 |
 |
|
 |
 |
Colofn Fiona Gannon
Mae’n briodol iawn ein bod ni’n cynnal Sul yr Hinsawdd yn ystod tymor yr hydref, pan fydd y coed yn newid lliw ac
yn colli eu dail, a harddwch y cread mor amlwg i bawb ohonom. Ond mae hefyd yn ein hatgoffa o ansefydlogrwydd byd natur ar hyn o bryd, a’r difrod a achosir gan arferion niweidiol y ddynoliaeth. Mae’r
lluniau a welsom o’r llifogydd yn Pacistan, lle lladdwyd yn agos at ddwy fil o bobl, yn codi arswyd arnon ni, ac er nad yw ein bywydau ninnau yn wynebu’r un math o berygl yma yng Nghymru, faint o deuluoedd, tybed, sydd ar bigau’r drain ar
ôl diwrnod neu ddau o law, rhag i lifogydd droi eu bywydau wyneb i waered? Yn Genesis, cawn sôn am addewid Duw a’r enfys yn
arwydd o obaith: Pan fydd cymylau yn yr awyr, ac enfys i’w gweld yn y cymylau, bydda i’n cofio’r ymrwymiad dw i wedi’i wneud i chi a phob creadur byw. Fydd llifogydd ddim yn dod i ddinistrio
popeth byw byth eto. Mae’n boenus o eironig, felly, mai ein camddefnydd ninnau o’r blaned sy’n gyfrifol am y ffaith bod lefel y môr yn codi, ac na fydd modd byw mewn rhai rhannau o’n byd
yn y dyfodol. Ar un ystyr, yn wyneb hyn, dylai pob Sul fod yn Sul yr Hinsawdd, gan fod gofal am y cread yn rhan mor hanfodol bwysig o’n cenhadaeth. Mae maint y dasg sydd o’n blaenau i atal rhagor o
ddifrod yn arswydus, a bydd angen parhau i roi pwysau ar arweinwyr a llywodraethau i weithredu, ond gall pawb ohonon ni wneud rhywbeth ar lefel bersonol yn ogystal, a chyfrannu at newid meddylfryd. Wrth i ni nesáu at gyfnod yr adfent, beth am addunedu i wneud
dewisiadau mor wyrdd â phosib y Nadolig yma, fel bod tymor sy’n gallu bod yn drawiadol o wastraffus yn adlewyrchu’n hawydd i fod yn stiwardiaid gwell ar fyd Duw?
You liked this page
|
|
 |