 |
 |
|
 |
 |
MYFYRDODAU MISOL BWRLWM 2011-15
CALAN GAEAF PWY YW HI? - Y
SAINT NEU'R PAGANIAID?
Myfyrdod Robat Powell, Arweinydd Capel y Nant, o Bwrlwm, pamffled misol yr eglwys, ar gyfer Tachwedd 2015
Daeth Calan Gaeaf eto. Daw’r
plant o gwmpas â’u pwmpenni gan wisgo fel ysbrydion. Efalle’n codi ofn, yn
anffodus, ar rai ohonon ni.
Serch hynny, Gŵyl Gristnogol
swyddogol yw hon i’r Eglwys Gatholig – Gŵyl yr Holl Saint. Mae noson Hydref 31
yn ddechreuad tridie o gofio’r meirwon, y saint a merthyron yr Eglwys, a
gweddïo drostyn nhw. Felly, gŵyl pwy yw hi – y paganiaid neu’r Cristnogion?
Yn wreiddiol, mae’n debyg taw
gŵyl baganaidd Samhain y Celtiaid
oedd hon. Amser dathlu’r cynhaeaf a nodi diwedd yr haf trwy wledda a chynnau
coelcerthi. Y pryd hwn âi’r ffin rhwng y byd hwn a byd y meirwon yn denau, a
gellid symud o un byd i’r llall. Daliai’r dathlu hwn yn boblogaidd trwy Ewrop
wedi dyfodiad Cristnogaeth. Hyd heddiw, cewch weld yr orymdaith Galan Gaeaf
fwyaf yn y byd yn Greenwich Village, Efrog Newydd.
Gan hynny, penderfynodd yr
Eglwys gymryd yr ŵyl oddi wrth y paganiaid. Dyna wnaeth yr Eglwys gyda’r
Nadolig hefyd.
Yn 835 symudodd y Pab Gregory
lV Ŵyl yr Holl Saint o fis Mai i Dachwedd 1. Dim ond gwyliau Cristnogol roedd y
bobl i fod i’w dathlu o hynny ymlaen!
Erbyn heddiw, byddai’r sinig
yn dweud bod y paganiaid wedi cymryd y gwyliau Cristnogol yn ôl oddi wrth yr
Eglwys! Amser joio yw’r Nadolig bellach, a noson y mwgwd brawychus yw Gŵyl y
Saint!
Mewn gwirionedd, cododd
llawer o arferion ofergoelus o amgylch yr Ŵyl Gatholig hefyd. Y werin yn gosod
canhwyllau yn eu tai i ddenu eneidiau’r meirwon yn ôl. Yn credu bod y meirwon
yn codi o’u beddau i ddawnsio – y ‘danse
macabre’ enwog. Yn Sbaen, yr arfer yw pobi teisennod arbennig – yr ‘huesos de santo’ (esgyrn y saint) - a’u
dodi ar ben beddau.
Dyw’r arferion hyn ddim at ddant yr eglwysi
Protestanaidd! Hoffwn feddwl ein bod ni’n rhoi ein pwyslais ar fyw ac ar greu
bywyd newydd, ac nid ar y meirwon.
Ond peidiwn â bod yn
sych-dduwiol chwaith! Mae clywed am yr hen goelion yn gallu bod yn ddifyr o
hyd.
BYDD MAWR Y RHAI BYCHAIN!
Myfyrdod Robat Powell, Arweinydd Capel y Nant, o Bwrlwm mis Hydref.
Ydych chi’n dilyn Cwpan
Rygbi’r Byd? Os felly, byddwch chi wedi sylwi ar un peth. Mae’r chwaraewyr yn
fawr. Yn fwy o seis nag y bu chwaraewyr rygbi erioed o’r blaen! A dyna’r ffordd
y byd, meddan nhw. Rhaid i bopeth fod yn
fawr er mwyn llwyddo – cwmnïoedd,
gwledydd, clybiau pêl-droed.
Mae bod yn fawr yn poeni
Lewis Juliff, crwt 10 oed o Benrhiwceiber. Bachgen byr yw Lewis, ac mae e’n
gofidio ei fod yn rhy fach i chwarae rygbi. Felly, dyma ei fam yn anfon at y
dewin bach ei hun, Shane Williams, i roi gair i’w mab i godi ei galon!
Dyma’r newydd da i Lewis,
a phawb arall. Does dim rhaid i rywbeth fod yn fawr i lwyddo. Yn y Cwpan Byd,
mae un gêm wedi gwefreiddio pawb. Tîm Siapan yn curo cewri De Affrica! Mae
chwaraewyr Siapan gyda’r rhai lleia yn y byd, ond enillon nhw oherwydd eu
sgiliau a’u cyflymdra.
Clywsom hanes rhyfeddol yn
ddiweddar am Teddy Houlston. Ganwyd Teddy yng Nghaerdydd yn 2014, ond bu farw o
fewn dwy awr. Ond roedd ei rieni’n fodlon rhoi arennau Teddy i helpu rhywun
arall. Cyn hir, roedd organau’r babi wedi achub bywyd oedolyn yn Leeds trwy
drawsblaniad arennau.
Plentyn mor fach yn rhoi
bywyd i rywun mewn oed – dyna i chi wyrth!
A dyna wers i ni i gyd.
Mae’n hawdd meddwl ein bod yn rhy fach, neu’n rhy wan, neu’n rhy dwp, i
gyflawni rhywbeth. Ond dyw hynny byth yn wir. Dywedodd Shane Williams wrth y
bachgen Lewis taw yr unig beth mawr sydd ei eisie i lwyddo yw calon. Mae calon
fawr a phenderfyniad yn bwysicach na
maint.
Peth arall sydd ei angen
yw cred neu ffydd. Dynion di-nod oedd disgyblion Iesu, heb addysg nag arian.
Pobl fach go iawn. Ond oherwydd eu cred yn Iesu a’u hewyllys cryf llwyddon nhw
i barhau gwaith Teyrnas Dduw a lledaenu neges Crist ar draws y byd.
Pa mor gryf yw ein
hewyllys i weithio dros Eglwys Crist heddiw? Pa mor fawr yw ein calonnau
Cristnogol?
Daw dydd y bydd mawr y
rhai bychain, meddai Waldo.
Pob hwyl, Robat
MYFYRDOD ROBAT POWELL, ARWEINYDD CAPEL Y NANT, O BWRLWM MIS MEDI
Gobeithio i chi gael
seibiant rhywle yn ystod yr haf. Tybed a gawsoch chi gyfle i ddarllen llyfr neu
ddau wrth ymlacio? I rai ohonon ni, dyna un o brif bleserau bywyd.
Ond mae llai o bobl yn
darllen heddiw nag erioed. Mae digon o lyfrau’n cael eu prynu o hyd. Ond mae’n
debyg bod llawer o’r rhain yn gorwedd ar y silff heb eu darllen nes cael eu
rhoi i siopau Oxfam neu Tenovus.
Does dim amser i
ddarllen bellach, meddan nhw. Mae lluniau’r teledu, y DVD a’r i-pad yn fwy
deniadol. Mae hyn yn wir bryder ymysg ein pobl ifainc. Dangosodd arolwg mawr 10
mlynedd yn ôl taw dim ond tua 35% o blant ysgol Prydain oedd yn darllen er mwyn
pleser. Ddwy flynedd yn ôl roedd y canran yma wedi cwympo i 25% yn unig.
Un o’r llyfrau nad yw
pobl braidd yn ei ddarllen yw’r Beibl. Hyd yn oed Cristnogion. Er hynny,
dylai’r Beibl fod yn sylfaen ein cred. Heb hwn ni fyddai dim gwybodaeth gyda ni
am Iesu, a fawr o glem am beth yw Duw.
Mae’r Beibl Cymraeg wedi
cyfoethogi ein hiaith a’n diwylliant. Bydd pobl yn sôn am berson fel ‘halen y
ddaear’ sy’n ‘cerdded yr ail filltir’ heb sylweddoli taw o’r Beibl y mae’r
ymadroddion hyn yn dod. Fel ugeiniau o ymadroddion eraill. Ond mae perygl y
bydd y cyfoeth hwn yn diflannu o’n diwylliant heb wybodaeth o’r Gair.
Bellach, mae Undeb yr Annibynwyr am newid pethau. Maen nhw’n lansio
ymgyrch ‘Darllen y Beibl Byw’ ar gyfer y flwyddyn nesa.
Mae hyn yn cyd-daro â chyhoeddi dau
lyfr newydd: ‘Beibl.net’, sef y Beibl
sydd ar-lein mewn Cymraeg modern, a ‘Canllaw i’r Beibl’. Beibl yw hwn sy’n
cynnwys esboniadau ar bob tudalen.
Bydd yr Undeb yn trefnu
digwyddiadau i hybu’r ymgyrch. Yng Ngorllewin Morgannwg bydd y Parch Ddr Noel
Davies yn cynnal dosbarthiadau yn ystod y gaeaf ar sut i ddarllen a defnyddio’r
Beibl. Yng Nghapel y Nant hefyd byddwn yn rhoi sylw i ddarllen y Gair yn ystod
ein hoedfaon.
Mae’r Beibl yn cynnig
goleuni ac ysbrydoliaeth i ni. A gall pori ynddo fod yn bleser hefyd.
Hwyl ar y darllen!
Pob hwyl, Robat
MYFYRDOD BWRLWM GORFF / AWST 2015
Myfyrdod gan Robat Powell, Arweinydd Capel y Nant, a gyhoeddwyd yn Bwrlwm, misolyn yr eglwys am fisoedd Gorffennaf ac Awst, 2015.
Daw
henaint ag un peth poenus gydag e, meddai rhywun. Mae’n rhaid mynd i ormod o
angladdau eich ffrindiau. Digon gwir, efalle.
Ond
erbyn hyn daw henaint â rhywbeth mwy pleserus hefyd, sef mwy o gyfle i
ddathlu
gyda’ch ffrindiau.
Y
mis hwn mae dwy o aelodau Capel y Nant yn dathlu eu pen-blwydd yn 90
oed.
Llongyfarchiadau i Mrs Gwynneth Harris a Mrs Hettie Williams. Rwy’n teimlo
bod
gyda ni achos i ddathlu achlysur bwysig rhywun neu’i gilydd bron bob mis;
daeth
pen-blwydd 80 oed yn ddigon cyffredin. Mae rhywun sy’n cyrraedd y 70 yn
llipryn
ifanc o hyd.
Dyna’r
priodasau wedyn. Pan oeddwn yn blentyn rwy’n cofio pobl briod yn
dweud
eu bod yn breuddwydio am gyrraedd y Briodas Ruddem, sef 40 mlynedd,
ryw
ddydd. Ffantasi fyddai priodas hwy na hynny. Ond bellach ry’n ni’n llawenhau
am
Briodas Aur neu Ddiemwnt rhyw bâr bob yn ail fis.
Diolch
i’r gwasanaeth iechyd a’i ofal amdanom am y gwelliannau hyn. Ffactor
arall
yw bod cymaint o’r hen swyddi peryglus, afiach, yn y gweithle wedi diflannu.
Ond
wrth i ni groesawu’r datblygiad, mae un ffaith yn ein sobri. Mae troseddau
yn
erbyn pobl oedrannus ar gynnydd, ac nid yw’r gyfraith yn eu hamddiffyn fel y
dylai.
Yn 2013-14 cofnododd yr heddlu yng Nghymru bron 19,000 achos o gamdrin
neu
drosedd yn erbyn pobol mewn oed. Ond dim ond 2,561 o bobl gafodd eu
harestio
amdanyn nhw. Gwaeth byth, dim ond 194 person a gafwyd yn euog yn y
llys
am y troseddau hyn.
Beth
yw’r rhesymau? Mae llawer o droseddau’n digwydd o fewn y teulu, a gall
fod
yn anodd profi euogrwydd ymysg aelodau teuluol. Nodir achosion eraill mewn
cartrefi
gofal lle mae’n anodd profi pwy sy’n gyfrifol.
Ond
un awgrym trist yw bod yr heddlu a’r system droseddol ddim yn cymryd
troseddau
yn erbyn hen bobol o ddifri. Mae’n ‘bwysicach’ datrys troseddau yn
erbyn
pobl ganol oed, neu bobl fwy cyfoethog, medd rhai.
Mae pobl mewn oed wedi rhoi
bywyd cyfan o wasanaeth i’w teuluoedd a’u cymunedau. Maen nhw’n haeddu’r gofal
gorau y gallwn ei roi iddyn nhw.
POB HWYL - ROBAT
YR ETHOLIAD ... A IESU
Myfyrdod gan Robat Powell, Arweinydd Capel y Nant, a gyhoeddwyd yn Bwrlwm, misolyn yr eglwys am fis Mai 2015
‘Petai Iesu’n byw heddi
bydde fe’n siŵr o wneud y peth a’r peth ..’
Mor
aml ry’n ni’n clywed brawddeg fel honna!
‘Dw
i hefyd wedi clywed rhai’n honni ‘y bydde Iesu’n siŵr o fotio dros ...’ y naill
blaid neu’r llall. Un peth sy’n sicr – petai teledu gan Iesu heddiw byddai fe
wedi dechrau blino ar y sôn di-baid am yr etholiad cyffredinol ar Fai 7. Mae chwech
wythnos o ymgyrch yn fwy na digon!
Roedd
math ar etholiad yn digwydd yn Israel yn amser Iesu. Senedd yr Iddewon oedd y Sanhedrin.
Roedd gan hwn hyd at 71 aelod a byddai trefi’r Iddewon yn ethol yr aelodau. Hwn
oedd yn penderfynu materion y Gyfraith i’r Iddewon.
Aeth
Iesu ar ei brawf o flaen y Sanhedrin a’r Archoffeiriad adeg y Pasg. Ond doedd
dim byd gan Iesu i’w ddweud wrth y Sanhedrin. Yn ei olwg ef, roedd awdurdodau’r
Iddewon, y Sanhedrin a sectau fel y Phariseaid, yn bwdr. Cadw llythyren y
Gyfraith oedd yn bwysig iddyn nhw. Ac anwybyddu cyfiawnder i’r bobl.
Felly,
beth am etholiad San Steffan ar Fai 7? ‘Dw i ddim yn credu y byddai Iesu’n
pleidleisio
dros neb. Yn Iesu roedd Duw ar waith – ac mae Duw yn berffaith. Cariad a
chyfiawnder llwyr yw Duw. Does yr un blaid na llywodraeth gwlad yn gallu dod yn
agos at berffeithrwydd Duw.
Gan
hynny, mae Iesu yn yr wrthblaid o hyd. Wrth weld y byd trwy Iesu gallwn weld
ffaeleddau
a phechodau pob llywodraeth. Ni allai Iesu fod yn rhan o’r un llywodraeth ar y ddaear.
Trwyddo ef gwelwn sut mae pobl yn cael cam – yn dlawd, yn cael eu camdrin, yn dioddef
ym mhob ffordd. Ond mae Iesu’n cynnig gobaith i’r rhain i gyd.
Trwy
ffordd Duw, nid ffordd y byd.
Ond
er nad yw Iesu’n mynd i bleidleisio, does dim esgus gyda ni! Dewiswn y blaid
sydd
agosa’ at neges y Testament Newydd. Un sy’n cefnogi cyfiawnder Cristnogol,
heddwch, a chymod rhwng y cenhedloedd. Un sy’n rhoi lles yr anghenus o flaen
lles y cyfoethog.
Cewch
chi benderfynu pa blaid yw honno. Cofiwch bleidleisio!
Pob hwyl,Robat
MYFYRDOD BWRLWM MAWRTH 2015
'GWNEWCH Y PETHAU BYCHAIN - A'U GWNEUD YN ONEST!'. MYFYRDOD ROBAT POWELL, ARWEINYDD CAPEL Y NANT, O BWRLWM MAWRTH 2015
Ydych chi’n cadw eich miliynau yn y cwtsh dan stâr?
Neu mewn banc fel HSBC?
Os
y’ch chi’n bancio eich milynau yn y Swistir gallwch gael gwasanaeth arbennig
gan y banciau yno.
Clywson
ni y mis hwn am wasanaeth Banc HSBC. Pobl Prydain yn bancio miliynau o bunnau gyda
nhw yn y Swistir, a’r banc yn eu helpu i beidio â thalu trethi ar eu hincwm.
Er enghraifft, y banc yn creu cwmni ffug i
rywun, y person yn symud ei arian o’r banc i’r cwmni a wedyn yn ‘benthyg’ yr
arian o’r cwmni i’w wario ym Mhrydain. Heb dalu ceiniog o dreth arno.
Mae
tua mil o gwsmeriaid cyfoethog iawn HSBC yn twyllo dyn y dreth fel hyn.
Clyfar
iawn? Wedi’r cwbl, dim ond y llywodraeth ry’ch chi’n eu twyllo. Nid pobl.
Ond
na!
Heb y trethi hyn mae llai o
arian gan y llywodraeth i’w wario ar ysgolion, ysbytai a ffyrdd. Gwasanaethau i
ni. Pobl gyffredin sy’n cael eu twyllo.
Mae
hanesion yn yr Hen Destament am dwyllo pobl gyffredin
hefyd. Hanes Samuel yn pe nodi ei
feibion yn farnwyr ar Israel,
a’r rhain ‘.. yn ceisio elw, yn derbyn
cil-dwrn ac yn gwy-ro barn.’
Hynny yw, rhowch arian yn eu pocedi cefn ac fe gewch
benderfyniad yn y llys barn o’ch plaid
chi.
Mae’r proffwyd Micha’n disgrifio’r twyll
ym myd masnach. Mae’n
gofyn: ‘.. A anghofiaf enil-lion twyllodrus yn nhŷ’r
twyllwr a’r mesur
prin sy’n felltigedig? A oddefaf gloriannau twyllodrus
..?’
Dyma’r
dynion busnes yn defnyddio pwysau anghywir yn y glorian fel
bod cwsmeriaid yn cael llai o nwyddau am eu harian.
‘Does
dim byd newydd o dan yr haul – yn y flwyddyn 500 Cyn Crist neu 2015 Oes Crist! Nid
pobl yn casglu cyfoeth yw’r gofid. Ond pobl yn casglu cyfoeth trwy dwyllo
eraill.
Mae
Teyrnas Dduw yn addo byd teg a chyfiawn i ni. Ond rhaid i ni chwarae ein rhan
hefyd.
Rhaid bod yn deg a gonest ag
eraill yn y pethau bychain yn ein
bywydau ein hunain. A dyna
neges Dewi Sant i ni hefyd.
MYFYRDOD AREINYDD CAPEL Y NANT, ROBAT POWELL, O BWRLWM, CHWEFROR 2015 ... GAN YSTYRIED DYFODOL BWRLWM
ALLWCH chi ddim dibynnu ar lawer o bethau yn eich bywyd. Ond oddi ar
sefydlu Capel y Nant gallen ni ddibynnu ar un peth; bydd ‘Bwrlwm’ yn cwympo
trwy’r blwch llythyrau ddeng gwaith y flwyddyn.
Felly, cawsom sioc yn y Grŵp
Cyhoeddusrwydd ym mis Ionawr. Dywedodd Hywel fod yn rhaid iddo roi’r gorau i
gynhyrchu ‘Bwrlwm.’
Mae pawb wedi canmol ‘Bwrlwm.’
Mae’n lliwgar ac yn llawn newyddion am yr eglwys. Mae’n dweud beth sy wedi
digwydd a beth sy’n mynd i ddigwydd. Mae’n cario lluniau o’n haelodau a’n
plant. Mae’n ein cadw i gyd mewn cyswllt â’r eglwys, ac â’n gilydd.
Ond ydyn ni’n sylweddoli faint o
waith yw cynhyrchu’r cylchgrawn? Rhaid ysgrifennu’r darnau a’u casglu ynghyd.
Gosod y cyfan yn drefnus ar gyfrifiadur. Cael lluniau. Atgoffa pobl esgeulus
sy’n anghofio anfon eu darnau i mewn! Yna anfon y copi cywir at Gareth yng Ngwasg
Morgannwg, casglu’r copïau, eu rhoi yn yr amlenni a’u postio.
Mae’r rhan fwyaf o’r gwaith yn
syrthio ar ysgwyddau Hywel. Oriau lawer bob mis. Ar ôl saith mlynedd, mae Hywel
am fwynhau tipyn o orffwys haeddiannol rhag y pwysau. Y cyfan gallwn ni’i dweud
yw: Diolch, Hywel, diolch am bopeth!
Ond beth am y dyfodol? Mae’n
bwysig bod rhywbeth yn mynd at ein haelodau i’w clymu at eu gilydd a rhoi
gwybodaeth am fywyd yr eglwys. Mae nifer o bosibiliadau: parhau i gynhyrchu ‘Bwrlwm’ ar yr un patrwm –
cynhyrchu ‘Bwrlwm’ bob dau fis – creu papur llai o faint a symlach, ac yn y
blaen. Bydd rhaid trafod y dewisiadau.
Ond beth bynnag fydd y dewis, mae
un peth yn sicr: bydd angen pobl arnon ni i helpu!
I helpu
ysgrifennu, rhoi’r papur at ei gilydd a’i anfon at yr aelodau. Mae digon o
ddoniau yng Nghapel y Nant i wneud hyn. Ond rhaid bod yn barod i dorchi llewys,
os dim ond am awr neu ddwy bob mis.
Ydych
chi’n gallu helpu? Byddwn yn trefnu cyfarfod ym mis Chwefror i drafod y ffordd
ymlaen. Gobeithio gallwch chi fod yno!
MYFYRDOD RHAGFYR 2014 IONAWR 2015
MYFYRDOD GAN ROBAT POWELL, ARWEINYDD CAPEL Y NANT, O RIFYN RHAGFYR 2014 A IONAWR 2015 O BWRLWM, CYLCHLYTHYR MISOL YR EGLWYS: WEDI TRISTWCH Y CAPELI SY'N CAU, GOBAITH GYDA GWYL Y GENI
MIS Tachwedd ces i swydd newydd. Ces
fy ethol yn Gadeirydd Cyfundeb
Annibynwyr Gorllewin Morgannwg. Ac rwy’n gwerthfawrogi’r fraint o geisio rhoi
rhyw arweiniad i eglwysi Annibynnol Gorllewin Morgannwg.
Ond mae fy mis cyntaf yn y swydd yn ddigon i dorri calon rhywun.
Oherwydd yn ystod y mis Rhagfyr hwn bydd dwy o eglwysi Annibynnol y Cyfundeb yn
cau ac yn cael eu datgorffori - Bryn-teg, Gorseinon, a Soar, Blaendulais. Ar
ben hynny, ym mis Ionawr daw datgorffori Capel Carmel, Gwauncaegurwen.
Yn wyneb yr arwyddion hyn o’r trai yn ein crefydd, byddai’n hawdd
digalonni. Mae hi fel petai’r nosau cynnar sy’n dod drosom ni bob mis Tachwedd
yn tynnu’r llenni dros ein Ffydd Gristnogol hefyd.
Ond arhoswch funud! Erbyn i chi ddarllen y
‘Bwrlwm’ hwn, bydd Sul cyntaf yr Adfent wedi cyrraedd. Yr Adfent, y pedair
wythnos cyn y Nadolig, sy’n nodi dechrau Blwyddyn yr Eglwys. Na, nid adeg y
Pasg a bywyd newydd y gwanwyn. Nid adeg y Sulgwyn gyda dyfodiad yr Ysbryd Glân,
ond yr Adfent. Pryd mae’r dyddiau’n byrhau a’r tywyllwch yn bygwth hawlio’r
byd.
Oherwydd dyna’r gobaith mae ein Ffydd yn ei roi i ni. Pan fydd y byd
yn edrych mor ddu, mae’r Eglwys yn ein hannog i edrych ymlaen. Edrych tuag at y
Nadolig a dyfodiad Crist. Edrych ymlaen at y goleuni a ddaeth i’r holl wledydd
ym Methlehem, ac a ddaw bob blwyddyn gyda’r nerth i drawsnewid y byd.
Ychydig wythnosau cyn i eglwys Bryn-teg gau ei drysau am byth, roedd
ein cyfeillion yno’n codi rhai o’u pobl ifainc yn aelodau cyflawn. Dyna
ddatganiad o ffydd a hyder! Er bod yr hen achos yn diflannu, bydd y bobl ifainc
hynny’n cario fflam eu Ffydd ymlaen i’r eglwysi eraill ble byddan nhw’n addoli
yn y dyfodol.
Yn ystod mis Rhagfyr byddwn ninnau yng
Nghapel y Nant yn cyhoeddi ein hyder i’r byd hefyd. Yn ein hoedfaon, yn ein
carolau, ac yn ein cymdeithasu â’n gilydd, dangoswn ein cryfder a’n
penderfyniad i gerdded yn llawn egni a gobaith i Flwyddyn Newydd yr Eglwys.
Deuwn
i addoli gyda'n gilydd! Nadolig Llawen i bob un!
MYFYRDOD GAN ROBAT POWELL, ARWEINYDD CAPEL Y NANT, O BWRLWM, MIS HYDREF 2014 : Y Ffydd sy'n gallu ein cynnal - IE neu NA?
MAE’N amhosib gweld ffydd. Allwch chi
ddim ei phwyso na’i mesur hi. Ond gallwch weld effaith ffydd. Mae prosiectau
mawr yn cael eu seilio ar ffydd weithiau.
Ers dwy flynedd buon ni’n gwrando ar y ddadl dros annibyniaeth i’r
Alban.
Roedd cefnogwyr ‘IE’ yn dweud y byddai Alban annibynnol yn wlad fwy
teg a mwy llwyddiannus. Doedden nhw ddim yn gallu profi hynny. Ond roedd ffydd
gyda nhw. Roedd cefnogwyr ‘NA’ yn mynnu y byddai’r Alban yn fwy diogel trwy
aros yn y Deyrnas Unedig. Doedd dim ffydd gyda nhw yn nyfodol Alban annibynnol.
Roedd Alastair Darling, Gordon Brown a’r ymgyrch ‘NA’ yn dweud ei
bod yn rhy beryglus mynd ymlaen ar sail eich ffydd yn unig. Wrth gwrs, os oes
gyda chi deulu a thŷ, mae’n rhaid bod yn ofalus ohonyn nhw. Ond heb ffydd, a
heb fentro ambell waith ar sail eich ffydd, fyddwch chi’n cyflawni dim byd o
werth.
Mae’r Efengyl yn llawn enghreifftiau o bobl yn gweithredu trwy
ffydd. Byddai pobl sâl yn dod at Iesu yn eu ffydd gadarn y bydden nhw’n cael eu
gwella. Fyddai Iesu ddim yn eu siomi nhw.
Cawn un hanes am swyddog ym myddin Rhufain. Roedd gwas hwn yn
ddifrifol wael, a doedd e ddim am ofyn i Iesu ddod i’w dŷ. Dim ond i Iesu
ddweud gair, meddai, heb weld y gwas hyd yn oed, roedd yn hyderus y byddai ei
was yn cael ei iacháu. Synnodd Iesu. Dywedodd nad oedd wedi profi’r fath ffydd
gan neb yn Israel. A chafodd gwas y swyddog ei wella.
Ry’n ni’n gallu rhoi ffydd mewn llawer o bethau – yn ein gallu ein
hunain, yn nhalentau pobl eraill, ym mhotensial gwlad. Ond y sail gryfaf i’n
gweithredu ni yw Ffydd yn Nuw a ffordd Iesu. Gall y Ffydd honno symud
mynyddoedd. Gallwn bwyso arni a chodi cymdeithas newydd arni.
Dyna’r Ffydd sy’n drech nag unrhyw ymgyrch
‘NA’ !
Myfyrdod gan Robat Powell, Arweinydd Capel y Nant,
o Bwrlwm, Medi 2014: Cyfrifoldeb arnom i sicrhau heddwch yn y Dwyrain Canol
GOBEITHIO i chi gael egwyl braf rywle dros yr haf. Mae’nbraf cael anghofio gofidiau am sbel cyn dod nôl i’r byd go iawn yn ffresh. A dyw’r byd ddim yn lle dymunol ar hyn o bryd.
Y Dwyrain Canol. Mae’n bell o Gymru. Er hynny, trwy’r Beibl ry’n ni mor gyfarwydd ag enwau fel Jerwsalem a Phalesteina, yr Aifft a Libanus. Cartref Abraham oedd dinas Ur, ble mae Basra yn Irac heddiw.
Mae cyflwr y Dwyrain Canol heddiw yn torri calon rhywun. Yn Libya mae sawl milisia’n ymladd yn erbyn ei gilydd. Yn yr Aifft mae’r Fyddin yn llywodraethu’n llym. Israel yn bomio Gaza. Rhyfel yn Syria. A bellach mae mudiad yr
Islamic State
yn concro rhannau o Irac ac yn lladd pobl sy’n meddwl yn wahanol iddyn nhw.
Beth allwn ni, fel Cristnogion, wneud i ddatrys y problemau? Gwraidd y drwg yw bod y pobloedd Arabaidd ddim wedi cael y rhyddid i ddatblygu eu cymdeithas eu hunain. Buon nhw dan sawdl yr Ymerodraeth Ottoman, Twrci, am ganrifoedd. Ar ôl 1830 cawson nhw eu coloneiddio neu’u rheoli gan wledydd Ewrop fel Prydain, Ffrainc a’r Eidal. Yn ystod y Rhyfel Oer roedd America a’r Undeb Sofietaidd yn defnyddio’r gwledydd Arabaidd yn erbyn ‘yr ochr arall.’ Byddent yn cefnogi unbeniaid creulon am eu bod yn wrth-Gomiwnyddol neu’n wrth-Americanaidd.
Ond allwn ni ddim troi’r cloc yn ôl. Rhaid dechrau ble ry’n ni nawr. Ac mae gyda ni gyfrifoldeb i geisio datrys y problemau ry’n ni wedi helpu’u creu.
Byddai’n braf gweld yr Eglwysi Cristnogol yn gwasgu ar eu llywodraethau - yn y Gorllewin a Rwsia - i wneud y pethau iawn. Mae’r sefyllfa’n gymhleth. Ond mae angen dilyn rhai egwyddorion pwysig. Ni ddylai gwledydd y Gorllewin fynd i ryfel yno eto, fel yn Irac. Dylen ni weithio trwy’r Cenhedloedd Unedig i gael atebion. Dylen ni anfon help dyngarol ble bynnag mae pobl yn dioddef. Ni ddylen ni roi cymorth ond i wledydd sy’n parchu hawliau dynol i bawb – yn cynnwys hawliau i’r Palestiniaid.
A rhaid derbyn bod tir ac olew y Dwyrain Canol yn perthyn i’r cenhedloedd sy’n byw yno – nid i ni!
Bydd y ffordd yn anodd ac yn faith. Ond dyna’r unig ffordd tuag at heddwch a chyfiawnder i bawb
.
Pob hwyl, Robat
Myfyrdod Awst / Gorffennaf 2014
CWPAN Y BYD YN WERS I NI, BOB UN
o Bwrlwm, Awst / Gorffennaf 2014, gan Robat Powell
YDYCH chi wedi troi’r teledu ymlaen y dyddiau diwetha
hyn? Os do, ry’ch chi naill ai wrth eich bodd neu’n rhegi dan eich gwynt!
Pêl-droed o fore gwyn tan nos, a Chwpan y Byd yn ei anterth ym Mrasil.
Ond p’un ai ydych chi’n hoff o
bêl-droed neu beidio, gallwn ni i gyd ddysgu gwersi pwysig o’r gemau hyn.
Yn gyntaf, gêm i’r tîm yw
pêl-droed – a bywyd hefyd! Mae hyd yn oed Neymar neu Messi’n ffaelu sgori gôl
os na fydd rhywun yn pasio’r bêl iddyn nhw.
Fel yna mae bywyd eglwys hefyd.
Ry’n ni’n dibynnu ar ein gilydd mewn tîm mawr. Mae’r pregethwr yn methu cynnal
gwasanaeth heb fod rhywun yn canu’r organ. Mae’n anodd creu naws briodol os na
fydd neb yn croesawu wrth y drws neu’n dod â’r blodau. Ni allwn addoli os nad
yw’r adeiladau’n ddiogel. Mewn tîm y mae llwyddo, ac mae gan bob un aelod ei
gyfraniad.
Yn ail, mae ail gyfle i bawb.
Ydyn, mae tîm Lloegr druan wedi colli ac wedi troi am adre’n gynnar. A Sbaen.
A’r Eidal. Ond ym mis Medi byddan nhw’n chwarae eto pan fydd Pencampwriaeth Ewro
2016 yn dechrau. Waeth pa mor wael ry’ch chi’n perfformio heddiw, fe ddaw cyfle
arall.
Yn ein bywydau
ninnau, mae pob un ohonom yn methu weithiau. Dweud y peth anghywir. Anghofio
rhywbeth pwysig. Brifo person arall. Bradychodd Pedr Iesu dair gwaith cyn
caniad y ceiliog, ond daeth cyfle iddo brofi ei Ffydd yn nes ymlaen. Ac fe
lwyddodd.
Yn drydydd, mae Cwpan y Byd yn
dangos amrywiaeth ryfeddol y byd a roddodd Duw i ni. Gwelwn bobl o bob iaith,
lliw croen, hil a chrefydd yn cystadlu gyda’i gilydd ac yn mwynhau eu hunain yn
y dyrfa sy’n gwylio. Mae’r amrywiaeth yn wych.
Dengys Cwpan y Byd fod lle pwysig i
bawb yng nghread Duw - gwledydd cyfoethog, cryf fel Yr Almaen a Ffrainc,
gwledydd wedi’u rhwygo gan ryfel fel Bosnia, a gwledydd tlawd fel Honduras
neu’r Traeth Ifori. Pawb yn perthyn i’r un byd. Byd Duw.
Ac efallai bydd tîm
Cymru yno y tro nesa!
Y Pab Ffransis - awel iach trwy Eglwys Rhufain
Myfyfyrdod Robat Powell, Arweinydd Capel y Nant, yn rhifyn Mehefin o'n taflen fisol 'Bwrlwm':
FEL Protestaniaid, fuon ni erioed yn
agos iawn at yr Eglwys Gatholig. Mae gwahaniaethau mawr rhyngon ni.
Wrth ymweld â’r
eglwysi cadeiriol mawr yn Sbaen a’r Eidal, ry’n ni’n synnu at yr aur a’r arian
sy’n eu haddurno. Cymaint o gyfoeth, er bod cymaint o dlodi yn y byd. Mae’r
Pab, fel pennaeth Eglwys Rhufain, yn aml dan y lach gyda ni’r Protestaniaid.
Ond mae’n bosib bod y
ddaear yn dechrau symud. Dim ond ers blwyddyn bu’r Pab Ffransis yn ei swydd.
Ond mae e’n dechrau siarad yn wahanol a gwneud pethau’n wahanol.
Nid dyn ifanc tanllyd
mohono – mae e’n 78 oed! Ond daeth i’r swydd o gefndir ots i’r arfer. Dyma’r
Pab cynta o’r Ariannin, y cynta erioed o’r Americas. Ni ddaeth yn offeiriad nes
ei fod yn 33 oed. Bu’n gweithio cyn hynny fel technegydd cemegol a bownsar clwb
nos! Gwelodd e ddigon ar fywyd, felly.
Mae Ffransis yn byw
bywyd llawer symlach na’r Pabau eraill. Dewisodd fyw mewn tý yn lle yn y Palas
Apostolaidd yn y Fatican. Mae e’n gwisgo llai o addurniadau.
Yn barod, mae e’n codi
ei lais dros y rhai tlawd ac anghenus. Mae e wedi lladd ar y cwmnïau mawr,
rhyngwladol, am drin eu gweithwyr yn annheg. Dyw e ddim yn boblogaidd gan rai o
gorfforaethau mawr America oherwydd hynny.
Yn ei bregethu, mae
e’n pwysleisio dangos trugaredd i bobl a wnaeth ddrygioni. Mae’n gryf o blaid
heddwch. Yr wythnos ddiwetha, ar ei ymweliad ag Israel, aeth i weddïo wrth
droed y Wal fawr a gododd Israel i’w gwahanu rhag y Palestiniaid. Gwahoddodd
arweinwyr Israel a’r Palestiniaid i aros gydag e i drafod y gwrthdaro.
Na, dyw e ddim wedi
cyffwrdd â’r cwestiynau ble bu’r Eglwys Gatholig mor styfnig – hawliau pobl
hoyw, atal cenhedlu, ordeinio merched, erthylu. Ond gall fod newid yn y gwynt.
Un mater pwysig i
Gatholigion yw newid y drefn i ganiatáu i rai dderbyn y Cymun ar ôl cael
ysgariad. Gall Ffransis wneud datganiad am hyn yn yr hydref.
‘O Arglwydd, dyro awel, a honno’n awel gref ..’
meddai’r emynydd.
Efallai taw’r Pab Ffransis yw’r awel iach honno yn Eglwys
Rhufain.
MYFYRDOD GAN ROBAT POWELL, O BWRLWM EBRILL 2014 Cynnal ein gilydd - i leihau'r ansicrwydd sy'n peri poen
ANSICRWYDD. Ddim yn gwybod. Dyna sy’n cadw pobl ar
ddi-hun.
Mae
rhai ohonon ni’n byw ar bigau drain y dyddiau hyn trwy ansicrwydd am y
Swans
! Ydyn nhw’n mynd i aros yn yr Uwch-Gynghrair neu ddim? Mae’n anodd
cysgu’r nos!
Ond rhywbeth dibwys yw
pêl-droed yn y bôn. Mae ansicrwydd llawer gwaeth i’w gael.
Yn ddiweddar bu dros 200
o deuluoedd yn dioddef ansicrwydd ofnadwy gan fod eu hanwyliaid ar fwrdd taith
MH370 – awyren
Malaysian
Airlines
oedd ar goll
am bythefnos.
Dychmygwch eu poen
meddwl. Clywed bod yr awyren wedi diflannu – y sioc. Efalle bod yr awyren wedi
glanio rhywle – y gobaith. Amser yn mynd heibio – oedden nhw’n fyw neu’n farw?
Yna clywed am y darnau bach yn y môr, ac o’r diwedd y gair bod y Boeing 777
wedi cwympo i’r môr.
Newyddion erchyll oedd y
newydd olaf. Ond o leiaf maen nhw’n gwybod, ac yn gallu galaru.
Bu rhai o aelodau Capel y Nant mewn gwewyr ansicrwydd yn
ddiweddar hefyd. Roedd y rhain yn wynebu llawdriniaeth yn yr ysbyty. Yn llawn
gofid naturiol. Fyddai popeth yn dda, neu ddim?
Pan fydd eraill mewn gwewyr meddwl fel hyn, mae angen eu
cefnogi. Ond mae’n anodd gwybod beth i’w ddweud. Y demtasiwn yw dweud:
‘Peidiwch â becso, aiff popeth yn iawn.’ Ond ydy hynny’n onest? Ydy hynny’n rhy
hawdd? Dydyn ni ddim yn gwybod mwy na nhw.
Ond mewn un peth ry’n ni’n gallu rhoi sicrwydd i’r sawl
sy’n dioddef. Gallwn roi sicrwydd ein bod yn meddwl amdanyn nhw, ein bod yn eu
cadw nhw yn ein gweddïau. Y byddwn ni gyda nhw bob cam o’r ffordd.
Ac mae gwybod hynny’n gallu rhoi nerth a
hyder i’r person arall. Yr hyder bod cariad pobl eraill o’n cwmpas ni bob
amser. Cariad Duw ar waith yw hynny. Y cariad sy’n rhoi sicrwydd bob amser.
Gyda llaw, peidwch â cholli cwsg achos y
Swans
– byddan nhw’n aros lan!
MYFYRDOD GAN ROBAT POWELL, O BWRLWM CHWEFROR 2014
DYW hi ddim mor hawdd cael eich trin yn yr ysbyty y
dyddiau hyn. Gohirio sawl llawdriniaeth. Gwelyau’r ysbytai’n llawn. Mae rhai
ysbytai cymunedol, fel Gelli Nudd, wedi cael eu cau, er mwyn arbed arian.
Mae’n
anoddach, hefyd, os ydych chi’n gofalu am aelod o’r teulu gartref. Mae’r
Ganolfan Ddydd yn bwysig iawn. Gall person fynd yno am rai oriau er mwyn i’r
gofalwyr gael seibiant. Mae pobl oedrannus yn cael cwrdd â ffrindiau yno.
Ond erbyn hyn mae llai o gyfle i gael lle mewn Canolfan Ddydd neu
respite
. Mae’r cynghorau’n cau rhai. Yma yng Nghlydach mae dyfodol Forge Fach
yn y fantol. Mae teuluoedd yn pryderu.
Mae gofalu am y gwan a’r claf yn rhan o’r genhadaeth Gristnogol. Felly,
beth allwn ni wneud yn wyneb y toriadau difrifol hyn?
Y cynghorau a’r byrddau iechyd sy’n torri’r gwasanaethau, felly gallwn
wasgu ar ein cynghorwyr. Ond maen nhw’n dweud bod Llywodraeth Cymru yn rhoi
llai o arian iddyn nhw. A Llywodraeth Llundain sy’n rhoi llai o arian i Gymru!
Felly, mae’n bwysig ysgrifennu a gwasgu ar ein haelodau seneddol.
Ond mae’r angen gyda ni nawr, ar garreg ein drws. Yng Nghapel y Nant, bu’r
Grŵp Eglwys a Chymdeithas a’r Pwyllgor Gwaith yn trafod y broblem. Rydyn ni
wedi ysgrifennu at ein cynghorwyr lleol.
Ond mae angen gwneud rhywbeth ymarferol
hefyd. Un syniad yw creu canolfan hanner-dydd yma – ‘Prynhawn Pawb.’ Agor y
neuadd un prynhawn a gwahodd ein haelodau oedrannus i mewn am baned a sgwrs.
Gallwn ddod â nhw yn ein ceir. Gallant ddod â’u ffrindiau hefyd.
Os bydd y tro cyntaf yn llwyddiannus,
gallwn geisio cynnal y ‘Prynhawn Pawb’ bob mis neu bob pythefnos. Wrth gwrs,
bydd angen rhai o’n haelodau yn y neuadd hefyd, i gadw llygad ar yr ymwelwyr a
gwneud paned iddyn nhw.
Mae’n syniad cyffrous. Mwy o waith i ni,
ond dyna pam mae’r Eglwys yn bod! I wasanaethu. I helpu cynnal y rhai mewn
angen.
Fyddech chi’n barod i helpu gyda’r cynllun bob hyn a hyn?
Bydd mwy o drafod ar y mater cyn bo hir!
MYFYRDOD GAN ROBAT POWELL, O BWRLWM, TACHWEDD 2013 Dod a goleuni i fywydau'r oedrannus
MAE dydd Sul olaf mis Hydref yn garreg
filltir bob blwyddyn. Oherwydd am 1.00 y bore hwnnw rydym yn troi’r cloc yn ôl
un awr. Byddwn yn tynnu’r llenni un awr ynghynt wrth iddi dywyllu tu allan.
Roedd hen fodryb i fi’n arfer dweud bod troi’r cloc yn ôl
yn codi ofn arni. Roedd hi’n teimlo bod y nos a’r gaeaf yn cau amdani. Mae
llawer o hen bobl yn teimlo’r un peth o hyd, yn enwedig os ydyn nhw’n byw
wrthynt eu hunain. A’r tywyllwch yn hirhau, maen nhw’n methu mynd allan gyda’r
nos. Bydd llai o bobl yn galw arnyn nhw gyda’r hwyr. Maen nhw’n fwy unig ac
ynysig.
Os y’ch
chi’n teimlo yr un fath, gallwch feio dyn o’r enw William Willett. Hyd at 1916
roedd Prydain yn cadw’r un amser GMT drwy’r flwyddyn. Ond adeiladwr oedd Mr
Willett. Roedd e am i’w weithwyr gael mwy o amser yn yr haf i weithio gyda’r
hwyr, felly dechreuodd ymgyrch i gyflwyno BST – Amser Haf Prydain. Oddi ar
1916, felly, buom yn troi’r cloc ymlaen ar Sul olaf mis Mawrth, ond yn ôl ar
ddiwedd Hydref.
Mae llawer o bobl oedrannus yn digalonni
pan ddaw’r gwyll yn gynnar o fis Tachwedd ymlaen. Mae’n bwysig, felly, ein bod
yn ymdrechu i godi eu calonnau. Bydd galw ar ein cymdogion hŷn am ddim ond rhyw
ddeng munud yn gwella eu hwyliau. Os na allwch alw, bydd galwad ffôn yn dangos
iddynt fod pobl eraill yn meddwl amdanyn nhw.
Mae ein
Grŵp Bugeilio yn y capel yn cadw golwg ar ein haelodau mwy bregus, a diolch
iddyn nhw am hynny. Ond mae pawb ohonom yn gallu chwarae ein rhan hefyd.
Sul cyntaf Rhagfyr eleni fydd dechrau’r Adfent. Pedwar
Sul o gynnau’r canhwyllau yn yr oedfaon, wrth i ni ddisgwyl yn eiddgar am y
goleuni mawr a ddaw i’r byd adeg Nadolig. Dyma’r goleuni sy’n codi’r gwyll oddi
amdanom ac yn llewyrchu ar y ffordd ymlaen.
Ond gallwch ddod â’ch goleuni eich hunain
i fywyd yr oedrannus hefyd. Cofiwch amdanyn nhw!
DAW GOBAITH TRWY SIARAD - NID CLATSIO! gan Robat Powell yn Bwrlwm Hydref 2013
I
RAI
pobl, y ffordd orau i dorri dadl yw clatsio. Mae bwrw’r person arall yn haws na
rhesymu.
Bob nos Sadwrn bydd pobl ifanc yn ymladd â’i gilydd yng nghanol Abertawe a
Chastell-nedd. Yn Llundain, byddwn yn clywed bron bob mis am fachgen ysgol yn
cael ei drywanu â chyllell. Mewn rhai rhannau o’r byd mae mwy o ddrylliau nag o
bobl.
 dryll neu gyllell yn ei law, gall dyn deimlo’n gryf. Mae gwledydd yn
gallu bihafio yr un ffordd â’r bobl hyn. Gall fod yn haws bomio gwlad arall na
siarad â hi. Os bydd pobl yn protestio yn erbyn llywodraeth, fel yn yr Aifft,
mae’n haws eu saethu na dadlau gyda nhw.
Yn ystod mis Medi bu dwy esiampl erchyll arall o ddefnyddio trais. Yn
Peshawar, Pacistan, cerddodd dau hunanfomiwr i ganol eglwys a ffrwydro eu
hunain. Lladdwyd rhyw 80 o Gristnogion. Yn Nairobi, Cenia, ymosododd y grŵp
Islamaidd Al-Shabab ar ganolfan siopa a lladdwyd rhwng 70-100 o bobl yn yr
ymladd yno. Weithiau gallwn anobeithio na ddaw diwedd byth i’r trais hwn.
Ond y mis hwn daeth gobaith i’r byd hefyd. Y man cychwyn oedd Tŷ’r
Cyffredin yn Llundain yn pleidleisio 285-272 yn erbyn ymosod ar Syria. Yn sgîl hyn,
tynnodd yr Arlywydd Obama nôl o daro Syria, a phenderfynu cael pleidlais yn y
Gyngres yn Washington. Yna, cynigiodd Rwsia y gallai Syria ildio ei harfau
cemegol. Yn sydyn, roedd y gwledydd yn siarad yn lle bygwth ei gilydd.
Mae pethau eraill ar gerdded hefyd. Prif weinidog Iran, Hassan Rouhani, yn
dweud ei fod am drafod gyda’r Americanwyr. Yr Arlywydd Assad yn cyfaddef na all
neb ennill y rhyfel yn Syria. Mae’n amhosib rhagweld beth fydd canlyniad hyn i
gyd. Ond mae teimlad bod creigiau mawr yn dechrau symud. Mae’r gwledydd yn
dechrau siarad yn lle saethu.
Fel yr ysgrifennodd yr apostol Paul at yr eglwys yn Rhufain: ‘‘Peidiwch â thalu drwg am ddrwg i neb
...Trecha di ddrygioni â daioni.” Tybed a yw’r gwledydd yn gwrando o’r diwedd?
Ac efalle daw heddwch i Wind Street ar
nos Sadwrn hefyd!
DAU NOD NEWYDD I GAPEL Y NANT - gan ROBAT POWELL YN BWRLWM, MEDI 2013
“CROESO Medi, fis fy serch, mis y porffor ar y ffriddoedd ..” Fel yna
canodd Eifion Wyn i’r mis ‘clir fel grisial.’
Dyw pawb ddim yn croesawu’r mis yma. Mae
haf arall ar ben. Mae’n tywyllu’n gynt ac mae llai o liw yn ein gerddi. Ond
gobeithio eich bod wedi cael gwyliau da neu o leiaf peth amser oddi cartref a
bod y batris wedi’u llenwi eto gyda chi!
Mae Capel y Nant wedi cael ychydig o
seibiant hefyd dros fis Awst. Dim ond un oedfa bob Sul, a dim gwasanaeth o gwbl
yma un wythnos pan aethom ar y Bererindod. Ond mae’r capel hefyd bellach yn
barod i fynd ati gydag egni newydd!
Ar ddechrau tymor arall, mae dewis gan
bob capel ac eglwys. Naill ai rhygnu ymlaen yn yr un ffordd, neu gosod nodau
newydd i gyrchu atyn nhw. Yng Nghapel y Nant rwy’n gweld dau nod pwysig i’w
cyflawni cyn y gwyliau haf nesaf.
Y cyntaf yw cynyddu ein haelodaeth. I’r
perwyl yma bydd y Grŵp Addysg yn ymweld â nifer o deuluoedd lleol y mis yma i
wahodd eu plant i’r Ysgol Sul a’r rhieni i’r oedfaon. Byddwn yn cynnal noson
arbennig i deuluoedd newydd ar nos Iau, Hydref 10, yn neuadd y capel, yn
cynnwys oedfa fer a thipyn o hwyl i bawb.
Gall pob aelod chwarae ei ran hefyd. Os
ydych chi’n nabod aelodau eraill sydd ddim yn troi i mewn i’r cwrdd fel o’r
blaen, neu yn nabod pobl sy ddim yn addoli yn unman, beth am gael gair bach a’u
gwahodd i un o’r oedfaon gyda chi? Gallwn gryfhau’r eglwys gyda’n gilydd.
Yr ail nod yw gwneud y gwelliannau yn
neuadd y capel. Diolch i waith David Waghorn, mae cynlluniau gyda ni. Ceisio am
grantiau yw’r dasg nawr. Y nod yw cael adeiladwyr i mewn rywbryd yn y Flwyddyn
Newydd.
Mawr obeithio y byddaf yn gallu
ysgrifennu yn
‘Bwrlwm’
ymhen blwyddyn fod gyda ni neuadd o
safon, gyda chegin a chyfleusterau newydd. Bydd ar gael i’w defnyddio nid yn
unig gan gynulleidfa Capel y Nant a’r Eglwys Wesle, ond hefyd gan grwpiau yn y
gymuned.
Trwy wasanaethu’r gymuned yn well,
byddwn hefyd yn gwasanaethu Duw ac yn cyflawni ei ewyllys.
Ie, ‘Croeso Medi’ yn wir! Gadewch i ni
gamu ymlaen gyda’n gilydd.
Pob hwyl, Robat
Myfyrdod Robat Powell, Arweinydd Capel y Nant, o Bwrlwm, Gorffennaf /Awst 2013
MANNING A SNOWDEN - GWRANDO AR EU
CYDWYBOD A GWNEUD YR HYN SYDD DDA?
Ydyn ni’n gwybod y gwahaniaeth rhwng da a drwg?
Pan oedden ni’n
blant, ein rhieni oedd yn dweud. Taflu carreg –
“Mae hynny’n ddrwg!”
Sychu traed cyn mynd i’r tŷ –
“ ’Na ferch dda!”
Pan aethom i’r ysgol daeth hi’n fwy
cymhleth. Roedd pob math o hwyl yn ‘ddrwg’, rywsut, a’r pethau anodd oedd yn
‘dda’ – fel swotio cyn arholiad!
A ninnau’n oedolion, i
lawer ohonom y gyfraith sy’n dweud wrthon ni beth yw beth. Os yw’r gyfraith yn
dweud
“Na!”
, dyna’r pethau drwg. Digon syml.
Ond weithiau ... Yn
llyfr Daniel yn yr Hen Destament gwnaeth Dareius, brenin Babilon, gyfraith
newydd. Doedd neb i fod i weddïo ar unrhyw dduw ond Dareius ei hun. Y peth da,
felly, oedd gwneud hynny. Ond roedd Daniel, Iddew yn Babilon, yn mynnu gweddïo
ar Dduw Israel. Gwrandawodd ar ei Dduw ac ar ei gydwybod. Ond torrodd y
gyfraith. Ei gosb oedd cael ei daflu i ffau’r llewod. A wnaeth Daniel beth
drwg? Naddo, dwedwn ni. Daeth o ffau’r llewod yn fyw, arwydd Duw iddo wneud y
peth da. Cyfraith Duw yn uwch na chyfraith dyn.
Ond
hen stori yw hanes Daniel. Allai peth o’r fath ddim digwydd heddiw, does posib?
Ym Mehefin, roedd y
milwr Bradley Manning yn sefyll ei brawf yn America. Yn 2009 -10 dyma Manning
yn rhyddhau cannoedd o filoedd o negeseuon ebost llywodraeth America yn dangos
sut roedd yr UDA wedi ymosod ar dargedau yn Irac ac Affganistan, lladd
sifiliaid, poenydio carcharorion a thwyllo eu ffrindiau mewn gwledydd eraill.
Mae e’n cael ei gyhuddo o ‘ddwyn gwybodaeth gudd’ a ‘helpu’r gelyn.’ Mae’n
wynebu 20 mlynedd o garchar.
Y mis yma hefyd, roedd
America’n ceisio dal Edward Snowden, sydd wedi rhyddhau gwybodaeth yn dangos
sut mae America’n sb
ï
o ar wledydd cyfeillgar eraill. Dangosodd hefyd sut mae GCHQ ym
Mhrydain yn clustfeinio ar ebost a ffonau pawb ym Mhrydain.
Mae
Manning a Snowden wedi torri cyfraith eu gwlad. Peth drwg, felly? Neu, fel
Daniel, a ydyn nhw wedi gwrando ar eu cydwybod a gwneud y peth sy’n dda ac yn
gywir? Cyfraith Duw neu gyfraith dyn – pa un sy’n cyfrif?
A thybed a fyddan
nhw, fel Daniel, yn dod o ffau’r llewod yn iach ac yn rhydd?
Pob hwyl, Robat
Myfyrdod Robat Powell, Arweinydd Capel y Nant, o Bwrlwm, Mehefin 2013
BLE MAE'R GWIR YN EIN GEIRIAU?
M
AE geiriau’n ddiddorol. Gyda geiriau gallwn
ddweud yn glir beth rydyn ni’n ei feddwl. Ond weithiau bydd geiriau’n cuddio
beth rydyn ni’n ei feddwl.
Dangosodd George Orwell hyn yn ei nofel ‘
1984
.’ Yma, yng ngwlad
Oceania, y
Ministry of Peace
sy’n cynnal rhyfel! Y
Ministry of Truth
sy’n dweud celwydd wrth bawb!
Mae llywodraethau’n aml yn defnyddio geiriau i guddio
beth maen nhw’n wneud. Un gair newydd yn y Saesneg yw
rendition
. Mae’n golygu ... wel,
pwy sy’n gwybod? A dyna’r pwynt. Mae llywodraeth yr Unol Daleithiau wedi gwneud
pethau dan yr enw
rendition
heb i neb sylweddoli beth oedd yn digwydd.
Ar ôl ymosodiad 9/11 roedd America’n dal miloedd o bobl
ar draws y byd, yn amau eu bod yn ‘beryglus.’ I’w gorfodi i roi gwybodaeth,
byddai America’n anfon y rhain i wledydd cyfeillgar, fel yr Aifft neu Bacistan,
lle bydden nhw’n cael eu poenydio nes siarad. Felly, ‘anfon-i’w-boenydio’ yw
ystyr
rendition
. Ond doedd neb yn gwybod.
O leiaf mae ein
gwleidyddion yn siarad yn glir. Wir? Yn 2005 dywedodd Jack Straw, yr
Ysgrifennydd Tramor, wrth aelodau seneddol nad oedd
‘dim gwir yn yr honiadau bod Prydain yn chwarae unrhyw ran mewn
rendition
.’
Geiriau plaen. Ond mae
grŵp protest o’r enw
Rendition Project
wedi darganfod bod 144 awyren Americanaidd wedi glanio ym
Mhrydain dan yr enw
rendition
. Geiriau plaen yn cuddio’r gwir.
Y mis hwn mae gair Saesneg newydd arall wedi codi –
justiciability
. Does neb yn deall
hwn, chwaith. Y cefndir yw bod gŵr o Libya o’r enw Abdul-Hakim Belhaj eisiau
mynd â llywodraeth Prydain i gyfraith. Roedd Mr Belhaj yn gwrthwynebu’r Cyrnol
Gaddhafi. Ond yn 2004 cafodd ei ddal gan swyddogion Prydain a’i anfon gyda’i
wraig at Gaddhafi –
rendition
arall. Yn Libya cafodd ei garcharu a’i boenydio tan y rhyfel
yn 2010.
Mae Mr Belhaj am gael iawndal gan lywodraeth Prydain. Ond
mae cyfreithwyr Llundain yn dweud nad yw’r achos ddim yn dod o dan gyfraith
Prydain! Y rheswm cyfreithiol yw – ‘
justiciability.’
Mewn gwirionedd, felly, mae’n golygu nad oes dim
justice
!
Pob lwc i Mr Belhaj yn
ei achos. A’r tro nesaf y gwelwch air nad ydych yn ei ddeall, byddwch yn ofalus
cyn ei ddefnyddio!
Pob hwyl, Robat
Myfyrdod Robat Powell o Bwrlwm, Mai 2013
Ninnau'n byw yn fras - a'r tlodion yn talu'r pris
BLE byddwch yn prynu eich dillad? Marks a Sparks neu Saville Row? Neu siop elusen – mae bargeinion i’w cael yno!
Yn y bôn, does dim ots ble rŷch chi’n prynu eich crysau neu’ch esgidiau. Ond ydych chi’n gwybod ble mae’r dillad yn cael eu gwneud? A sut lefydd yw’r ffatrïoedd sy’n eu cynhyrchu? Oes, mae ots am hynny.
Newydd ofnadwy oedd bod 352 o weithwyr dillad wedi cael eu lladd mewn trychineb yn Savar, Bangladesh. Roedd eu ffatri mewn adeilad wyth-llawr, a chwympodd yr adeilad arnyn nhw. Wrth i mi ysgrifennu, roedd cannoedd o weithwyr ar goll o hyd. Gallai nifer y meirwon gyrraedd mil.
Roedd dwy ffatri
New Wave
yn yr adeilad yn Savar yn gwneud dillad i gwmnïoedd Prydeinig fel Primark a Matalan.
Yn anffodus, nid dyma’r ddamwain gyntaf o’r fath yno. Ers 2005, cyn trychineb Savar, bu tua 700 o weithwyr farw yn ffatrïoedd dillad Bangladesh. Marw am fod safon adeiladu’r ffatrïoedd mor wael. A does braidd dim rheolau diogelwch ynddynt.
Ac eto, diwydiant dillad Bangladesh yw’r trydydd mwyaf yn y byd bellach o ran elw – ar ôl Tsieina a’r Eidal. Mae’r cwmnïoedd yn gwneud arian mawr trwy gynhyrchu i siopau yn y Gorllewin.
Ond pobl dlawd ryfeddol yw’r gweithwyr cyffredin. Y cyflog yno ar gyfartaledd yw £24 y mis!
Rŷn ni i gyd yn hoffi bachu bargen wrth brynu ein dillad, teganau i’n plant a llawer o nwyddau eraill. Ond mae’n werth aros cyn prynu i weld o’r label o ble maen nhw’n dod.
Os taw o Fangladesh, yr India, Fietnam neu Indonesia, mae hi hefyd yn werth gofyn yn y siop beth yw amodau gwaith y gweithwyr ffatri a wnaeth y peth. A faint maen nhw’n ennill.
Rŷn ni’n byw yn fras yma yn y Gorllewin, hyd yn oed mewn gwlad gymharol dlawd fel Cymru. Gweithwyr Bangladesh a mannau eraill sy’n talu’r gwir bris.
Pob bendith,
Robat
GAN ROBAT POWELL, ARWEINYDD CAPEL Y NANT
Myfyrdod Robat Powell o Bwrlwm Ebrill 2013
PROTESTIO V HYSBYSEBION Y LLUOEDD ARFOG YN STADIWM Y LIBERTY
UN o’r llefydd yn Abertawe sy’n cynnig gobaith i ni yw
Stadiwm Liberty. Mae’n un o hoff lefydd llawer o aelodau Capel y Nant!
Yma gallwn weld pobol ifanc yn dangos eu doniau
mewn gemau pêl-droed, rygbi neu gyngherddau pop.
Ond cefais dipyn o sioc yn ddiweddar wrth weld rhai
hysbysebion newydd yn y stadiwm. Posteri recriwtio pobl ifanc i’r Llynges
Frenhinol yw’r rhain. Ry’n ni wedi arfer gweld y Llynges yn ceisio recriwtio
trwy sôn am y cyfle i weld llefydd estron, cael hwyl yn yr haul, neu sgio yn yr
eira. Ond mae’r rhain yn wahanol.
Maen nhw’n dangos lluniau o long ryfel Prydain yn tanio
at long arall. Wrth ochr y lluniau mae’r sloganau:
‘You pass ... you shoot ... you score.’
Mae’r lluniau’n portreadu rhyfel fel
gêm. Mae lladd pobol eraill yn dipyn o hwyl, maen nhw’n dweud. Yr un peth â gêm
bêl-droed neu chwarae gêm gyfrifiadur.
Mae gwahaniaeth barn am y lluoedd arfog. Mae heddychwyr
yn erbyn defnyddio trais ar unrhyw gyfrif. Bu’r traddodiad heddychlon ymysg
Cristnogion Cymru yn gryf erioed. Mae eraill yn credu bod hawl gan bawb, a phob
gwlad, i amddiffyn ei hun.
Ond beth bynnag yw eich barn, rhaid
derbyn bod cymryd bywyd person arall yn beth difrifol dros ben. Duw sy’n rhoi
bywyd i ni. Mae bywyd pob un yn y byd yn sanctaidd.
Ond mae posteri fel y rhain yn y Liberty, a rhai o
hysbysebion y fyddin ar S4C, yn dangos diffyg parch at fywyd. ‘Gall lladd pobol
fod yn dipyn o sbort’, yw eu neges.
Rwyf wedi ysgrifennu at reolwr Stadiwm
Liberty i brotestio at natur yr hysbysebion hyn. Cawn weld beth yw ei ymateb.
Dyma’r stadiwm ble rydyn ni eisiau gweld pobol ifanc yn dangos eu doniau
creadigol.
Nid dyma’r lle i ddenu pobol ifanc Abertawe
at
y busnes lladd.
Pob
hwyl, Robat
| | |