‘Eglwys Gymraeg yw Capel y Nant sy’n ceisio cynnal a hyrwyddo'r ffydd
Gristnogol yng Nghlydach, Abertawe. Derbyniwn ein bod ar daith ysbrydol
gan gredu bod y daith honno wedi'i seilio ar gariad Duw, gras Iesu Grist, a
chymdeithas yr Ysbryd. Gwnawn ein gorau fel eglwys i werthfawrogi a rhyddhau
doniau pawb yn ein plith. Gyda chymorth neges Iesu, ceisiwn herio anghyfiawnder
yn y cylch, y genedl a'r byd.’
Mae’r Datganiad uchod yn ffrwyth trafodaeth agored gan aelodau Capel y
Nant yn ystod nifer o gyfarfodydd. Cafodd y drafft olaf ei drafod gan Gwrdd
Eglwys gan ennill cefnogaeth unfrydol. Eglwys ar ein ffurfiant ydym ... proses
heriol ond buddiol i bawb ohonom.
DAETH Capel y Nant i fodolaeth yn 2008 wrth
i ddwy eglwys Annibynnol ddod ynghyd yng Nghlydach, Abertawe.
Hebron oedd y capel a gaewyd, er yn fwy hen ac yn fwy niferus fel
eglwys, ond adeilad Carmel a ddewiswyd fel canolfan hardd i'r eglwys
newydd oherwydd ei leoliad ynghanol y pentref gyda thir helaeth a lawnt hyfryd
ar un ochr iddo.
O'r cychwyn, bu ysbryd eciwmenaidd i'r
fenter wrth i aelodau Eglwys Bresbyteraidd Gymraeg Salem Faerdref gau eu
capel hwy a dod i gyd-fyw ac addoli a'r Annibynwyr.
Ers blwyddyn bellach mae criw o enwad arall, sef
y Methodistiaid Saesneg, sydd wedi bod yn cwrdd yn Festri Carmel ers cryn
amser, hefyd wedi dod yn bartneriaid yn y fenter.
Rydym wedi derbyn yr her fel Cristnogion i
fentro gyda'n gilydd i'r dyfodol, yn lle parhau i wanychu ar wahan.
Ond nid niferoedd yw ein cryfder, ond ein cred y cawn
arweiniad ar sut i greu eglwys fyrlymus, gyfoes, fydd yn ymdaflu i'r gwaith o
adlewyrchu cariad a neges Iesu Grist a Theyrnas Duw yn ein cymdogaeth leol
a'n gwlad a'n byd ehangach.
Gweddiwn am hynny wrth i ni deithio ymlaen yn
unol ac yn weithgar.
AR Y DDE UCHOD, LLUN O FANER NEWYDD CAPEL Y NANT A LUNIWYD GAN YR ARTIST IFANC RHODRI NICHOLLS A CHWAEROLIAETH YR EGLWYS. CYFLWYNWYD AR DDYDD SUL, GORFFENNAF 17, 2011