 |
 |
|
 |
 |
BLE'R Y'N NI - A PHWY YW PWY
SUT I GYRRAEDD CAPEL Y NANT, CLYDACH, ABERTAWE SA6 5HB
Mae Capel y Nant ynghanol Clydach,
hen bentref pyllau glof a gweithfeydd
metal i'r gogledd o Abertawe
ar heol
y B4603.
Mae'r capel wedi'i
leoli ar Heol y Nant sy'n cysylltu â phrif stryd siopa'r pentref, sef High
Street.
Ein cyfeiriad yw: Capel y Nant, Heol y Nant, Clydach, Abertawe SA6 5HB.
*** Mae lleoliad Capel y Nant i'w gael o chwilio ar y we. Rhowch '- Capel y Nant Clydach' i mewn i'ch chwiliwr ac fe ddaw Google Maps i ddangos safle'r capel yn Heol y Nant.
Wrth deithio o gyfeiriad dinas Abertawe a'r M4, ymunwch a'r B4603
ar gylch traffig Ynysforgan (Cyffordd 45), sef hen brif ffordd Cwm Tawe.
Ewch drwy
Ynystawe ac ymlaen heibio i'r hen Hebron
ar y chwith i gyrraedd canol Clydach.
Trowch i'r chwith, i Heol y Nant, wrth
Siop Spar. Ewch ymlaen gan fynd heibio i Sybil Street a Down Street sy'n torri ar draws ac fe
welwch Capel y Nant a Neuadd y Nant ar y dde.
Wrth ddod o gyfeiriad Pontardawe, ewch i ganol Clydach gan basio'r troad i Archfarchnad y Co-op ar y chwith a throwch i'r dde i Heol y
Nant wedi i chi fynd heibio i'r llyfrgell, ar y dde, a chyrraedd cornel Siop
Spar.
Mae
gwasanaethau bysiau yn cysylltu Clydach ag Abertawe a phentrefi gogledd Cwm Tawe
.
CAPEL Y NANT - YN HEOL Y NANT, CLYDACH, ABERTAWE SA6 5HB
CAPEL Y NANT - YN HEOL Y NANT, CLYDACH, ABERTAWE SA6 5HB
PWY YDY PWY? EIN SWYDDOGION ...
ARWEINYDD AC YSGRIFENNYDD
Robat Powell, 01792 794665
Ebost: powell.rg@btinternet.com
CYN-ARWEINYDD
:
Y Parch Dewi
Myrddin Hughes, 01792 843440
Ebost: dewiannette@gmail.com
CADEIRYDD
Eurig Davies
Cyn-Gadeirydd:
Y Barnwr Geraint
Walters
Ysgrifennydd
:
Robat Powell
, 01792
794665
E-bost: powell.rg@btinternet.com
160 Vicarage Road
,
Treforys, Abertawe SA6 6DT
Trysorydd:
Ann Williams, 01792 896071
Eglwys sy'n falch i groesawu ymwelwyr
Rydym yn eglwys groesawgar iawn sy'n falch o weld ymwelwyr yn taro mewn i weld shwd bobl ydyn ni a shwd eglwys sydd ar waith yma.
Byddwch wedi nodi rhestr o'n prif swyddogion uchod, gan gynnwys eu manylion cysylltu.
Rydym yn annog cymaint a phosib o'n haelodau i fod yn weithgar wrth wasanaethu Duw yn ol eu doniau yn yr eglwys.
Rydym yn falch arbennig y cawsom y Parch Dewi Myrddin Hughes, cyn-Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, yn gyd-aelod ers i ni ymffurfio yn 2008 - yn arbennig gan iddo gytuno bod yn 'Arweinydd' arloesol arnom.
Ym mis Ionawr, 2013, yn dilyn 'ymddeoliad' Dewi, roeddem yn falch iawn bod ein cyd-aelod, y Prifardd Robat Powell, wedi cymryd at swydd Arweinydd Capel y Nant. Mae Robat hefyd yn Ysgrifennydd yr eglwys.
BWRLWM MISOL , GWEFAN A FACEBOOK
O'r cychwyn cyntaf ers i ni gael ein lansio fel eglwys unedig yn 2008, bu gennym gylchgrawn misol o'r enw Bwrlwm yn cael ei olygu a'i ddylunio gan un o'n haelodau, Hywel Davies.
Mae Bwrlwm yn llawn newyddion am weithgarwch yr eglwys - am ein hoedfaon, am hynt a helynt aelodau, am weithgareddau Cristnogol yn y fro a'r byd - gyda lle penodol i'n Harweinydd, y Prifardd Robat Powell, gyfrannu myfyrdodau misol ar ein Ffydd yn ein bywydau (a'r Parch Dewi Myrddin Hughes o'i flaen ef).
Danfonir Bwrlwm allan gyda'r post at bob un o gyfeiriadau aelodau'r eglwys. Caiff pawb, felly, wybod beth sy'n digwydd yn yr eglwys fel eu bod yn gallu cyfrannu i'n datblygiad. Mae hefyd yn ddolen gyswllt o bwys i aelodau nad sydd bellach yn gallu mynychu oedfaon oherwydd henaint neu salwch. Rydym yn cofio amdanyn nhw hefyd.
Trwy Bwrlwm, fe geir syniad go dda o natur fywiog ein heglwys a'n hymrwymiad fel aelodau i ddatblygu ar ein taith ysbrydol o ran ein Ffydd Gristnogol a'n Gwasanaeth i gymuned a byd.
Bwrlwm a Gwefan
O dan drefn newydd a ddechreuwyd yn 2015, mae cynnwys Bwrlwm
bellach yn cael ei gasglu gan dim o wirfoddolwyr sef Sali Wyn
Islwyn, Annette a Dewi Hughes, ac Eurig Davies. Maent yn casglu ac yn golygu 3 rhifyn yn
eu tro gyda Gwasg Morgannwg, Castell-nedd, yn dylunio ac yn argraffu.
Mae Hywel Davies, a fu'n gyfrifol am Bwrlwm ers 2008, wedi troi at y dechnoleg newydd fel golygydd a lluniwr Gwefan yr Eglwys. *** Gweler:
http://www.capelynant.org/
Tudalen ar Facebook
Yn ystod 2018 mae gyda'r eglwys tudalen ar Facebook hefyd - tudalen sy'n golygu bod ein gweithgareddau amrywiol yn cael sylw ehangach. Hywel, hefyd, sy'n gyfrifol am y tudalen hwn. Os ydych ar Facebook, chwiliwch am 'Capel y Nant Clydach'.
CLAWR BWRLWM, RHIF 125, Mai 2020
CLAWR BWRLWM, RHIF 125, Mai 2020
|
|
 |
|
|
|