Colofn Fiona Gannon

Beth yw eich teimladau chi pan fydd y newyddion yn cynnwys lluniau o’r bobl sy’n ceisio croesi’r Sianel i gyrraedd y lan ym Mhrydain? Mae cerdd enwog gan Brian Bilston, ‘Refugees’, wedi’i llunio i greu argraff benodol wrth ei darllen yn y ffordd draddodiadol (hynny yw, o’r top i’r gwaelod), ond argraff hollol wahanol wrth ei darllen am yn ôl (hynny yw, o’r gwaelod i’r top). Mae sefyllfa ffoaduriaid wedi bod yn cael lle amlwg iawn yn y newyddion yn ystod yr wythnosau a’r misoedd diwethaf, yn enwedig wrth i Lywodraeth San Steffan ddatblygu eu cynllun erchyll i anfon ffoaduriaid a cheiswyr lloches i Rwanda, ac mae’n fwyfwy pwysig ein bod ni’n codi llais dros y trueiniaid hyn sydd wedi mentro popeth i geisio sicrhau eu bod nhw a’u teuluoedd yn ddiogel. 

Mae llawer o’r arthio ar y cyfryngau yn adleisio agwedd feirniadol darlleniad cyntaf y gerdd, tra bod mudiadau fel Refugee Action Care4Calais yn ceisio atgoffa pawb mai pobl fel chi a fi sydd yma, yn aml yn ymdrechu i’r eithaf i gyrraedd gweddill eu teulu, neu’n ffoi rhag erchyllderau na allwn ni eu dychmygu. 

Mae’r gerdd ‘Home’, gan y bardd a’r awdur Warsan Shire, a ddaeth i Brydain yn 1 oed, ond a aned yn Kenya i rieni o Somalia, yn crisialu sefyllfa’r ffoaduriaid mewn ffordd gofiadwy iawn, ac rwyf wedi mentro cyfieithu peth ohoni isod:

Cartref

does neb yn gadael cartref oni bai bod cartref yn geg siarc

dydych chi ddim yn rhedeg am y ffin ond pan welwch chi’r ddinas gyfan yn rhedeg hefyd

******************

mae’n rhaid i chi ddeall,does neb yn rhoi eu plant mewn cwch
oni bai bod y dŵr yn fwy diogel na’r tir

‘Mae pobl yn gofyn i ni o hyd pam gwnaethon ni gymryd y risg a dod yma, ac mae’r ateb mor syml: i gael bod yn ddiogel, byw mewn heddwch, ac i’r plant gael dyfodol.’

 Dyfyniad gan geisiwr lloches sydd wedi bod yn disgwyl dyfarniad ers 8 mlynedd

Nawr bod Llys Hawliau Dynol Ewrop wedi atal yr awyren gyntaf rhag hedfan i Rwanda, mae Llywodraeth San Steffan yn fwy penderfynol nag erioed o gyflwyno ‘Bil Hawliau Dynol’, er mwyn gallu dewis a dethol pa hawliau dynol sy’n cael eu parchu ym Mhrydain. Byddai hynny’n gam gwag i bawb ohonom, ond yn arbennig i’r mwyaf difreintiedig a diamddiffyn. 

Cofiwn yr anogaeth yn y Beibl i groesawu ymwelwyr a darparu ar eu cyfer, a pheidiwn â cholli cyfleoedd i ymgyrchu, nid yn unig yn erbyn y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau, ond yn erbyn pob ymgais i leihau’r empathi a’r tosturi mae gwledydd Prydain yn ei ddangos at yr anghenus. Codwn ein lleisiau, a safwn yn gadarn yn ein ffydd i groesawu dieithriaid, fel ein bod yn clywed llais Iesu’n dweud: 

‘Chi roddodd groeso i mi pan doeddwn i ddim yn nabod neb’

4. Jul, 2022

0

Latest comments

28.09 | 11:17

Hoffem llongyfarch Dr Fiona Gammon ar ei swydd newydd . Pob d...

19.09 | 09:07

Methu ymuno borema, 19 Medi am 10am. Ydi'r amser neu'r ddolen gy...

13.01 | 16:51

Diolch yn fawr, Melda. Roedd criw Capel y Nant wedi gwerthfaw...

08.01 | 15:43

Braf oedd cael eich cwmni yn Llwynrhydowen. Galwch eto!