth gariad Duw yn ein Harglwydd ni, y Meseia Iesu!   0 Write a comment 6. Sep, 2022 Overview Share this page on Facebook