Gweddnewid Capel y Nant gyda seddau unigol - 2018
Wrth fynd ati i foderneiddio Capel y Nant, symudwyd yr hen 'pews' ynghyd a'r Set Fawr o ganol y capel mewn prosiect cyffrous yn Nhachwedd / Rhagfyr 2018.
Crewyd llwyfan isel, agored yn lle'r Set Fawr, a gosodwyd seddau unigol, cyfforddus yn lle'r 'pews', rhai gyda breichiau i hwyluso pethau i'r rhai hynaf yn ein plith.
Gwnaed y cyfan mewn pryd i gynnal oedfaon Nadolig 2018 nol yn y capel. Cafodd y gweddnewidiad groeso twymgalon.
Prosiect symud seddau i helpu'r anabl - 2012 / 2013
CY
TUNODD Cwrdd Eglwys Sul, Tachwedd 4, 2012, y dylid gweithredu'r cyfan o gynllun ein Pwyllgor Gwaith yn dilyn Adroddiad Anabledd a gawsom gan arbenigwr ar y capel - a gorffennwyd y gwaith erbyn mis Mawrth 2013.
Dyma amlinelliad o'r Cynllun a luniwyd er mwyn gwneud y capel a'r safle'n fwy diogel ac yn
fwy cyfforddus i bobl anabl - a’r gweddill ohonom:
Yn y capel:
Er mwyn gallu symud cadair olwyn yn rhwydd o amgylch y
capel a chreu lle i gadeiriau olwyn a gofalwyr sy’n eu gwthio – a’i gwneud yn
haws dod ag arch i mewn ac allan pan fydd angladd:
►Tynnu
allan ddwy sedd hir yng nghanol cefn y capel – bydd hyn yn ei gwneud yn haws i
bawb symud o un ochr y capel i’r llall hefyd.
►Tynnu allan y ddwy sedd gefn ar y ddwy ochr fel bod modd
troi cadair olwyn yn rhwydd i lawr yr eil – a rhoi rhai cadeiriau esmwyth yn y
corneli os bydd pobl yn awyddus i eistedd yno o hyd.
►Tynnu allan y seddau ochr (wrth y piano) ym mlaen y
capel, fel bod lle i barcio cadeiriau olwyn a chreu lle i’r gofalwyr eistedd
gyda nhw. Byddwn yn rhoi rhai cadeiriau esmwyth yma.
►Tynnu allan y pared pren o flaen y sedd ganol ym mlaen y
capel – er mwyn ei gwneud yn haws symud o un ochr y capel i’r llall.
Yn ogystal, glanhawyd y lloriau pren a gosodwyd carpedi newydd i lawr. Roedd y capel ar ei newydd wedd erbyn Mawrth 2013, a chyrhaeddodd nifer o gadeiriau unigol newydd cyn diwedd mis Ebrill.
Pwrpas hyn oll yw cadw cymeriad ac
urddas Capel y Nant ond ei wneud yn lle mwy hwylus, diogel a chyfforddus i
bawb.
HEFYD —
Tu allan:
Peintio ymylon y cerb a’r grisiau tu allan i’r capel a’r
dreif yn wyn, fel y bydd yn haws eu gweld.
Tŷ bach yr anabl:
Rhoi’r cordyn argyfwng o gwmpas
gwaelod y walydd;
gosod y drych o’r llawr i fyny’r wal;
newid dolen y drws fel nad oes dim angen gafael ynddi
a’i
throi.
ROBAT
POWELL
Ysgrifennydd
yr Eglwys
Codi arian at Apel Haiti: 2013 - 2014
Bu'r Grwp Eglwys a Chymdeithas yn hynod brysur yn codi arian at ein helusen ddewisiedig am 2013 / 2014, sef Apel Haiti Cymorth Cristnogol.
Yn ein Noson Jazz arloesol, gyda Daniel Williams a Dave Jones o grwp jazz Cymreig 'Burlum' ym mis Tachwedd, codwyd £350 at yr Apel. Diolchwyd yn fawr i Daniel a Dave am helpu ein hymdrechion.
Yna, ar nos Wener, Chwefror 28, 2014, cafwyd noson lwyddiannus iawn arall gerddorol, y tro hwn gan offerynwyr gwerin Y Bardd Bach sy'n cwrdd ar ail nos Wener bob mis yn Nhy Tawe. Roedd pawb wrth eu bodd gyda'r alawon gwerin fel gyda'r noson jazz. Diolchwyd yn fawr i griw'r Bardd Bach. Codwyd tua £170 i gyflwyno ein coffrau ar gyfer Apel Haiti.
Codwyd cyfanswm o dros £3,000 at Apel Haiti.
Yn ystod 2012 / 2013, codwyd tua £2,400 gan y Grwp yn cael ei rannu rhwng elusen leol Share Tawe a rhyngwladol y Groes Goch.
Y flwyddyn gynt, roeddynt wedi c
yflwyno £1,500 i D
ŷ Olwen
a
£1,500 i
Arian
i Madagascar
ar
ran yr eglwys. (Mwy o fanylion dan Grwp Eglwys a Chymdeithas ar dudalen ein grwpiau gwaith.)