Yn ystod ein Sul Hinsawdd ar 29 Awst, clywodd aelodau Capel y Nant apel daer gan y Parch Dewi Myrddin Hughes i'r eglwys fynegi ei barn yn gryf o blaid cael cytundeb i ffrwyno Poethi
Byd-eang yng Nghynhadledd COP26 yn Glasgow. Diolch i Dewi am gael defnyddio nodiadau o'i fyfyrdod ...
EPHPHATHA
Marc
7 adnod 35: Agorwyd ei glustiau ar unwaith, a datodwyd rhwym ei dafod, a dechreuodd lefaru’n eglur.
Gwyrth. Mae’r digwyddiad yn newid bywyd y dyn yn llwyr. Pe na bai Iesu wedi dod
heibio, neu heb fedru helpu’r dyn, neu ddim yn fodlon, fyddai dim wedi newid, byddai wedi para yn fud a byddar.
"Ephphatha” oedd yr union air a ddefnyddiodd Iesu, gair Aramaeg, yn golygu
“agorer di”. Digwyddodd hyn. Iachawyd dyn. Fydd ei fywyd byth yr un fath. Mae byd arall yn agor o’i flaen, un llawn posibiliadau, lle gall glywed a siarad.
Mae hynny
i gyd yn wir. Ond, fel yn aml yn yr ysgrythur, mae ystyr arall dan yr wyneb. ‘Dyn NI ddim yn clywed yn iawn, ac yn methu dweud yn iawn.
Dyma drosglwyddo’r stori i’n sefyllfa ni.
Mae’r byd yn llawn helbulon enbyd: Afganistan, Haiti, Syria, Belarws ... Er mor erchyll yw y rheini, mae un argyfwng uwchlaw’r cwbl.
Argyfwng pennaf ein cyfnod yw “cynhesu,” nage, “poethi” byd-eang. Mae cynhesu yn air rhy dyner fan hyn. Gyda chynhadledd fawr Glasgow, COP26, ar y gorwel mae’r pwnc yn hawlio sylw.
Ydyn ni yn methu clywed? Mae gwyddonwyr yn rhybuddio ers blynyddoedd bod rhaid i ni weithredu, gwneud newidadau sylfaenol yn ein ffordd o fyw. Ydyn ni, hyd yn oed nawr, yn sylweddoli mor ddifrifol yw’r sefyllfa?
Mae rhan i bobl eraill yn y stori hon. Pobl eraill sy’n dod â’r dyn at Iesu. Bu pobl eraill yn tynnu’n sylw ninnau at yr argyfwng: David Attenborough, Greta Thunberg a llu o rai eraill.
Glywch chi Iesu yn dweud wrthym ni heddiw, “Rwy am i’ch clustiau chi fod ar agor! Rwy’n moyn i chi glywed”? Mae pethe nad ydyn ni ddim yn eu clywed, er bod gwir angen i ni glywed. Mae
gennym ddawn i roi ein pennau yn y tywod. “Does neb mor ddall â’r rheini sy’n mynnu peidio gweld!”
Mae angen i ni glywed yn glir, ac wedyn dweud. Buom yn fud,
yn dawel. Mae angen i ni godi’n llais. Mae angen i ni waeddi.
Y gair Groeg am wirionedd yw aletheia. Ystyr letheia ydy cuddiedig, o’r golwg.
Mae’r ‘a’ yn troi’r ystyr ar ei phen. Aletheia yw yn y golwg, yn eglur. Yn ddigon tebyg i’r Gymraeg: cuddio + dat= datguddio. Gwirionedd yr efengyl yw’r peth y mae’r efengyl yn ei ddatguddio,
yn ei ddwyn i’r golwg. Pan welwn y gwirionedd, rhaid ei rannu. Pan glywn y gwirionedd rhaid ei waeddi.
Mae tim o arbenigwyr ar ran holl wledydd y byd wedi dwyn adroddiad ar boethi
byd-eang – adroddiad yr IPCC. Mae’r rhybudd yn glir. Mae angen lleihau nwyon gwenwynig ar frys gwyllt. Does dim amser i oedi. Yn gynnar yn yr Adroddiad mae’r tri gair i’n sobri:
Inevitable, anochel. Nid falle, nid o bosib, Heb weithredu yn llym ac yn gyflym, fel hyn y bydd hi.
Unprecedented, fu dim fel hyn o’r blaen. Bu argyfyngau mawr o’r blaen, ond mae hyn yn bygwth bywyd ar y ddaear.
Irreversible, di-droi-nôl. Er enghraifft,
unwaith y bydd clogwyn mawr o iâ yn disgyn i’r môr, miliynau o dunelli, allwch chi ddim ei roi nôl.
Mae’r ddynoliaeth, rhan gyfoethog o ddynoliaeth yn hytrach, sy’n
ein cynnwys ni, wedi ein dwyn at y dibyn. Rydym y gyd wedi ein dychryn gan luniau brawychus, tanau, llifogydd, corwyntoedd, ar hyd a lled y byd.
Heb i ni weithredu ar frys byddent yn amlach
ac yn ffyrnicach. Bydd pawb yn dioddef, ond y bobl dlotaf yn fwy na neb. A’r cenedlaethau sydd i ddod gaiff eu heffeithio fwyaf, ein plant, a’u plant, a’u plant hwythau. Mae angen i NI wneud rhywbeth ar
frys.
1. Rhaid i ni fod yn fwy cyfrifol ein hunain, bod yn ofalus iawn yn ein dewisiadau, o ran bwyd, ynni yn y cartre, teithio.
2. Galw ar bobl sydd mewn awdurdod, cwmnïau mawr a gwleidyddion, i weithredu ar frys.
Mae Cynhadledd Glasgow fis Tachwedd yn gyfle euraidd.
Er mwyn amddiffyn y ddaear, rhaid gweithredu. Mae’n hwyr. OND DDIM YN RHY HWYR!
Mae eisiau angerdd yn ein calon ac yn ein llais. Ephphatha! Gwranda! Llefara!
D.M.H.