Mewn Cwrdd Eglwys a gynhaliwyd ar ddydd Sul, Tachwedd 16, 2014 - yn unol a gofynion Deddf Priodasau 2013 - cytunodd mwyafrif mawr o aelodau Capel y Nant y dylid caniatau priodasau un-rhyw yn ein capel, yn ogystal a deu-ryw.
Fel paratoad at y Cwrdd, roedd cyfarfod wedi'i gynnal gennym ar nos Fercher, Hydref 22, i esbonio'r gyfraith newydd i'r aelodau, ac i sicrhau bod pawb yn cael cyfle i drafod y gwahanol safbwyntiau.
Nodweddwyd ein trafodaethau gan ysbryd cyfeillgar a chroesawgar.