OEDFAON BWRLWM YR EGLWYS Y FFRWD FACH MYFYRDODAU 2019 MAI '18 ... MAW '19 MYF '16 - '18 Fideo 'Ny Ako' Fideo Pererindod FIDEO PLYGAIN LLUNIAU 2008 - 2016 YMWELWYR CYSYLLTU Colofn Fiona Gannon Mehefin Erbyn i hwn eich cyrraedd, bydd Eisteddfod yr Urdd wedi dathlu 100 mlynedd, a bydd yr ŵyl wedi cael ei chynnal o’r diwedd yn Sir Ddinbych, ar ôl dwy flynedd hir o aros. Hefyd, mewn ysgolion ar draws y wlad, bydd cannoedd lawer wrthi yn sefyll arholiadau TGAU a Safon Uwch, a hynny ar ôl colli cymaint o ysgol yn ystod y pandemig. Maen nhw yn ein meddyliau a’n gweddïau wrth iddyn nhw ailafael mewn elfennau o’u bywydau sydd bellach yn teimlo’n ddigon dieithr.  Mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn eithriadol o heriol i bawb ohonon ni, gyda holl ansicrwydd, pryder a cholledion COVID-19, ond go brin bod neb wedi dioddef mwy na’n pobl ifanc. O golli cyfleoedd i gymdeithasu gyda’u ffrindiau, i golli strwythur eu haddysg, i weld eu bywydau’n newid y tu hwnt i bob adnabyddiaeth.  Mae mentro yn ôl i’r parth cyhoeddus, p’un a yw hynny ar lwyfan yr Urdd neu wrth ddesg mewn arholiad, yn galw am gryn dipyn o ddewrder, ond mae ein pobl ifanc yn haeddu ein parch a’n cefnogaeth, nid yn unig am hynny, ond oherwydd eu bod wedi sylweddoli, er holl heriau COVID-19, fod yna her bwysicach y mae’n rhaid i ni roi sylw iddi, sef argyfwng yr hinsawdd.  Fel mae neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd eleni yn dweud: ‘Mae’n amser deffro’, gan fod y byd bellach ar dân, a’r realiti rydyn ni’n gorfod ei wynebu yw llifogydd, tanau, newyn a thlodi. O ganlyniad, mae’n bwysicach nag erioed bod pawb ohonom yn dilyn esiampl ein pobl ifanc, ac yn defnyddio ein hamser yn ddoeth, gan geisio gweithredu ar sail y cyngor a geir yn Effesiaid 5:  ‘Manteisiwch ar bob cyfle gewch chi i wneud daioni... gadewch i’r Ysbryd Glân eich llenwi a’ch rheoli’                                                                                                                                     Fiona 0 Write a comment 3. Jun, 2022 Overview Share this page on Facebook

Latest comments 28.09 | 11:17 Hoffem llongyfarch Dr Fiona Gammon ar ei swydd newydd . Pob d... 19.09 | 09:07 Methu ymuno borema, 19 Medi am 10am. Ydi'r amser neu'r ddolen gy... 13.01 | 16:51 Diolch yn fawr, Melda. Roedd criw Capel y Nant wedi gwerthfaw... 08.01 | 15:43 Braf oedd cael eich cwmni yn Llwynrhydowen. Galwch eto!











Colofn Fiona Gannon Mehefin Erbyn i hwn eich cyrraedd, bydd Eisteddfod yr Urdd wedi dathlu 100 mlynedd, a bydd yr ŵyl wedi cael ei chynnal o’r diwedd yn Sir Ddinbych, ar ôl dwy flynedd hir o aros. Hefyd, mewn ysgolion ar draws y wlad, bydd cannoedd lawer wrthi yn sefyll arholiadau TGAU a Safon Uwch, a hynny ar ôl colli cymaint o ysgol yn ystod y pandemig. Maen nhw yn ein meddyliau a’n gweddïau wrth iddyn nhw ailafael mewn elfennau o’u bywydau sydd bellach yn teimlo’n ddigon dieithr.  Mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn eithriadol o heriol i bawb ohonon ni, gyda holl ansicrwydd, pryder a cholledion COVID-19, ond go brin bod neb wedi dioddef mwy na’n pobl ifanc. O golli cyfleoedd i gymdeithasu gyda’u ffrindiau, i golli strwythur eu haddysg, i weld eu bywydau’n newid y tu hwnt i bob adnabyddiaeth.  Mae mentro yn ôl i’r parth cyhoeddus, p’un a yw hynny ar lwyfan yr Urdd neu wrth ddesg mewn arholiad, yn galw am gryn dipyn o ddewrder, ond mae ein pobl ifanc yn haeddu ein parch a’n cefnogaeth, nid yn unig am hynny, ond oherwydd eu bod wedi sylweddoli, er holl heriau COVID-19, fod yna her bwysicach y mae’n rhaid i ni roi sylw iddi, sef argyfwng yr hinsawdd.  Fel mae neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd eleni yn dweud: ‘Mae’n amser deffro’, gan fod y byd bellach ar dân, a’r realiti rydyn ni’n gorfod ei wynebu yw llifogydd, tanau, newyn a thlodi. O ganlyniad, mae’n bwysicach nag erioed bod pawb ohonom yn dilyn esiampl ein pobl ifanc, ac yn defnyddio ein hamser yn ddoeth, gan geisio gweithredu ar sail y cyngor a geir yn Effesiaid 5:  ‘Manteisiwch ar bob cyfle gewch chi i wneud daioni... gadewch i’r Ysbryd Glân eich llenwi a’ch rheoli’                                                                                                                                     Fiona 0 Write a comment 3. Jun, 2022 Overview Share this page on Facebook