 |
 |
|
 |
 |
CROESO I WEFAN CAPEL Y NANT
OEDFAON RHAGFYR A IONAWR
Mae rheolau a mesurau diogelu Covid wedi’u llacio. Byddwn yn dal i barchu teimladau pobl a’u dymuniad i gadw’n ddiogel.
Oedfaon yn y capel a thros Zoom
RHAGFYR
4:
Oedfa Gymun: 10.30, Parchg Jeff Williams. Te a mins peis i ddilyn - cyfraniadau i Ambiwlans Awyr Cymru elusen y Chwaeroliaeth.
11:
9.30: Brecwast Nadolig. Cwrdd cyfoes 10.30: Robat Powell. 4 o’r gloch: Carolau gyda’r Wesle.
18:
10.30: Oedfa Nadolig yr Aelodau. Meseia yn y Brangwyn yn yr hwyr.
Dydd Nadolig am 7.30:
Plygain
IONAWR
1:
10.30 - Oedfa Gymundeb Dechrau’r flwyddyn yng ngofal y Tîm Addoli.
8:
Oedfa gyfoes 9.30. Oedfa’r bore: 10.30 – y Parchg Robin Samuel
15:
10.30: Parchg Huw Francis.
22:
10.30: Y Parchg Dylan Rhys.
29:
10.30 a 5 o’r gloch (Oedfa Gymun) – Y Parchg Jeff Williams
Diolchgarwch
Gweddi D
i
olchgarwch
Dduw da, teimlwn yn bryderus wrth wynebu’r gaeaf, a gwyntoedd oer yn chwythu ar ein llwybrau. Ond daliwn i ddiolch i ti am dy holl ofal. Gad i ni bwyso ar dy gadernid. Yn enw Iesu, Amen.
Cofiwch oedfaon Mis Tachwedd
OEDFAON TACHWEDD 2022
Mae rheolau a mesurau diogelu Covid wedi’u llacio. Byddwn yn dal i barchu teimladau pobl a’u dymuniad i gadw’n ddiogel.
Oedfaon yn y capel a thros Zoom
6:
Oedfa Gymun. 10.30: Parchg Dewi Myrddin Hughes
13:
9.30: Cwrdd cyfoes - Virginia Prifti yn sôn am Lawrence’s Roundabout Well
appeal, yr elusen dramor rydyn ni wedi bod yn ei chefnogi
10.30: Emlyn Davies, Efail Isaf
20:
10.30: Parchg Gwilym Wyn Roberts.
27:
10.30: Oedfa Gyfoes yng ngofal Robat Powell.
5.00: Oedfa Gymun. Parchg Guto Prys ap Gwynfor.
Diolchgarwch
Dydd Mercher 19eg o Hydref am 2.30
Oedfa ddiolch y Grŵp Bugeilio
Croeso i bawb
Sul Hydref 23ain o Hydref
10.30
: Diolch yr aelodau
Arweinydd:Dr Fiona Gannon
Ac yn am 5 o’r gloch : Diolch Hwyl a Joio
Dewch i ddiolch.
GWEDDI HYDREF 2022
Gweddi’r Mis
Mae gweld dy blant yn lladd ei gilydd yn torri dy galon di.
Dduw da, mae dagrau ein chwiorydd a’n brodyr yn Wcráin ar ein gruddiau ninnau.
Dduw heddwch, sefwn wrth dy ochr a dyheu am heddwch.
Amen
Sioe Cranogwen
Morwres.Ysgolfeistres. Bardd. Darlithydd. Pregethwr.
Mewn oes pan oedd disgwyl i ferched eistedd adref yn gwnio’n dawel fe gymerodd y ferch arbennig hon lwybr gwbl gwahanol i’w chyfoedion. Yn 26 roedd wedi cael ei chadeirio yn fardd er syndod mawr i bob dyn a gystadlodd a hynny am sgrifennu cerdd am briodas er na phriododd hi ei hun. Daeth Sarah Jane Rees yn enwog nid yn unig yng Nghymru ond ym mhrif ddinasoedd Lloegr ac America ond eto ar ôl yr holl
deithio dod nôl i’w milttir sgwar fyddai hi bob tro i Langrannog. Pam tybed? Bydd Cwmni Mewn Cymeriad yn cyflwyno CRANOGWEN ar nos Lun Hydref 10 yn Neuadd/Capel y Nant am 7 o’r gloch. Trefnir dan nawdd Cynllun Noson Allan, Cyngor y Celfyddydau. Tocynnau gan Annette (£7.50/£6)
SIOE FFASIWN O LAW I LAW
Sioe Ffasiwn O Law i law
Wedi
dwy
flynedd o orfod cyfyngu ar weithgareddau cymdeithasol oherwydd COVID-19, roedd yn braf iawn gallu mentro cynnal digwyddiad cymdeithasol i godi arian yn ystod wythnos Cymorth Cristnogol eleni. Efallai ein bod ni
’
n fwy ymwybodol nag erioed yn 2022 o
’
r angen mawr sydd am waith Cymorth Cristnogol mewn cynifer o rannau o
’
r byd, ac mae cyfiawnder hinsawdd a gwrthweithio
’
r difrod mae arferion gwastraffus gwledydd cyfoethog fel Prydain yn ei achosi yn elfen allweddol o
’
u gwaith ymgyrchu. Y syniad gafwyd, felly, oedd rhoi cynnig ar rywbeth newydd a chynnal sioe
‘
ffasiwn gwyrdd
’
yn Neuadd y Nant. Mae siop elusen T
ŷ
Croeso yn y pentref, O Law i Law, yn mynd o nerth i nerth, felly dewiswyd detholiad o ddillad o
’
r fan honno, a bodlonodd rhyw ddwsin o wirfoddolwyr i fodelu. Roedd yr amrywiaeth lliwgar o ddillad yn edrych yn ddeniadol dros ben, a bu Bill yn gweithredu fel
‘
DJ
’
, gan drefnu bod cerddoriaeth hwyliog yn gyfeiliant i bawb gamu i
’
r canol a dangos eu gwisgoedd. Diolch o galon i bawb fu
’
n helpu ar y noson
– roedd yn wych cael cyfle i ddod at ein gilydd yn gymdeithasol eto, ac fe godwyd swm teilwng iawn o ryw £500 i Gymorth Cristnogol.
Diolch i Fiona am y trefniadau ac, wrth gwrs, i'r modelau gosgeiddig!
BLWYDDYN NEWYDD 2022 - A FIONA'N ARWEINYDD NEWYDD
Llongyfarchiadau
i'r Dr Fiona Gannon ar ddod yn Arweinydd newydd Capel y Nant
ar droad y flwyddyn.
Dymunwn yn dda i Fiona - a'r Tim o aelodau fydd yn
cyd-weithio a hi.
Diolchwn yn wresog i'r Prifardd Robat Powell am ei
wasanaeth yn y swydd am yr 8 mlynedd blaenorol. Bydd Robat yn parhau fel Ysgrifennydd yr eglwys.
Fiona yw 3ydd Arweinydd
Capel y Nant, gyda'r Parch Dewi M Hughes wedi arwain wrth i'r eglwys
gael ei sefydlu yn 2008. LLUNIAU: Fiona a Chapel y Nant.
CAPEL Y NANT YN GOFYN AM GYTUNDEB CRYF I FFRWYNO CYNHESU BYD-EANG
Dosbarthwyd y Datganiad isod ar ran aelodau Capel y Nant gan
ein Pwyllgor Gwaith. Mae'n galw ar wleidyddion i sicrhau llwyddiant Cynhadledd
tyngedfennol o bwysig Newid Hinsawdd COP26 sydd i'w chynnal yn fuan yn Glasgow.
Danfonwyd at y Prif Weinidog Boris Johnson a Llywydd y Gynhadledd, Alok Sharma
AS yn benodol ac at a nifer o aelodau Senedd San Steffan a Senedd Cymru:
'Gan nodi rhybudd gwyddonwyr y
Cenhedloedd Unedig (6ed Adroddiad yr IPCC, 9 Awst, 2021) bod Newid Hinsawdd yn
peryglu dyfodol dynoliaeth, mae Pwyllgor Gwaith eglwys Capel y Nant, Clydach,
Abertawe SA6 5HB yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i geisio ymhob ffordd
i sicrhau cytundeb cryf yng Nghynhadledd
Hinsawdd COP26 yn Glasgow.
'Gyda’r nôd o ffrwyno Cynhesu Byd-eang
trwy dorri allyriadau carbon, credwn ei bod yn hanfodol bod Llywodraeth y
Deyrnas Gyfunol - fel Llywydd y Gynhadledd -
yn arwain cyn dechrau’r trafodaethau gan wrthod y ceisiadau cyfredol i
agor maes olew newydd ym Môr y Gogledd a phwll glo newydd yng ngogledd Lloegr.'
DYSGU FFYRDD NEWYDD - A NODI HANES COVID-19
Gyda ffyrdd newydd o addoli a gweithio yn datblygu wrth i ni ymateb i gyfyngiadau Covid-19, gan gynnwys dysgu sut i ddefnyddio Zoom, rydym wedi creu tudalen newydd ar y Wefan hon i nodi hanes ein hymdrechion, sef 'Ymateb i Covid-19'. Gweler ein rhestr dudalennau.
Cadwn y tudalen blaen hwn i newyddion am ein gweithgarwch cyfredol ynghyd a Datganiadau'r eglwys yn ymateb i broblemau'r byd.
DATGANIAD YN GALW AM BEIDIO A GOSTWNG EIN CYMORTH RHYNGWLADOL
AT: Y Gwir Anrhydeddus
Rishi Sunak AS,
Canghellor y
Trysorlys, Ty'r Cyffredin,
San Steffan,
Llundain SW1A 0AA Rhagfyr 4, 2020
Annwyl Ganghellor
Sunak,
MEDDYLIWCH
ETO AM DORIADAU CYMORTH OS GWELWCH YN DDA
Yr ydym ni, aelodau o
Bwyllgor Gwaith eglwys Gymraeg Annibynnol Capel y Nant yng Nghlydach,
Abertawe SA6 5HB yn dymuno mynegi ein siom ddirfawr gyda’ch cyhoeddiad bod
Llywodraeth San Steffan yn bwriadu torri’r ganran o GDP y Deyrnas Gyfunol a
roddir at gymorth rhyngwladol o 0.7% i 0.5%.
Pwyswn arnoch i feddwl
eto fel Canghellor ynglŷn â’r bwriad hwn.
*** Am y Datganiad llawn, ewch at 'Ffydd ac Ymgyrchu'
DATGANIAD CAPEL Y NANT YN CONDEMNIO LLADD GEORGE FLOYD
Rydyn ni, aelodau eglwys
Annibynnol Capel y Nant, Clydach, yn gwaredu at lofruddiaeth George Floyd gan
swyddogion heddlu Minneapolis ynyr Unol Daleithiau ar Fai 25, 2020.
Credwn fod y drosedd hon
yn ychwanegiad at y cam y mae pobl dduon y byd wedi’i ddioddef ers canrifoedd,
yn bennaf trwy weithredoedd pobl wynion.
I weld y Datganiad cyfan, ewch at dudalen 'Ffydd ac Ymgyrchu'
*** LLUN UCHOD: Protestiwr ifanc mewn rali Mae Bywydau Pobl Dduon yn Cyfrif yn Columbus, Ohio, ar Fai 28.
GWARCHOD Y DDAEAR
YNNI DI-GARBON:
Ym mis Medi 2017
, newidiodd Capel y Nant o drydan a nwy gan gwmni llosgi carbon niweidiol at ynni glan ac adnewyddol, trwy gwmni Good Energy.
O hynny ymlaen, mae ein biliau wedi bod yn talu am gynhyrchu trydan 100% di-garbon deuocsid a nwy sy'n hollol garbon niwtral (gyda 6% o bio-methan).
EGLWYS WERDD:
Ym mis Hydref 2018,
cawsom ein cofrestru gyda mudiad amgylcheddol Cristnogol A 'Rocha fel 'eglwys werdd'. Yn 2019 cawsom statws Grwp Gweithgarwch Newid Hinsawdd gyda Chyfeillion y Ddaear. Rydym yn gobeithio parhau i ddatblygu fel eglwys sy'n parchu ac nid yn difrodi'r Ddaear.
Cewch fwy o fanylion am hyn ar dudalen Caru'r Daear.
CEFNOGI MUDIADAU ELUSENNOL
Mae Capel y Nant yn eglwys sy'n ddiwyd wrth gefnogi achosion da, gan ddewis un lleol ac un rhyngwladol bob blwyddyn dan arweiniad ein Grwp Eglwys a Chymdeithas.
Rydym wedi colli llawer o gyfleoedd oherwydd cyfyngiadau Covid-19 i godi arian at ddwy elusen 2020-2021, sef Ambiwlans Awyr Cymru a Chapel y Nant ei hun. Yn wyneb hynny, rydym wedi creu Apel arbennig er mwyn i aelodau gyfrannu arian at yr achosion hyn.
*** Am fwy o wybodaeth am ein cefnogaeth i elusennau rhyngwladol a lleol, ewch at dudalen 'Ffydd ac Ymgyrchu.'
|
|
 |
|
|
|