Latest comments 28.09 | 11:17 Hoffem llongyfarch Dr Fiona Gammon ar ei swydd newydd . Pob d... 19.09 | 09:07 Methu ymuno borema, 19 Medi am 10am. Ydi'r amser neu'r ddolen gy... 13.01 | 16:51 Diolch yn fawr, Melda. Roedd criw Capel y Nant wedi gwerthfaw... 08.01 | 15:43 Braf oedd cael eich cwmni yn Llwynrhydowen. Galwch eto!











LLUNIAU CAPEL Y NANT 2008 - 2016 Cafodd criw hapus o Gapel y Nant Bererindod arall i'w gofio ar Sul, Awst 28, 2016. Y tro hwn, teithasom ar ddydd hudolus o haf i bentrefi Bro Morgannwg. Profasom gyffro tra'n ymweld a mannau fu'n datgan y dystiolaeth Gristnogol yn y Fro dros y canrifoedd. Yn gyntaf, cawsom groeso cynnes gan aelodau Capel Croes y Parc, Llanbedr y Fro, i addoli gyda nhw yn eu hoedfa foreol. Canasom emyn enwog 'Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau' o waith Dafydd William fu'n weinidog yng Nghroes y Parc yn y 18fed Ganrif. Share this page on Facebook











Cafodd criw hapus o Gapel y Nant Bererindod arall i'w gofio ar Sul, Awst 28, 2016. Y tro hwn, teithasom ar ddydd hudolus o haf i bentrefi Bro Morgannwg. Profasom gyffro tra'n ymweld a mannau fu'n datgan y dystiolaeth Gristnogol yn y Fro dros y canrifoedd. Yn gyntaf, cawsom groeso cynnes gan aelodau Capel Croes y Parc, Llanbedr y Fro, i addoli gyda nhw yn eu hoedfa foreol. Canasom emyn enwog 'Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau' o waith Dafydd William fu'n weinidog yng Nghroes y Parc yn y 18fed Ganrif.