OEDFA BUM-MUNUD, SUL, MAI 24, 2020
Amrywiol iawn yw gwaith yr Eglwys. Addoli a moli Duw, wrth gwrs. Magu cymdeithas
glòs o gredinwyr. Ceisio troi cariad a chyfiawnder Duw yn realiti yn y byd sy o’n cwmpas.
Rhan bwysig arall o dasg yr Eglwys yw addysgu pobl. Dysgu ein haelodau amgynnwys ac
ystyr y Beibl. Ond hefyd dysgu ein pobl a’n plant am y byd, y ffordd iawn i fyw, a sut dylai Cristnogion ymddwyn yn eu perthynas â phobl eraill.
Addysgwr rhagorol oedd Iesu. Dyma ddarn
o Efengyl Mathew lle mae e’n sôn am werth Teyrnas Duw.
Mathew 13:44-48
44 “Mae teyrnasiad yr
Un nefol fel trysor wedi’i guddio mewn cae. Dyma rywun yn ei ffeindio ac yna’n ei guddio eto, wedyn mynd yn llawen a gwerthu popeth oedd ganddo er mwyn gallu prynu’r cae hwnnw.
45
“Mae teyrnasiad yr Un nefol hefyd yn debyg i fasnachwr yn casglu perlau gwerthfawr. 46 Ar ôl dod o hyd i un perl arbennig o werthfawr, mae’n mynd i ffwrdd ac yn gwerthu’r cwbl sydd ganddo er mwyn gallu prynu’r un perl
hwnnw.
47 “Unwaith eto, mae teyrnasiad yr Un nefol yn debyg i rwyd sy’n cael ei gollwng i’r llyn a phob math o bysgod yn cael eu dal ynddi. 48 Mae’r pysgotwyr
yn llusgo’r rhwyd lawn i’r lan. Wedyn mae’r pysgod da yn cael eu cadw a’u storio, ond y pysgod diwerth yn cael eu taflu i ffwrdd.
Yma mae Iesu’n esbonio ar ffurf damhegion
pa mor werthfawr yw Teyrnas Duw.
Bydd y byd a bywyd dan reolaeth Duw mor wych fel byddwn yn rhoi’r cwbl er mwyn cael rhan ynddo. Ond yn y drydedd ddameg mae’n egluro taw dim ond y ‘pysgod
da’ gaiff le yn y Deyrnas. Hynny yw, y bobl fydd yn byw yn ôl gwersi a gorchmynion Duw. Y sawl fydd yn ‘caru ei gymydog fel ef ei hun.’
Mae dysgu ac esbonio fel hyn ar ffurf
dameg neu stori yn effeithiol. Ydyn ni yn yr Eglwys yn addysgu pobl yr un mor effeithiol?
Wrth gwrs, mae addysgu’n anodd dan yr amgylchiadau presennol pryd ry’n ni’n methu cyfarfod
ein gilydd. Addysgu trwy’r eglwys, ond hefyd addysgu trwy’r ysgol a’r brifysgol. Mae pob rhan o’n cymdeithas yn dioddef mewn rhyw ffordd y dyddiau hyn, ond mae ein pobol ifainc yn dioddef mewn ffordd arbennig, ac mae gofyn cofio amdanyn
nhw.
Mae’r ysgolion ar gau, efalle tan fis Medi. A’r prifysgolion o bosib am flwyddyn arall! Y disgyblion a’r myfyrwyr yn mynd trwy bob math o brofiadau. Mae rhai, o bosib, wrth
eu bodd gyda’r ‘gwyliau’ hir! Ond bydd llawer yn rhwystredig iawn yn gaeth yn eu tai neu’u fflatiau, yn methu gweld ffrindiau, yn methu chwarae gemau, eu rhieni efalle’n ffraeo â’i gilydd. Llawer yn methu sefyll arholiadau
i ddangos mor dda maen nhw wedi gweithio a chael y cymwysterau maen nhw’n haeddu.
A byddan nhw i gyd yn colli talp mawr o
addysg wyneb-yn-wyneb gyda’u athrawon neu’u darlithwyr, a’r profiad o ddysgu gyda’u cyd-fyfyrwyr. Mae’r ffactorau hyn i gyd yn siŵr o achosi problemau a gofid meddwl i’r ifanc.
Wrth i ni feddwl am arfer cariad Iesu, tueddwn i feddwl am leddfu anghenion y rhai difreintiedig, y methedig neu’r ffoadur. Mae’n hawdd anghofio anghenion y rhai ifainc.
Dysgodd
Iesu mor arbennig fydd y byd lle mae Duw’n teyrnasu. Rhan o’r arbenigrwydd hwnnw yw’r ffordd ry’n ni’n gofalu’n gariadus am ein gilydd. Yn ystod yr argyfwng, dyna sydd ei angen ar ein pobl ifainc. Mae gyda ni i gyd ein plant
a’n hwyrion, neu ry’n ni’n nabod ac yn gweld plant cymdogion a chyfeilion.
Mae gofyn gwneud ein gorau glas i roi hwb iddyn nhw sut bynnag y gallwn. Mae eu haddysg yn rhy werthfawr
i’w cholli.
Gweddïwn. Rhown ddiolch, O Dduw, am ein plant a’n pobl ifainc, am y llawenydd a’r pleser maen nhw’n rhoi i ni. O’u gweld nhw nawr
yn eu hangen, O Dduw, boed i ni gynnig yr hyn allwn i liniaru eu gofid meddwl a dangos ein cariad tuag atyn nhw. Amen.