Cymerwyd sylwadau Robat, Arweinydd Capel y Nant, o daflen fisol Bwrlwm, rhifyn Chwefror 2020 ...
Roedd mis Ionawr eleni yn amser i wneud adduned am y flwyddyn. Ond yn ôl ymateb ein cynulleidfa [un bore Sul diweddar, doedd neb o'n haelodau wedi gwneud] yr un addewid o gwbl!
Fodd bynnag, mae dechrau blwyddyn yn adeg boblogaidd i arweinwyr wneud rhyw
ddatganiad neu apél. Arweinwyr gwlad neu fudiad o ryw fath.
Mae Ysgrifennydd Undeb yr Annibynwyr, y Parch. Dyfrig Rees, wedi rhoi her i bob eglwys ar gyfer 2020: ‘Ewch i arloesi, neu byddwch yn marw!’
Ar dudalennau’r Tyst, roedd y Parch.
Iwan Llewelyn o Wynedd yn cefnogi her Dyfrig. Mae e’n poeni’n fawr am eglwysi yn ei ardal. Mae nifer y ffyddloniaid yn disgyn. Ond gwaeth
na hynny, mae sawl eglwys yno ond yn cyfarfod o dro i dro oherwydd diffyg pregethwyr.
A dyma neges Iwan i bob eglwys: ‘Er mwyn aros yn fyw, gwnewch un peth newydd eleni!’
Efalle ein bod ni yng Nghapel y Nant yn ffodus. Dy’n ni ddim yn gweld yr argyfwng sy’n wynebu sawl cylch arall. Ry’n ni wedi gwneud amryw o bethau ‘newydd’ yn y gorffennol.
Ond mae galwad Iwan Llewelyn yn bwysig i ni hefyd. I ddangos ein bod yn fyw ac yn fywiog, beth am wneud rhywbeth newydd yn 2020?
Wrth gwrs, digwyddodd un peth newydd ym mis Ionawr – y Darllen Noddedig, a diolch i bawb a gyfrannodd!
Ond mae 11 mis ar ôl. Mae ein haelodau’n gwneud digon o bethau diddorol fel unigolion. Ond mae’n werth gwneud rhywbeth fel eglwys hefyd. Gyda’n gilydd.
Ond dyma alwad i fentro ar rywbeth gwahanol eto.
Tybed beth? Oes syniad gyda chi? Rhyw fenter yn y gymuned? Menter theatrig neu gerddorol? Yn yr awyr iach? Taith i ryw fan arbennig? Rhywbeth ar y cyd â mudiad neu eglwys arall?
Mae gyda ni dudalen lân, digon o egni a thipyn o arian, os oes angen, tu ôl i ni. A does dim yn ein rhwystro rhag arloesi gyda mwy nag un peth newydd, chwaith! Dyma’ch cyfle! Ry’n ni’n gwrando.
(COFIWCH DDOD I DRAFOD 'ARLOESI'
YN NEUADD Y NANT AR NOS FAWR, CHWEFROR 4 AM 7 O'R GLOCH.)
Latest comments
28.09 | 11:17
Hoffem llongyfarch Dr Fiona Gammon ar ei swydd newydd . Pob d...
19.09 | 09:07
Methu ymuno borema, 19 Medi am 10am. Ydi'r amser neu'r ddolen gy...
13.01 | 16:51
Diolch yn fawr, Melda. Roedd criw Capel y Nant wedi gwerthfaw...
08.01 | 15:43
Braf oedd cael eich cwmni yn Llwynrhydowen. Galwch eto!