Colofn Fiona Gannon

Oedfa Bum-munud Awst 30, 2020, gan Robat Powell

‘Ydi Duw yn y Da a’r Drwg?’

Clywais gwestiwn digon bachog yn ddiweddar: Os yw Duw wedi creu pob peth, os yw Duw i’w gael ymhob peth, ai Duw greodd y coronafirws?!

Sut mae Duw, sydd yn berffaith, sydd yn cynnwys cariad a phob peth da yn y bydysawd, yn gallu creu rhywbeth ofnadwy sy’n lladd cannoedd o filoedd o bobl?

Waw! Dyna gwestiwn i’r ysgolheigion a’r diwinyddion mawr. Tybed allwn ni gael ateb o fewn pum munud ein hoedfa fach ni? Gobeithio bydd ein darlleniad heddiw yn gallu cynnig help. Rhannau o emyn hyfryd W J Gruffudd ydyn nhw:


Y mae Duw yn neffro’r gwanwyn,
Ef yw awdur popeth byw,
A chyhoedda miwsig adar
Yn y coed mai da yw Duw.


Mae ei Ysbryd yn ymsymud

eto dros y cread mawr

Bendigedig fyddo'r Arglwydd,

Haleliwia nef a llawr.


Y mae Duw yng ngrym y gaeaf
Pan fo’r storm dros bant a bryn,
Ac fe welir ei ryfeddod
Pan fo’r llawr dan eira gwyn.


Mae pob un o bedwar pennill yr emyn hwn yn disgrifio un o dymhorau’r flwyddyn. Gwelwn Dduw ym mhob tymor, medd yr emynydd: ‘Y mae Duw yn neffro’r gwanwyn ..’, ‘Gwelir Duw yn lliwiau’r hydref ..’, ac yn y blaen. Mae’r ail linell yn crynhoi neges yr emyn – ‘Ef yw awdur
popeth byw.’

Felly – ef yw awdur y coronafirws hefyd. Sut mae cysoni hyn â geiriau’r bardd ‘.. mai da yw Duw ..’ ?


Mae awgrym o’r ateb yn y pennill olaf: ‘Y mae Duw yng ngrym y gaeaf ..’ pan fo’r storm yn rhuo. Storm fel ‘Francis’ sy newydd beri difrod mawr ym Methesda a Beddgelert. Nid dim ond Duw’r pethau pert yw e. Mae ynni aruthrol yn y cread a’r bydysawd. Mae llosgfynydd
fel Vesuvius yn gallu claddu pentrefi. Mae daeargryn yn gallu dinistrio dinas fawr. Pŵer nerthol sy yn y cread, a’r pŵer hwn yn gallu hybu bywyd a’i ddifa hefyd.
Gallwch chi feddwl am Dduw mewn gwahanol ffyrdd. Gallwch chi ei weld fel barnwr yn eistedd yn y llys ac yn dweud, ‘Dw i’n mynd i roi help llaw i’r bobl fan hyn, ond bydda i’n chwalu bywyd y wlad arall draw acw.’ Does dim llawer o bobl yn gweld Duw fel yna erbyn
hyn.
Neu gallwch ddychmygu Duw fel ysbryd, ysbryd cariad a daioni. Ysbryd sy’n cynnwys yr egni pwerus sydd yn y bydysawd. Ein tasg ni fel pobl yw cyd-fyw gyda’r egni hwnnw. Cawson ni ein creu’n greaduriaid deallus, a rhaid i ni ddefnyddio ein deall a’n gwybodaeth i osgoi
effeithiau negyddol yr ynni grymus hwn.

A beth am y coronafirws? Mae’r gwyddonwyr yn meddwl taw firws yn byw tu mewn i anifeiliaid gwyllt oedd e, efalle mewn ystlumod, nadredd neu’r pandolin, math o anteater.
Roedd pobl yn dal yr anifeiliaid ac yn dod â nhw i’w gwerthu a’u prynu mewn llefydd fel y farchnad yn Wuhan, Tseina. Ond neidiodd y firws o anifail i ddyn neu fenyw.
Pan oedden ni’n cadw pellter rhyngon ni ac anifeiliaid gwyllt doedd firysiaid fel hwn, SARS ac ebola ddim yn effeithio ar bobl. Ond mae dynion bellach yn treiddio i mewn i gynefin y creaduriaid, yn dwyn anifeiliaid oddi yno i’w masnachu. Ac wedyn mae’n llawer haws i firws
symud i gyrff pobl.
Ydi, mae firws Covid-19 yn rhan o lif bywyd ar y ddaear. Ond rydyn ni, bobl, wedi helpu ei greu.
Mae’n rhaid dangos parch i fywyd naturiol. Rhaid gadael anifeiliaid yn eu cynefin. Rhaid cyd-fyw gyda grym a rhyfeddod y cread, nid trio ymyrryd ag e er mwyn ein chwant a’n helw ein hunain.
Da yw Duw, a grymus hefyd, ond drwg ac esgeulus yw dyn yn llawer rhy aml.Amen.


Gweddïwn.

Arglwydd ein Duw, gwna ni’n ddiolchgar am bob peth daionus yn y byd o’n cwmpas. Helpa ni i barchu ein hamgylchedd a’r bywyd sydd ynddo. Helpa ni i weld a gwerthfawrogi ‘ yr hyfrydwch yn y mynydd ..’ a dy roddion di yn y berllan a’r sgubor.
Ond dysga ni hefyd i adnabod ochr derfysglyd y cread a’r peryglon cudd o’n hamgylch.
Arwain ni i ddilyn llwybr diogel mewn cytgord â thi. Ac arwain ni i fyw mewn cariad â’n gilydd. Er mwyn Iesu, Amen.

31. Aug, 2020

0

Latest comments

28.09 | 11:17

Hoffem llongyfarch Dr Fiona Gammon ar ei swydd newydd . Pob d...

19.09 | 09:07

Methu ymuno borema, 19 Medi am 10am. Ydi'r amser neu'r ddolen gy...

13.01 | 16:51

Diolch yn fawr, Melda. Roedd criw Capel y Nant wedi gwerthfaw...

08.01 | 15:43

Braf oedd cael eich cwmni yn Llwynrhydowen. Galwch eto!