YSGOL SUL
Bwriadwn gynnal Ysgol Sul i’r plant ar drydydd Sul pob mis gan ddechrau
ar fore Sul, 20 Hydref.
Dwedwch wrth eich ffrindiau, ac os gallwch helpu, cysylltwch ag
Annette.
HWYL A JOIO
Bydd sesiwn Hwyl a Joio ar nos Iau gyntaf pob mis ar gyfer plant oed cynradd rhwng 5.00
a 6.00 o’r gloch.
Mae nifer calonogol iawn o blant yn dod i'r nosweithiau a gynhelir yn Neuadd y Nant.
Mae nhw'n joio chwarae gemau a bwyta pizza - a chlywed stori Feiblaidd. Ac mae'r sesiynau yng ngofal athrawon profiadol.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag Annette Hughes - ffon 01792 843440, ebost dewiannette@gmail.com