OEDFAON BWRLWM YR EGLWYS Y FFRWD FACH MYFYRDODAU 2019 MAI '18 ... MAW '19 MYF '16 - '18 Fideo 'Ny Ako' Fideo Pererindod FIDEO PLYGAIN LLUNIAU 2008 - 2016 YMWELWYR CYSYLLTU Colofn Fiona Gannon Colofn Mae’r gwanwyn yn y tir, ac mae’n hyfryd gweld y diwrnodau’n estyn a’r blodau’n dod i’r golwg trwy’r pridd. Mae dyfodiad y gwanwyn yn siŵr o godi calon ar ôl hirlwm y gaeaf, ac mae fel petaen ni’n byw mewn byd o ryfeddodau, gyda gwyrth bywyd newydd i’w weld ym mhob man o’n cwmpas. On’d yw hi’n boenus o eironig, felly, ein bod ni’n dathlu gwyrth bywyd ar yr un pryd â gweld Vladimir Putin yn diystyru gwerth bywyd yn llwyr, ac yn sathru ar bawb a phopeth sydd yn ffordd ei ymgais orffwyll i gipio mwy o bŵer? Mae pobl Wcráin yn ein calonnau a’n gweddïau y Pasg hwn, fel y mae’r rhai sy’n dioddef mewn rhyfeloedd eraill ar draws y byd, yn Syria, Yemen, a mannau eraill. Diolchwn fod y Beibl yn dangos i ni nad trefn ryfelgar ein daear ni sydd wrth fodd Duw, a gadewch i ni weddïo o’r newydd am wireddu’r weledigaeth a geir yn llyfr y proffwyd Eseia: Byddan nhw’n curo’u cleddyfau yn sychau aradr a’u gwaywffyn yn grymanau tocio. Fydd gwledydd ddim yn ymladd ei gilydd, nac yn hyfforddi milwyr i fynd i ryfel. Diolchwn fod Iesu wedi dod i’n daear yn Dywysog Tangnefedd, gan drechu drygioni â daioni, a chasineb â chariad, a gweddïwn ar i Dduw gryfhau ein cariad ninnau y Pasg hwn, fel y gallwn ni hyrwyddo gwerthoedd ei deyrnas ar y ddaear. 0 Write a comment 30. Mar, 2022 Overview Share this page on Facebook

Latest comments 28.09 | 11:17 Hoffem llongyfarch Dr Fiona Gammon ar ei swydd newydd . Pob d... 19.09 | 09:07 Methu ymuno borema, 19 Medi am 10am. Ydi'r amser neu'r ddolen gy... 13.01 | 16:51 Diolch yn fawr, Melda. Roedd criw Capel y Nant wedi gwerthfaw... 08.01 | 15:43 Braf oedd cael eich cwmni yn Llwynrhydowen. Galwch eto!