Mae’r gwanwyn yn y tir, ac mae’n hyfryd gweld y diwrnodau’n estyn a’r blodau’n dod i’r golwg trwy’r pridd.
Mae dyfodiad y gwanwyn yn siŵr o godi calon ar ôl hirlwm y gaeaf, ac mae fel petaen ni’n byw mewn byd o ryfeddodau, gyda gwyrth bywyd newydd i’w weld ym mhob man o’n cwmpas.
On’d yw hi’n boenus o eironig, felly,
ein bod ni’n dathlu gwyrth bywyd ar yr un pryd â gweld Vladimir Putin yn diystyru gwerth bywyd yn llwyr, ac yn sathru ar bawb a phopeth sydd yn ffordd ei ymgais orffwyll i gipio mwy o bŵer?
Mae pobl Wcráin yn ein calonnau a’n gweddïau
y Pasg hwn, fel y mae’r rhai sy’n dioddef mewn rhyfeloedd eraill ar draws y byd, yn Syria, Yemen, a mannau eraill. Diolchwn fod y Beibl yn dangos i ni nad trefn ryfelgar ein daear ni sydd wrth fodd Duw, a gadewch i ni weddïo o’r newydd
am wireddu’r weledigaeth a geir yn llyfr y proffwyd Eseia:
Byddan nhw’n curo’u cleddyfau yn sychau aradr a’u gwaywffyn yn grymanau tocio.
Fydd gwledydd ddim yn ymladd ei gilydd, nac yn hyfforddi milwyr i fynd i ryfel.
Diolchwn fod Iesu wedi dod i’n daear yn Dywysog Tangnefedd, gan drechu drygioni â daioni, a chasineb â chariad, a gweddïwn ar i Dduw gryfhau ein cariad ninnau y Pasg hwn, fel y gallwn ni hyrwyddo gwerthoedd ei deyrnas ar y ddaear.